Digwyddiad: Ardaloedd Bwyd Stryd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Bydd ein stondinau Bwyd Stryd wedi eu rhannu i ddau ardal wahanol – Cilewent a’r Tanerdy. Yno cewch ddewis o amrywiaeth o fwydydd o wahanol wledydd ar draws y byd, o fwydydd Cymreig traddodiadol i pizza, byrgyr, bwyd môr, bwydydd Mecsicanaidd, Siapaneaidd, Indiaidd, hufen iâ a llawer mwy. Bydd yna ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten. Bydd ein bar mawr hefyd wedi'i leoli yma yn gwerthu eu hamrywiaeth o gwrw, gwinoedd, gwirodydd a diodydd meddal.