7-8 Medi 2024

Newyddion

Cynaliadwyedd yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru

7 Medi 2022

Mae cynaliadwyedd yn bwysig i ni ac rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wneud ein gŵyl yn fwy gwyrdd. 

Beth am ddal y bws i'r ŵyl yn lle gyrru? Bydd Bws Caerdydd yn cynnal gwasanaeth drwy gydol y penwythnos. Edrychwch ar yr amserlen i drefnu eich taith. Mae pris eu tocynnau arbennig yn golygu y gall teulu deithio i'r ŵyl am £5.50 yn unig. Bydd bws ychwanegol am 6pm ar ddydd Sadwrn 10 medi er mwyn i chi fwynhau mwy o’r ŵyl. 

Ystyriwch ddod â'ch potel ddŵr a chwpan coffi amldro i'r ŵyl.

Rydyn ni'n gweithio gyda Refill Wales i ddangos sut y gall ymwelwyr leihau eu defnydd o blastig. Rydyn ni wedi ychwanegu pwyntiau dŵr yfed ar draws y safle i chi ail-lenwi eich poteli dŵr, a gallwch chi weld y cyfan ar app Refill Wales, neu ar fap yr Ŵyl Fwyd. 

Dewch â'ch cwpan coffi amldro i hawlio gostyngiad o 10% ar ddiodydd gan bob gwerthwr diod poeth, gan gynnwys caffis yr amgueddfa. 

Peidiwch poeni os nad oes cwpan neu botel ddŵr ganddoch chi! Cymerwch olwg ar ein cwpan Gŵyl Fwyd a'n potel ddŵr sydd wedi'i dylunio'n arbennig. Ar gael i'w brynu ar-lein neu o siop yr Amgueddfa. 

Rydyn ni wedi lleihau – a lle bo modd, cael gwared – defnydd plastig untro ar draws y digwyddiad. Gall yr holl wydrau peint o'r bariau gael eu hailddefnyddio a bydd stondinau bwyd yn gwerthu diodydd mewn caniau alwminiwm. 

Mae cynaliadwyedd mor bwysig i’n stondinwyr ag y mae i ni, ac maen nhw i gyd wedi cofrestru i ddilyn ein Canllaw Di-blastig. 

Bydd biniau ailgylchu ar draws yr Amgueddfa. Helpwch ni i gadw'r Amgueddfa'n lân drwy ddefnyddio'r bin ailgylchu cywir ar gyfer eich gwastraff. 

Rydyn ni’n cydweithio â Bwyd Caerdydd fydd yn cynnal ardal weithgaredd ‘Bwyd Da’ i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o uchelgais Caerdydd i fod yn un o lefydd bwyd mwyaf cynaliadwy'r DU. Yn ardal Bwyd Da Caerdydd bydd gweithgareddau i’r teulu cyfan yn hyrwyddo tyfu a choginio bwyd da, waeth beth fo’ch cyllideb. 

Bydd FareShare Cymru yn casglu a dosbarthu bwyd dros ben o stondinwyr y digwyddiad, i sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd i wastraff.

Cynhelir Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru ar 10 a 11 Medi rhwng 10am-6pm. Mynediad am ddim. Parcio £6.