Y Rhaglen
Digwyddiad:Digwyddiadau Ffrinj
Caiff Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru 2022 ei chynnal yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar 10 & 11 Medi. Fodd bynnag, mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi rhaglennu digwyddiadau eraill ym mis Medi yn ymwneud â'r thema bwyd, ac fe gaiff rheiny eu cynnal yn rhai o'n safleoedd eraill ac ar-lein.
Sgwrs Amgueddfa: Hanes Gwneud Seidr yng Nghymru
Digwyddiad Digidol
Nos Iau 8 Medi, 6 - 6:30pm
Hanes cynhyrchu seidr yng Nghymru, gyda lluniau. O gyfeiriadau anelwig cynnar i'w dwf fel arfer gweledig cyffredin yn y 18fed a'r 19eg ganrif, i'w ddirywiad, a'i adfywiad yn niwedd yr 20fed ganrif.
Diod alcoholig wedi'i fragu drwy eplesu sudd afal yw siedr. Seidr oedd diod gyffredin nifer fawr o drigolion gororau Cymru tan ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd cynhyrchu seidr yn grefft fedrus a hynafol oedd yn gyffredin tan ddiwedd y 1950au, pan ddisodlwyd y grefft gan gynnyrch y cwmniau masnachol. Byddai seidr cartref yn parhau i gael ei gynhyrchu ar raddfa lai gan ffermdai, wnaeth gadw'r grefft yn fyw cyn i do newydd o fragwyr crefft gymryd yr awenau yn y 1990au, gan arwain at yr adfywiad a'r datblygiad presennol.
Cynhelir y sesiwn yma yn Gymraeg.
Mwy o wybodaeth a thocynnau yma
Noson Swper GRAFT
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Nos Wener 9 Medi, 6.30pm
Pris: £15
Ymunwch â ni yng ngardd gymunedol GRAFT ar 9 Medi fel rhan o Ŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru, am bryd o fwyd tymhorol wedi’i goginio yn ein popty tân coed a adeiladwyd gan y gymuned. Byddwn yn croesawu cynhyrchwyr bwyd lleol, llysgenhadon a phrojectau cymunedol o’r ddinas ar gyfer gwledd go wahanol.
Mwy o wybodaeth a thocynnau yma
Swper Oasis yn Sain Ffagan
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB
Nos Wener 9 Medi, cyrraedd am 6pm
Pris: £30
Ymunwch â ni am wledd unigryw yn awyrgylch hanesyddol hudolus Llys Llywelyn.
Bydd tîm cegin Oasis yn cyfuno bwydydd traddodiadol Cymreig gyda dylanwadau o bob cwr o’r byd. Dewch draw am noson o adloniant wrth i ni ddathlu’r ffordd y gall bwyd ddod â diwylliannau ynghyd, yn y digwyddiad arbennig hwn gan Glwb Swper Oasis yn Sain Ffagan.
Mwy o wybodaeth a thocynnau yma
Sgwrs Amgueddfa: Hortus Culture
Digwyddiad Digidol
15 Medi 2022, 6 -7pm
Tallwch Beth Allwch - Rhodd a awgrymir: £5
Mae tystiolaeth archaeolegol o'r Brydain Rufeinig yn dangos fod garddio i hamddena a mwynhau yn boblogaidd gan Rufeiniaid cyfoethog. Y gair Lladin am ardd yw 'hortus', a dyma wreiddyn y gair Saesneg horticulture. Mae'r sgwrs hon yn amlinellu'r syniad o blannu gardd boblogaidd wedi'i hysbrydoli gan arferion Rhufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Caerllion. Byddwn ni'n edrych yn gyflym ar dystiolaeth o erddi a garddio Rhufeinig.
Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg.
Mwy o wybodaeth a thocynnau yma
Arddangosfa: Bwyd Lleol
Lleoliad: Amgueddfa Genedlathol y Glannau, Abertawe
Dyddiad: 2 Ebrill - 18 Medi 2022
Pris: Am Ddim
Darganfyddwch rai o'n cerbydau dosbarthu bwyd anhygoel o'r gorffennol. Dysgwch am rai o'r bobl, busnesau a phrosiectau sy'n gysylltiedig â siopa'n lleol yn y gorffennol ac yn y presennol. Gall ‘prynu’n lleol’ olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Beth mae'n ei olygu i chi?
Gwybodaeth
Ymweld
Parcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadMap safle
Lawrlwythwch map o’r safleLleoliad
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd