Digwyddiad: Dewch i wirfoddoli
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Lleoliad: Tai Crwn Bryn Eryr o Oes yr Haearn
Dewch i wirfoddoli am 5 munud! Cewch gyfle unigryw i'n helpu i ofalu am yr Amgueddfa drwy blannu bylbiau Clychau'r Gog. Yma hefyd cewch gyfle i siarad â rhai o'n garddwyr a'n gwirfoddolwyr garddio, a dysgu mwy am yr holl gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn Amgueddfa Cymru - o arddio i grefftio, gwerthu llyfrau i waith cadwraeth.