Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn falch o roi llwyfan i gynhyrchwyr a busnesau bwyd bach, lleol ac annibynnol o Gymru. Gyda thros 70 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol, gall ymwelwyr fwynhau detholiad eang o gynnyrch, o brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus. O pizza i tacos, toesenni i hufen iâ - bydd rhywbeth at ddant pawb! Bydd yna hefyd ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten.
Dechreuodd 2Greedy Catering fel menter yn ystod Covid, gan gyflenwi brownis di-glwten i fecws lleol. Mae bellach wedi tyfu i fod yn swydd llawn amser i mi, ac rydym wedi ehangu i gynnig amrywiaeth o frownis a chacennau - pob un yn ddi-glwten!
Cradoc, Powys
Byns Bao blasus! Enillwyr Gwobrau Bwyd Stryd Cymru a Phrydain, sydd wedi ymddangos BBC Radio Wales, BBC Cymru a Saturday Kitchen.
Caerdydd
Rydym yn falch o weini amrywiaeth eang o gwrw, lager, seidr a gwirodydd crefft wedi'u bragu'n lleol, gan ddathlu'r gorau o ddiodydd crefft Cymru. Darganfoddwch ein dewis dethol o winoedd a diodydd pefriog, sy'n ddelfrydol i'w sipian wrth i chi fwynhau awyrgylch yr ŵyl.
Mae Barti Spiced yn gyfuniad o rym Caribïaidd, fanila, clof, oren a gwymon lafwr wedi'i bigo â llaw o arfordir Sir Benfro.
Sir Benfro
Sleisys cacen, cacennau bisged enfawr a bariau cacen mewn amrywiaeth o flasau.
Gŵyr
Selsig crefftus o safon, perffaith ar gyfer barbeciws, teithiau cerdded, neu i wledda gartref.
Aberteifi, Cardigan
Cawsiau o fri wedi'u creu â llaw o'r llaeth amrwd organig gorau, o ffynonellau lleol.
Llandysul, Ceredigion
Coffi arbenigol, diodydd poeth a chacennau organig.
Crefft, traddodiad a safon ym mhob un botel, mae ein dewis o winoedd a gwirodydd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Llandovery, Sir Gâr
Busnes bwyd stryd Eidalaidd. Yn arbenigo mewn gnocchi wedi'i ffrio a phasta ffres wedi'i drwytho ar olwyn gaws enfawr!
Mae Dirwest yn gwmni o ddiodydd di-alcohol sy'n ddathliad o Gymreictod i gynulleidfa eang. Di-alcohol, di-glwten (o dan 20ppm) figan, calori isel a blasus.
Saint Hilari, Bro Morgannwg
Dewis o doesenni wedi'u gwneud â llaw a'u llenwi â jam, cwstard, nutella a mwy.
Caerllion, Casnewydd
Caws a menyn Cymreig sydd wedi ennill sawl gwobr, yn syth o'r llaethdy yng ngogledd Cymru.
Hufenfa De Arfon
Bwyd stryd Mecsicanaidd go iawn gan gynnwys tacos, nachos, a seigiau ochr fel elote.
Pontypridd, Rhondda Cynon Taf
O galon Sbaen i'ch bwrdd, mae Ele's Little Kitchen yn gweini blasau wedi'u hysbrydoli gan fwyd heulog Murcia. Meddyliwch am paellas aromatig, tapas blasus, a seigiau wedi'u trwytho mewn traddodiad a chynhesrwydd. ¡Buen provecho.
Abertawe
Pizza ffwrn dân ar gael ym Marchnad Caerdydd neu mas o’n faniau. Pizza ffres a chynhwysion lleol sy’n coginio mewn 90 eiliad.
Stêc fflanc wedi'i goginio sous vide, tatws stwnsh â garlleg, chimichurri. Enillydd y "Prif Gwrs Gorau" yng Ngwobrau Bwyd Stryd Prydain 20021 ac yn ail yng Ngwobrau Bwyd Stryd Cymru 2025.
Cyffug moethus wedi'i wneud â llaw. Blasau Gwreiddiol, Fegan a Sbeislyd. Cyffug, ond ar ei newydd wedd!
Y Bont-faen, Bro Morgannwg
Coffi barista, diodydd poeth, a dewis o gacennau.
Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gâr
Brownis cartref amheuthun mewn amrywiaeth o flasau.
Caerfyrddin
Rydym yn gwneud toesenni moethus. Mae'r toes, y llenwadau a'r topins i gyd yn cael eu gwneud â llaw yn ein becws bach gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig lleol.
Cynhyrchydd bach yn creu cyffeithiau â llaw - jamiau, siytni, finegr ffrwythau - yn ardal hyfryd Penrhyn Gŵyr.
Coffi o ffynhonnell leol, wedi'i weini gan baristas proffesiynol.
Porc Cymreig, wedi'i goginio'n araf dros 16 awr. Rholiau porc a sglodion blasus wedi'u llwytho gyda phorc.
I Spy Pies: wedi'u gwneud â llaw gyda chariad a threftadaeth. Rydym yn defnyddio cynnyrch Cymreig a'u paratoi'n ffres ar gyfer yr ŵyl. Dewch i flasu ein pastai!
Y Barri, Bro Morgannwg
Rydym yn falch o ddod â blasau o fwydydd De India i chi gan ddefnyddio'r cyfuniad traddodiadol o sbeisys mewn ffordd fodern, unigryw a hwyliog.
Busnes teuluol o Gymru yw Mallows Beverages sy'n cynhyrchu gwirodydd arobryn gan gynnwys jin, bwrbon, rym a fodca.
Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf
Mama Lala ydym ni, stondin fwyd stryd fach o Sichuan sy'n gweini prydau wedi'u gwneud â llaw sydd wedi'u gwreiddio ym mlasau ein cartref yn ne-orllewin Tsieina. Gan ddefnyddio cynnyrch lleol, ffres o Gymru, ein nod yw dod â blasau Sichuan i Gymru, un pryd cartref ar y tro.
Rydym yn gwneud cacennau caws catref mewn potiau unigol. Mae gennym dros 40 o flasau ac rydym yn cyflenwi 30 o siopau gyda dewis o flasau gwahanol.
Rhydaman, Sir Gâr
Bwyd stryd Groegaidd go iawn; souvlaki wedi'i olosgi yn ffres.
Y medd gorau wedi'i grefftio â llaw gan ddefnyddio mêl a chynhwysion o'r safon uchaf.
Bangor, Gwynedd
Yn gweini cyw iâr â chrwst Parmesan wedi'u ffrio a brechdanau caws wedi'u grilio yn llawn o lenwadau cartref, sawsiau a mynydd o gaws!
Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf
Rydyn ni wrth ein boddau'n dod o hyd i'r danteithion perffaith i'ch ci, gyda phopeth wedi'i bobi gartref gan ddefnyddio cynhwysion ffres a naturiol. Galwch heibio iddyn nhw gael eu blasu.
Swydd Henffordd
Becws crefft lleol, yn gwneud bara surdoes a theisennau crwst â llaw.
Yn gwerthu Bara Brith, Pice ar y Maen, Torth Sinsir, Teisen Seidr Ralph, Teisen Ffrwythau Heb Siwgr Ychwanegol, Fflapjacs Fegan a Traybakes blasus eraill.
Seidr crefftus arobryn o Sir Benfro.
Tartenni cwstard traddodiadol Portiwgalaidd.
Mae The Real Ting yn dod â bwyd Jamaicaidd i chi, wedi'i ysbrydoli gan ryseitiau teuluol a'n hangerdd dros rannu diwylliant trwy fwyd.
Cyris Malaysia a roti wedi'i dynnu â llaw.
Casnewydd
Sawsiau, cynfennau a rhwbiadau sbeisys crefftus wedi'u cynhyrchu'n gynaliadwy mewn sypiau bach. Wedi derbyn ardystiad BCorp.
*Enillwyr ein Gwobr Cynaliadwyedd Stondinwyr 2024*
Hwlffordd, Sir Benfro
Mae Usk Valley Cheese Company yn cynhyrchu caws crefftus sydd â'i wreiddiau yn nhreftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog Dyffryn Wysg. Rydym yn cynhyrchu cawsiau lled-galed sy'n dathlu hanes, blasau a thraddodiadau lleol.
Busnes yng Nghaerdydd sy'n creu hufen iâ unigryw yn gymysg â ffrwythau o'u fan hufen iâ glasurol.