7-8 Medi 2024

Newyddion

Gŵyl Fwyd Cynaliadwy

16 Hydref 2022

Roedd hi'n bleser croesawu ein Gŵyl Fwyd yn ôl i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru eleni! Ar ôl dwy flynedd o wyliau digidol, roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl yn blasu bwydydd, mwynhau gweithgareddau gyda'r teulu a gwrando ar y gerddoriaeth fyw wych. 

Roedd cynaliadwyedd yn thema bwysig eleni, ac fe weithion ni'n galed i leihau effaith amgylcheddol yr ŵyl. Dyma rai o'r llwyddiannau eleni: 

  • Defnyddiwyd 4,241 o gwpanau amlddefnydd yn y bariau yn yr ŵyl

  • Hawliodd 156 o gwsmeriaid ostyngiad ar ddiod boeth drwy ddod â chwpan amlddefnydd yn ôl

  • Teithiodd 648 o bobl i'r ŵyl ar wasanaeth Bws Caerdydd 

  • Casglodd FareShare Cymru 100kg o fwyd dros ben ar ddiwedd y penwythnos – gwerth 240 pryd o fwyd! Wnaeth nifer o stondinau gwerthu allan o gynnyrch yn ystod y digwyddiad yn golygu bod dim gwastraff bwyd!

  • Ni ddefnyddiodd y contractwyr gwastraff domen wastraff – cafodd unrhyw wastraff oedd yn methu cael ei ailgylchu ei brosesu i greu ynni

  • Cyflwynwyd map digidol sy'n lleihau'r angen am brintio 

 

Roedd cynaliadwyedd yn amlwg yn y rhaglen hefyd. Darparodd Good Food Cardiff weithdai, sgyrsiau ac arddangosiadau ar dyfu a choginio bwyd ar bob cyllideb. 

 

Cafodd nifer o ymwelwyr ifanc gyfle i gamu nôl mewn amser a mwynhau gweithgareddau traddodiadol, o odro gwartheg a choginio yng Nghymru oes Fictoria yn Ffermdy Llwyn yr Eos, i greu menyn yn Abernodwydd. Cefnogwyd digwyddiadau addysg yr ŵyl gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.

 

Rydyn ni'n eiddgar i glywed am eich profiad chi. Lleisiwch eich barn drwy lenwi'r holiadur byr hwn. Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru Food Festival 2022 

 

Cefnogwyd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru gan Gronfa Adfer Bwyd a Diod Cymru 2022.