Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf

12-13 Medi 2026

Newyddion

Pizza ar plat papur

Rhywbeth i gnoi cil... Bwyd Fegan a ‘Rhydd Rhag’

5 Medi 2022

Rhywbeth i gnoi cil... 

Mewn dim o dro bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ôl i dynnu dŵr o’n dannedd! 
Chwilio am fwyd fegan a ‘rhydd rhag’? Dyma ambell i ddewis blasus.  

 

Fegan 

Makasih  

Cyrri fegan. Oes angen dweud mwy?! 

Hello Good Pie 

Enw da. Peis fegan.  Syml.  

Pizza Ffwrnes  

Mae Ffwrnes yn cyfuno technegau Eidalaidd traddodiadol gyda’r cynnyrch Cymreig gorau. Un o’u pizzas blasus yw’r Marinara fegan - saws tomato, garlleg, oregano, basil ac olew olewydd.   

Mr Croquewich 

Brechdanau caws wedi’u grilio, yn cynnwys un gyda chaws fegan a siytni winwns coch.  

Tokyo Nights 

Awydd bwyd Japaneaidd? Beth am y gyozas madarch? Pum gyoza wedi’u stemio a’u ffrio, gyda saws ponzu, mayonnaise fegan, perlysiau ac olew chilli.  

  

Heb Glwten  

Pregos Street Food  

Beth am ‘picado’, bwyd poblogaidd o Bortugal - brisged cig eidion mewn grefi cynffon ychen gyda madarch ac olewydd, perlysiau a sbeisys, wedi’i weini gyda sglodion menyn garlleg a thomato.   

The Queen Pepiada  

Dim glwten o gwbl! Maen nhw’n defnyddio bara blawd corn.    

Ringo’s Dirty Dinner 

Gofynnwch am y ‘mac ‘n’ cheese’ heb glwten.  

  

Di-alcohol  

Drop Bear Beer 

Iechyd da! Mwynhewch gwrw di-alcohol.