Planhigion Popeth
Ble mae cnau daear a thatws yn tyfu? Beth yw tomatos? Archwilio’r Planhigyn Popeth dychmygol a dysgu mwy am y planhigion ar eich plât.
Hadau yw ffa. Hadau planhigyn ffa yw ffa ac maen nhw’n tyfu mewn coden. Rydyn ni’n bwyta’r goden hefyd weithiau. Mae ffa yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â phys.
Ffrwyth yw tomato. Ffrwyth planhigyn tomato yw tomatos. Os ydych chi’n sleisio tomato gallwch chi weld yr hadau ynddo. Mae tyfwyr tomatos yn defnyddio cacwn yn eu tai gwydr i beillio’r blodau er mwyn cynhyrchu tomatos.
Ffrwythau yw eirin. Hedyn yw’r garreg sydd mewn eirin. Mae’r darn noddlawn blasus yn denu anifeiliaid (gan gynnwys ni!) er mwyn helpu i wasgaru’r hadau.
Blodau yw clofau. Blagur blodau sych coeden drofannol yw clofau cyfan. Yn Indonesia caiff y rhan fwyaf o glofau eu cynhyrchu, lle mae pobl yn eu cynaeafu â llaw cyn eu sychu yn yr haul
Rydyn ni’n bwyta dail y perlysiau hyn. Mae gan oregano a mintys ddail persawrus. Mae pobl ledled y byd yn defnyddio perlysiau i wneud te neu i ychwanegu blas wrth goginio. Mae gwyddonwyr yn credu bod yr olew hanfodol sy’n rhoi’r arogl arbennig i’r dail wedi datblygu dros amser er mwyn rhwystro anifeiliaid rhag eu bwyta.
Rydyn ni’n bwyta dail winwns, cennin a chennin syfi. Gallwn dynnu haenau o groen winwns. Deilen arbenigol yw pob haenen, ac mae’r planhigyn yn eu defnyddio i storio bwyd a dŵr. Yn ôl yr hanes, dyma Dewi Sant yn cynghori milwyr i wisgo cennin er mwyn adnabod ei gilydd yn hawdd ar faes y gad.
Gwreiddiau yw moron. Dim ond pedair gwlad yn y byd sy’n cynhyrchu mwy o foron na’r DU rydyn ni’n tyfu cymaint ohonyn nhw. Moron piws neu felyn oedd y rhai cynharaf. Yna, dechreuodd bridwyr planhigion ddatblygu moron oren ddaeth yn boblogaidd dros ben.
Coesynnau danddaear yw tatws. Mae planhigion tatws yn storio carbohydrad (startsh) yn y coesynnau danddaear arbennig hyn o’r enw cloron. Mae tatws yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â thomatos, pupurau a tsilis.
Hadau yw cnau daear. Mae cnau daear yn cael eu cynaeafu o dan y ddaear. Pan fydd pryf yn peillio blodau’r planhigyn cnau daear, mae codennau yn datblygu gyda’r cnau (hadau) y tu mewn. Mae’r codennau wedyn yn cael eu gwthio’n araf i mewn i’r ddaear wrth i goes y goden dyfu’n hirach.