Ymweliad ysgol i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn Big Pit! Archwiliwch a phrofwch:
Gweithdai addysg:
Plant y Pwll Glo: Gweithio yng Nghymru'r Chwyldro Diwydiannol (Cam Cynnydd 3)
Sut oedd bywyd i'r plant a oedd yn gweithio ym mhyllau glo Cymru?
O'r Pwll i'r Iard Chwarae: Plentyndod yng Nghymru wrth i'r Wlad Newid (Cam Cynnydd 2)
Camwch yn ôl mewn amser i brofi diwrnod ym mywyd y plant oedd yn byw yn ardaloedd glofaol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dewch i gael cip ar fywyd yn y gwaith, y cartref a'r ysgol, a darganfod pa mor wahanol yw bywyd i blant heddiw.
Mewn i'r Drifft: Profiad danddaear (Cam Cynnydd 2)
Beth yw glo a sut fyddai'n cael ei gloddio yng Nghymru? Dysgwch am hanes y dynion, menywod, plant ac anifeiliaid fu’n gweithio dan ddaear.
Glo Mân: Glowyr a Pherchnogion y Pyllau Glo mewn 30 munud (Cam Cynnydd 3)
Dysgu am fywydau pedwar dyn a menyw o orffennol diwydiannol Cymru. Fe gewch archwilio themâu mudo, rôl glo stêm Cymru, peryglon y diwydiant glo a datblygiad diwydiannol Cymru.
Glo Mân: Streiciau Glowyr yng Nghymru mewn 30 munud (Cam Cynnydd 4)
Darganfyddwch fwy am brofiad streiciau glowyr yng Nghymru, ac edrych ar yr effaith a gawson nhw ar lowyr, eu teuluoedd a bywyd mewn cymunedau diwydiannol.
Hefyd: '12 Mis Allan' - 'Pan Oedd Glo yn Frenin' - gweithdy rhithiol AM DDIM sy’n adeiladu ar y daith danddaearol ac all gael ei wneud yn y dosbarth dros Microsoft Teams cyn, neu ar ôl eich ymweliad.
Taith Danddaearol - AM DDIM!
Teithiwch 90 metr (300 llath) danddaear a chael taith unigryw a chyfareddol drwy ran o'r hen waith glo gydag un o Dywyswyr Glofa Big Pit.
Brenin Glo - AM DDIM!
Mwynhewch brofiad clyweledol cyffrous ag arddangosfeydd o offer pyllau glo modern yn Orielau Glofaol Big Pit.
Y Baddondai Pen Pwll - AM DDIM!
Yn adeilad y Baddondai mae amgueddfa sy’n defnyddio gwrthrychau a delweddau i adrodd stori cloddio am lo yng Nghymru.
Adeiladau Hanesyddol - AM DDIM!
Gallwch chi weld a darganfod mwy am adeiladau ac offer o gwmpas yr Amgueddfa fyddai’n hanfodol i’r gwaith cloddio yn Big Pit
I ddysgu mwy am y dyddiadau sydd ar gael a'r costau, e-bostiwch igpitemail@museumwales.ac.uk gan gynnwys enw'r ysgol, nifer y disgyblion, oed y dosbarth a'ch dyddiadau delfrydol.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650