Newyddion
Rhaglen yr Ŵyl Fwyd
O sgiliau syrcas i sgyrsiau, arddangosiadau coginio a cherddoriaeth fyw - mae rhywbeth at ddant pawb yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru!
Dewch i fwynhau cerddoriaeth fyw gan amryw o artistiaid wedi’u curadu gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, BBC Gorwelion a Tafwyl.
Bydd cynaliadwyedd wrth wraidd y digwyddiad eleni, ac rydym yn cydweithio â Bwyd Caerdydd fydd yn rhedeg ardal gweithgaredd ‘Bwyd Da’ i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o uchelgais Caerdydd i fod yn un o lefydd bwyd mwyaf cynaliadwy'r DU. Yn ardal Bwyd Da Caerdydd bydd gweithgareddau i’r teulu cyfan yn ymwneud â thyfu a choginio bwyd da, gwaeth beth fo’ch cyllideb. Yng nghwmni Beca Lyne-Pirkis (cogydd, cyflwynydd, awdur a seren y Great British Bake Off), bydd yr ardal yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau.
Fel rhan o weithgareddau y penwythnos mae sawl gweithgaredd addysgiadol wedi eu cefnogi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. O roi cynnig ar gorddi menyn â llaw, godro y gwartheg model a sut i fwyta fel Cymry Oes Fictoria, mae llun, mae’n gyfle da i droedio nol i’r gorffennol.Gyda dros 80 o stondinau, bydd yna digon o fwydydd a diodydd blasus i chi eu darganfod. Ewch i’r rhestr o stondinau yma.
Mae map yr ŵyl yn nawr ar-lein i'ch galluogi i gynllunio eich ymweliad o flaen llaw a gwneud y gorau o'ch amser yn yr amgueddfa.
Cymerwch gipolwg ar y rhaglen lawn a dechreuwch gynllunio eich penwythnos!
Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn digwydd ar 10 a 11 Medi rhwng 10am-6pm. Mynediad am ddim. Parcio £6.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Adfer Gwyliau Bwyd 2022 Bwyd a Diod Cymru.