7-8 Medi 2024

Newyddion

Cyhoeddi dwy ardal newydd ar gyfer Ŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru

21 Awst 2024

Diolch i gefnogaeth Bwyd a Diod Cymru rydym yn falch i barhau gyda’n partneriaeth â Food Cardiff i gynnal cyfres o weithdai a sesiynau i deuluoedd yn Ardal Bwyd Da Caerdydd yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru eleni.


 Rydym hefyd yn gyffrous i gyhoeddi pabell goginio newydd wedi’i arwain gan Nerys Howell - Food Specialist bydd yn ffocysu ar gynnyrch a bwyd tymhorol o Gymru.


Yn yr Ardal Bwyd Da bydd gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan ddysgu am fwyd sy’n dda i bobl a’r blaned. Wedi'i gynnal gan Bwyd Caerdydd gyda Beca Lyne-Pirkis (Cogydd, Cyflwynydd, Awdur a Seren Great British Bake Off), bydd y babell yn cynnwys gweithdai ysbrydoledig, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau i ddathlu bwyd lleol.


Mae O'r Pridd i'r Plât yn ardal newydd sbon i'r ŵyl eleni!
Ymunwch â'r cogydd a'r arbenigwr bwyd, Nerys Howell, am gyfres o sesiynau i werthfawrogi a mwynhau cyfoeth o gynnyrch arbennig o Gymru. Bydd y rhaglen yn cynnwys arddangosiadau coginio, sesiynau blasu bwyd a diod, sgyrsiau gyda chynhyrchwyr lleol, a chyfle i ddysgu mwy am hanes a threftadaeth bwyd yng Nghymru trwy gasgliadau'r Amgueddfa a'r cynnyrch sy'n cael eu cynhyrchu yma yn Sain Ffagan.
 

Am ragor o wybodaeth, cymerwch olwg ar raglen yr ŵyl