Dogfennu'r Gorffennol - Archif Gohebiaeth Tomlin
John Read le Brockton Tomlin oedd un o'r casglwyr cregyn uchaf ei barch yn ei gyfnod. Gan Amgueddfa Cymru mae ei gasgliad helaeth o gregyn ac archif ei ohebiaeth.
Amcangyfrifir fod yr archif yn cynnwys ymhell dros fil o ddogfennau yn dyddio o ddechrau'r 1800au i ganol y 1900au. Mae'n gasgliad o'r holl ohebiaeth rhwng Tomlin a nifer o'i gymdeithion cregyn ledled y byd.
Gwnaed nifer o ddarganfyddiadau diddorol wrth gatalogio'r archif hwn. Eglurwyd agweddau o fywydau'r casglwyr, gan adrodd am deithiau darganfod, afiechyd a chaledi personol, rhyfel, gwahoddiadau cinio a chardiau Nadolig.
Mae dewis o eitemau o'r archif ar gael isod.
Golwg agos: Llun o'r casglwr cregyn o Japan, Shintaro Hirase, ei wraig a'i chwech o blant.
Golwg agos: Llythyr oddi wrth Yoichiro Hirase yn dweud sut arweiniodd ei afiechyd at gau ei amgueddfa yn Kyoto, Japan.
"Rwy'n aml yn teimlo poen difrifol yn yr abdomen, a thwymyn. Mae'n bwysig iawn i mi orffwys yn llwyr, ac rwyf, felly, yn gorfod bod yn llonydd a gorwedd yn dawel yn y gwely".
Golwg agos: Cerdyn Nadolig oddi wrth William Evens Hoyle, cyfarwyddwr cyntaf Amgueddfa Cymru, 1909-1926.
Golwg agos: Cyfarchion y tymor a cherdd!
"Here, direct from a Ceylon friend
A Butter-firkin cone I send.
'Tis said to be the largest known,
(Well, friend, that's not for me to own)
Linnaeus, Martini, Sowerby, Reeve,
Might have a bigger up their sleeve.
If this should prove the largest size
'Twould be to me a great surprise.
Notice its bulk and elevation,
("The finest Betulinus in Creation").
Golwg agos: Llythyr oddi wrth y casglwr cregyn Americanaidd, Joseph Emerson, yn cyhoeddi ei ymddeoliad.
"...Rwyf bellach yn 86 a hanner mlwydd oed, ac mae'n rhaid i mi ffarwelio gyda'r gwaith yr wyf yn ei garu ac wedi cyfranogi ynddo cyhyd. Mae'n ormod o dreth ar fy nerfau...".
Golwg agos: Gwahoddiad i ginio
"Bydd eog hallt, darn o gig oen a salad yn barod ar eich cyfer yma am chwech yfory".
Golwg agos: Gwahoddiad oddi wrth y Parchedig Ellerton Alderson i Tomlin, yn cynnig ymweliad gyda'i dŷ yng ngorllewin Sussex.
"Mae'r orsaf rheilffordd agosaf yn Goring yn ddiwerth i bob pwrpas, y gwasanaeth trên, fel y dywedwch, yn 'bwdr' ".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post oddi wrth W. Junk, Berlin, 18 Ebrill 1933.
"Er gwaethaf fy ngwreiddiau Iddewig, nid wyf wedi dioddef aflonyddwch".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post gan y casglwr a deliwr cregyn Almaenaidd, Martin Holtz, 1 Chwefror 1928.
"Erbyn y rhyfel, fodd bynnag, mae fy holl fodolaeth wedi'i ddinistrio, ac yn arbennig fel naturiaethwr, teithiwr a deliwr. Heb fodd a heb gefnogaeth, nid oes modd i mi barhau gyda'm menter wyddonol".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post oddi wrth y cregynegwr o Japan, Yoichiro Hirase, 1 Rhagfyr 1918.
"Dymunaf i chi'r Nadolig mwyaf llawen a'r flwyddyn newydd hapusaf, gyda phob math o lwc dda, yn arbennig ar yr achlysur hwn pan fo golau siriol heddwch wedi cychwyn gwawrio i yrru'r cymylau diflas o ddychryn ac arswyd i ffwrdd, y rhai a fu'n drwm dros yr holl fyd am bedair blynedd a hanner, a achoswyd gan y Rhyfel Ewropeaidd mawr, yr ysgytwad hyllaf a'r helaethaf a brofwyd erioed ar y ddaear".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth y cregynegwr Americanaidd Walter Eyerdam, 4 Awst 1935.
