7-8 Medi 2024

Newyddion

Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan

13 Mehefin 2024

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 7 a 8 Medi, gyda gwledd o stondinau bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu cyfan.


Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft i’w mwynhau o amgylch yr adeiladau hanesyddol. 


Bydd cerddoriaeth wedi’u curadu gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru a Llwyfan Newydd.


Caiff rhai o weithgareddau’r penwythnos eu noddi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. O wneud menyn i ddysgu am fasgedi siopa pobl ganrif yn ôl, gall ymwelwyr fwynhau mynd yn ôl mewn amser yn rhai o adeiladau eiconig yr Amgueddfa. Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas - bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur! 


O brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd flasus, bydd rhywbeth at ddant pawb! 


Bydd yr Amgueddfa ar agor tan 6pm ar y ddau ddiwrnod, er mwyn i ymwelwyr wneud y mwyaf o’r ŵyl.


Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan. 

Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n restr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl.