Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

12-13 Medi 2026

Programme

Darlun i hyrwyddo sioe am wylio adar. Ynddo mae person yn gwisgo het fwced ac wedi'i amgylchynu gan adar, bryniau, llyfrau, ysbienddrych ac offer cerdded.

'Twitch, Glitch & Flap' gan Gwmni Theatr Taking Flight

13 a 14 Medi 2025

11:00-15:00

Tri adarwr. Tair ffordd wahanol o fynd ati. Un gorchwyl amhosib : gweld yr aderyn prinnaf.

Ymunwch â'r adarwr traddodiadol a diysgog Fflap, y newydd-ddyfodiad di-glem Twitsh, a'r arbenigwr ar dechnoleg a chybolwr rhith realiti (VR) Glitsh, wrth iddynt grwydro Sain Ffagan ar helfa adar fwyaf yr Haf. Ymunwch yn yr hwyl, y clownio, a digon o annibendod hefyd yn y cynhyrchiad dieiriau hygyrch yma, sydd yn fwrlwm o chwerthin, chwilfrydedd a rhyfeddod.

Yma yng Nghwmni Theatr Taking Flight rydym yn creu cynyrchiadau theatr eofn ac anghyffredin gyda pherfformwyr sy’n Fyddar, yn anabl, a heb fod yn anabl.