

Gwneud Cais



Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn falch o roi llwyfan i gynhyrchwyr a busnesau bwyd bach, lleol ac annibynnol o Gymru. Gyda thros 80 o stondinau yn cynnig detholiad eang o gynnyrch, o brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, mae rhywbeth at ddant pawb!
Ydych chi'n fusnes bwyd a diod yng Nghymru?
Mae ceisiadau ar gyfer stondinwyr ar agor ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn, felly rydyn ni eisoes wedi dewis ein stondinwyr ar gyfer y digwyddiad eleni. Cofrestrwch isod i ymuno â'n rhestr e-bostio stondinwyr i dderbyn pecyn cais digwyddiad 2026 cyn gynted ag y caiff ei gyhoeddi.
Yr Ŵyl
Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Cynhelir yr Ŵyl Fwyd eleni ar 13-14 Medi 2025.
Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, mae Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.
Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru. O pizza i tacos, toesenni i hufen iâ - bydd rhywbeth at ddant pawb! Bydd yna hefyd ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten.
Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur!
Cefnogwch Ni
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at benwythnos llawn bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu oll!
Elusen ydyn ni, ac rydyn ni wrth ein bodd yn dod â chymunedau ynghyd, a bod yn lle i greu atgofion.
Os ydych chi’n teimlo’r un fath, cyfrannwch heddiw er mwyn cadw stori Cymru’n fyw i bawb ei mwynhau am ddim.
Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr - diolch.