![](/media/53711/thumb_1600/Gwyl-Fwyd-Food-Fest-2023-webheader.jpg)
![](/block-media/Themes:FoodFestival/section-title-left.png)
![](/block-media/Themes:FoodFestival/section-title-right.png)
Gwybodaeth
![](/media/54442/thumb_800/gwyl-fwyd-Sain-Ffagan-204.jpg)
![](/media/54444/thumb_800/GF-2019-band-Llys-Llywelyn.jpg)
![](/media/54445/thumb_800/gwyl-fwyd-mwy-30.jpg)
Dyddiadau: Dydd Sadwrn 13/09/25 a Dydd Sul 14/09/25
Oriau agor: 10am-6pm
Oes pris mynediad i'r digwyddiad? Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim! Mae’r rhan fwyaf o raglen yr ŵyl am ddim, gyda rhai gweithgareddau ble bydd angen i chi dalu fel y ffair draddodiadol.
Oes angen i fi archebu tocyn? Nac oes, does dim modd i chi brynu tocyn o flaen llaw. Mae’r Ŵyl Fwyd yn ddigwyddiad am ddim cyhoeddus ac agored i bawb ar sail cyntaf i'r felin.
Beth yw pris parcio? Codir tâl parcio dyddiol arferol yr Amgueddfa (£7 trwy’r dydd ar hyn o bryd).
Ydw i'n gallu dod â’r ci? Cewch ddod â chŵn i Sain Ffagan, cyn belled eu bod ar dennyn byr (sydd ddim yn ymestyn). Dim ond cŵn tywys gaiff fynd i mewn i adeiladau hanesyddol, y caffis a’r orielau.
Pa fwydydd fydd ar gael? Bydd y Farchnad Fwyd yn llawn cynnyrch lleol gan gynnwys cacennau, cyffeithiau a chawsiau. Bydd yr Ardaloedd Bwyd Stryd yn llawn amrywiaeth o fwydydd o wahanol wledydd ar draws y byd, o fwydydd Cymreig traddodiadol i pizza, byrgyr, bwydydd figan, Mecsicanaidd, Siapaneaidd, Indiaidd, hufen iâ a llawer mwy. Bydd siopau, bwytai a chaffis yr Amgueddfa hefyd ar agor. Bydd y rhestr o stondinwyr yn cael ei gyhoeddi yn nes at y digwyddiad.
A fydd yna lawer o stondinau bwyd a all ddarparu ar gyfer gofynion dietegol? Byddwn yn dewis ein stondinwyr yn ofalus er mwyn sicrhau bod mwy o opsiynau ar gael i'r rhai sydd ag anghenion dietegol. Bydd yr arlwy yn cynnwys stondinau sy’n arbenigo mewn cynnyrch fegan a bwyd a diod heb gynhwysion penodol. Siaradwch â’r stondinwyr wrth archebu am wybodaeth lawn am alergenau.
Oes angen i mi ddod ag arian parod, neu galla i dalu â charden? Rydym yn eich annog i dalu â charden ble’n bosibl gan y bydd y rhan fwyaf o stondinau bwyd yn gallu derbyn taliadau carden. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi fod ag arian parod ar gyfer rhai o’r stondinau bwyd a’r gweithgareddau taladwy. Mae peiriant codi arian yn y prif adeilad, ond oherwydd y galw, rydym yn argymell i chi ddod ag arian parod gyda chi.
Pa weithgareddau bydd ar gael? Bydd digonedd o weithgareddau ar gael i'r holl deulu, o arddangosiadau coginio traddodiadol, i sgyrsiau a cherddoriaeth fyw. Bydd rhaglen yr ŵyl yn cael ei gyhoeddi yn nes at y digwyddiad.
Ble ar y safle bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal? Mae’r Ŵyl Fwyd yn digwydd ar draws y safle. Nodwch os gwelwch yn dda na chaniateir mynd â bwyd na diod i mewn i'r adeiladau hanesyddol na’r orielau.
Rydym yn disgwyl 12,000-15,000 o ymwelwyr y dydd i'r digwyddiad hwn felly bydd yn brysur. Yr amser prysuraf yw rhwng 11am a 2pm. Os byddai’n well gennych osgoi torfeydd mawr, rydym yn eich cynghori i ymweld y tu allan i'r oriau hyn.
Hoffwn i wirfoddoli; sut galla i fynd ati? Diolch yn fawr – ni allen ni gynnal digwyddiad fel hyn heb gefnogaeth ein Gwirfoddolwyr Digwyddiadau. Cysylltwch â’r Adran Wirfoddoli am fwy o wybodaeth am y rolau sydd ar gael: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk / (029) 20573002.
Ydych chi’n dal i chwilio am fwy o stondinwyr bwyd? Os ydych chi’n fusnes bwyd a diod ac â diddordeb mewn ymgeisio am stondin, ewch i'r dudalen hon os gwelwch yn dda.