7-8 Medi 2024
Telerau ac Amodau
Ydych chi'n bwriadu ymuno â ni am benwythnos o fwyd blasus, arddangosiadau a cherddoriaeth fyw ar 7 ac 8 Medi?
Cofrestrwch i fod y cyntaf i glywed am yr holl fandiau, gweithgareddau a masnachwyr bwyd gwych. Byddwch hefyd yn cael côd gostyngiad o 10% i'w ddefnyddio yn Siop yr Amgueddfa yn Sain Ffagan.
Y manylion pwysig:
- Dim ond yn ystod penwythnos yr Ŵyl Fwyd, 7 ac 8 Medi 2024, y bydd y gostyngiad o 10% yn ddilys.
- Bydd y côd gostyngiad o 10% yn cael ei e-bostio atoch chi ar 4 Medi 2024.
- Mae’r gostyngiad o 10% ar gael yn Siop yr Amgueddfa yn Sain Ffagan yn unig. Mae Siop yr Amgueddfa wedi ei leoli ger y Dderbynfa yn y brif fynedfa. Nid yw’r cynnig hwn yn ddilys yng nghaffis yr Amgueddfa, Siop Gwalia, Siop Losin, Pysgodyn, stondinau bwyd, diod a chrefft y digwyddiad nac unrhyw un o safleoedd eraill Amgueddfa Cymru.
- Nid yw’r cynnig hwn yn gwarantu mynediad nac yn rhoi blaenoriaeth i chi i gael mynediad I'r digwyddiad.
- Bydd maes parcio’r Amgueddfa yn brysur, ac efallai bydd yn rhaid i chi giwio am le parcio.
- Yn ystod penwythnos yr Ŵyl Fwyd, bydd siop anrhegion yr Amgueddfa ar agor rhwng 10am-6pm.
- Bydd cyhoeddiadau ecsgliwsif am y digwyddiad yn cael eu rhannu gyda chi trwy’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio i gofrestru.