"Ymddengys fod fy ngwraig wedi'i hysbrydoli gan y system newydd a weithredwyd gan Adolf Hitler ac adfywiad y cynnydd a'r Ysbryd cenedlaethol ymysg Almaenwyr. Fy nymuniad gwirioneddol yw na fydd rhwyg eto rhwng yr Almaen a Lloegr...".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth La Société Guernesiaise, 12 Hydref 1946.
"Roeddem yn bwyta cregyn meheryn pan oedd rhai ar gael, roedd yr Almaenwyr hefyd yn eu bwyta yn ystod rhan ddiwethaf eu harhosiad pan na gyrhaeddodd eu bwyd ar ôl D. Day".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth Labordy Cefnforeg yr Alban, Caeredin. 4 Chwefror 1918.
"Ni fu unrhyw ddeunydd yn fy labordy yn anoddach cyrraedd ato erioed nag ydyw ar hyn o bryd dan amodau rhyfel. Nid oes gennyf staff (oll yn gwasanaethu neu wedi'u lladd), ac mae'n amhosibl i mi drin y Molysgiaid yr ydych yn gofyn amdanynt".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd Anrhydeddus y Pwyllgor Rhyfel Bioleg, 4 Rhagfyr 1944.
"Buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai modd i chi roi unrhyw wybodaeth i mi ar ddosbarthiad cregyn bylchog neu folysgiaid eraill a all ddal nofwyr neu beri anghyfleustra iddynt".
Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Portread o Arthur Douglas Bacchus. Bataliwn Cartref (Adfyddin), Barics Combermere, Windsor. 17 Ionawr 1917
Teithiau a Gwyliau: Llythyr oddi wrth C. Hughes yn disgrifio ei wyliau yn yr Amerig, 19 Ebrill 1892.
"Roedd ein taith i'r Amerig yn hudol! ...Roedd y Grand Canyon yn syfrdanol...".
Teithiau a Gwyliau: Cregynegwr Americanaidd, Junius Henderson, yn casglu molysgiaid yn Colorado.
"Rhyw fath o gregynegwr mewn trowsus lledr fel cowboi, yn casglu molysgiaid ar Grand Mesa, Colorado...".
Teithiau a Gwyliau: Llythyr oddi wrth y cregynegwr o Awstralia, Charles Hedley, yn adrodd am wyliau hir yn Affrica. 11 Ebrill 1925 "Crwydrais yn hamddenol drwy Great Rift Valley, un o ryfeddodau daearegol y byd".
Teithiau a Gwyliau: Parhad o'r llythyr oddi wrth Theodore Dru Alison Cockerell, 19 Tachwedd 1927.
"Gadawyd y cwch ym Mhort Said ac aethom i ddinas Cairo gan weld y Pyramidiau a'r Sphinx. Mae'r gwrthrychau yn Amgueddfa Cairo yn fwy ysblennydd nag y gall y lluniau ddangos...".
Teithiau a Gwyliau: Llythyr a ysgrifennwyd ar y môr gan Theodore Dru Alison Cockerell. 'Gadael Bab-el-Mandeb' (culfor rhwng Yemen, Djibouti ac Eritrea), 19 Tachwedd 1927
"Rwy'n darlunio ochrau'r dopograffeg ar ddwy ochr Bab-el-Mandeb. Mae'n folcanig ac yn rhyfeddol o debyg i ynysoedd lleiaf Madeira."
Teithiau a Gwyliau: Anthony Arkell — Sudan (c. 1925)
Casglwyr a Chasglu: "Just me in one of my dreams". Thompson van Hyning — Amgueddfa Talaith Florida, 27 Ebrill 1925.
Casglwyr a Chasglu: Llun o gyfarfod yn Vienna, Gorffennaf 1930.
Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Phillipe Dautzenberg, Charles Hedley a Henri Fischer - Paris, Hydref 1912.
Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Emery ac Elsie Chace a Daniel Emery - St Petersburg, Florida.
Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Ffrengig Eugène Caziot, 1923.
Casglwyr a Chasglu: John Wesley Carr o Amgueddfa Hanes Natur, Nottingham.
Casglwyr a Chasglu: Y cregynegwr amatur, Henry Burnup a setlodd yn Ne Affrica yn 1894.
Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Prydeinig Arthur Edwin Boycott, 1925.
Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Americanaidd, Frank Collins Baker yn ei gasgliad.
Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Robert Tucker Abbott, Bill Clench ac Emery Chace - San Pedro, 1940.