Microlithau o Burry Holms
Microlithau
9,000 o flynyddoedd yn ôl un o'r arfau pwysicaf a ddefnyddid i chwilio am fwyd oedd microlithau - adfachau a wnaed o gerrig a gafodd ddylanwad mawr ar fywyd yn ystod y cyfnod Mesolithig.
Rhwng 9200 a 4000CC (yn ystod y cyfnod Mesolithig) roedd trigolion Cymru yn ennill eu bywoliaeth drwy hela anifeiliaid, pysgota a chasglu planhigion bwytadwy. Roedd tryferi a gwaywffyn yn arfau cyffredin a gallai'r adfachau cerrig (microlithau), oedd yn rhan annatod ohonynt, glwyfo prae ac achosi archoll ddifrifol.
Câi microlithau eu cynhyrchu o lafnau fflint a châi pob un ei drin yn ofalus er mwyn creu blaen llym. Ar ei ben ei hun mae microlith yn rhy fach i achosi unrhyw niwed difrifol, ond pan gaiff dwy res ohonynt eu gosod a'u gludio ar goes gwaywffon gwnânt arf effeithiol.
Rhwng 1923 a 2001 darganfuwyd dros bedwar ugain o ficrolithau ar safle Burry Holms, ynys fechan ar arfordir gogledd-orllewinol Penrhyn Gŵyr. Yma, arferai grŵp o helwyr-gasglwyr dreulio rhan o'r flwyddyn yn hela ceirw coch, yn pysgota dyfroedd afonydd cyfagos, ac yn hela cnau.
Burry Holms
Er bod cloddiadau diweddar gan archaeolegwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos nad yw coesau pren nac asgwrn arfau'r helwyr hyn yn goroesi ym mhriddoedd Burry Holms, mae gan y microlithau y cafwyd hyd iddynt stori ddifyr i'w hadrodd.
Mae pennau nifer ohonynt wedi torri, gan adael ar ôl graith ddadlennol sydd, o bosibl, yn dystiolaeth o'r niwed a achoswyd ganddynt pan drawodd yr arf anifail yn ystod helfa. Yn ôl pob tebyg, byddai gwaywffyn oedd wedi torri eu cario nôl i'r gwersyll lle byddai microlithau newydd yn cael eu gosod yn lle'r rhai toredig.
Yn achos ail ficrolith, sy'n cynnwys toriad gwrthdaro, y pen sydd wedi goroesi. Yn ogystal â hynny, ar wyneb y pen ceir patrwm sy'n awgrymu y bu mewn tân, rywbryd neu'i gilydd.
Mae'n bosibl y cyflawnodd y microlith fflint hwn ei waith drwy ladd carw coch, ac yna goroesodd ei ben yng nghanol y cig pan gafodd hwnnw ei goginio a'i fwyta - digwyddiad tebyg heddiw fyddai dod o hyd i belen blwm mewn pastai gwningod!
Darllen Cefndir
'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 40, tt88-89 (2000).
'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 41, tt126 (2001).
Late Stone Age Hunters of the British Isles gan C. Smith. Cyhoeddwyd gan Routledge (1992).
sylw - (14)
i will fail