Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

12-13 Medi 2026

Programme

Gwesty'r Vulcan © Amgueddfa Cymru

Stondin Amgueddfa Cymru - Gwesty'r Vulcan

9 a 10 Medi 2023

10:00-18:00

Lleoliad: Lawnt Oakdale (gyferbyn â 24)

Ymunwch â ni y tu allan i Westy’r Vulcan lle bydd ein curadur adeiladau hanesyddol yn rhannu’r stori am sut a pham mae gan dirnod eiconig Caerdydd gartref newydd yn Sain Ffagan!
  • Cyfle i'r plant fod yn greadigol yn yr orsaf grefftau sydd wedi'i hysbrydoli gan y Vulcan.
  • Dychmygwch eich hun fel ‘Y Vulcan’ a dewch yn rhan o’r gwaith celf gwreiddiol gyda’n prop llun arwydd tafarn!
  • Rydym angen eich help! Rydym am gasglu a chofnodi hanes Gwesty'r Vulcan. Oeddech chi'n rhan o'r ymgyrch i achub y Vulcan, neu yno ar ei noson olaf o agor ym mis Mai 2012? Rhannwch eich atgofion a'ch lluniau gyda ni.
 
Rhannwch eich ymweliad a stori Gwesty'r Vulcan, helpwch i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch codi arian gan gefnogi cwblhau'r dafarn i ailagor yn 2024. Cefnogwch brosiect Gwesty'r Vulcan | Amgueddfa Cymru