Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

12-13 Medi 2026

Programme

Dau dafell o fritatta wedi eu gweini mewn pentwr ar blât

© Matt Davenport

Bocs Bwyd Oasis: Kookoo Sabzi Iranaidd (VG)

22 Awst–6 Medi 2021

Eleni, bydd Oasis a phrosiect Y Plât yn dod â phrydau blasus at garreg eich drws. Archebwch un o Focsys Cynhwysion Gŵyl Fwyd Amgueddfa ​​Cymru a dysgwch sut i wneud rhai o'u prydau traddodiadol mwyaf poblogaidd; o gysur eich cartref eich hun.

Bydd pob bocs yn cael ei baratoi gan Dîm Cegin Oasis a bydd yn cynnwys yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch chi, yn ogystal â cherdyn rysáit sy'n cyd-fynd â'r pryd. Bydd y bocsys hefyd yn cynnwys côd QR a fideo fel eich bod yn gallu gwylio’r arddangosiad coginio cam wrth gam.

Rysáit: Kookoo Sabzi Iranaidd (VG)
Fritatta perlysiau persawrus yn llawn dil ffres, persli, coriander a chennin Cymreig; wedi ei weini gyda Salad Shirazi. Dathliad arbennig o sbeis persawrus bwyd Persia.
Dim alergenau yn bresennol
£11 (y bocs)

Hefyd ar gael: Peli Cig Oen Swdanaidd

ARCHEBU

Mae'r bocsys ar gael i'w harchebu tan ddydd Llun 6ed o Fedi, ond bydd y blychau ar gael i'w dosbarthu neu eu casglu (o adeilad Oasis yn Sblot, Caerdydd) ar ddydd Gwener 10fed o Fedi, mewn pryd ar gyfer penwythnos Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru. Sylwch y codir tâl ychwanegol o £6 y bocs i'w gludo i'ch cartref.

Bydd pob bocs yn cynnwys digon o gynhwysion ar gyfer un dogn.

Ar ôl talu byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau yn rhoi manylion pellach am sut a phryd y gallwch chi gasglu'ch bocs neu, fel arall, pryd y bydd y bocs yn cael ei ddosbarthu atoch chi.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn â chynnwys y bocsys, ymholiadau talu, danfon a chasglu neu unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill, cysylltwch â: matt@oasiscardiff.org

 

Rydym yn edrych ymlaen at rannu'r ryseitiau gwych hyn gyda chi a gobeithiwn y byddwch yn rhannu eich lluniau bwyd gyda ni. Tagiwch ni ac Amgueddfa Cymru gan ddefnyddio'r dolenni isod:

@OasisCDF

@AmgueddfaCymru

#GwylFwydDdigidol


Gadewch i ni wybod beth oeddech chi’n feddwl.
Rydym ni wir yn gobeithio eich bod wedi mwynhau – ond os ddim, rydym ni dal eisiau gwybod! Bydd yn gymorth mawr i ni allu gwella digwyddiadau digidol yn y dyfodol.

CWBLHEWCH HOLIADUR BYR