Creaduriaid y Dyfnfor - Modelau Gwydr Blaschka Tua diwedd y 19eg ganrif, bu Leopola Blaschka (1822-1895) a'i fab Rudolf (1857-1929) yn gwneud modelau gwydr cywrain o greaduriaid hynod y môr ar gyfer amgueddfeydd byd natur ac acwaria ym mhedwar ban byd. Galwyd eu gwaith yn: "rhyfeddod celfyddydol ym maes gwyddoniaeth a rhyfeddod gwyddonol ym maes celfydyd." Hyd yn oed heddiw, mae gwaith y Blaschkas yn ymddangos yn eithriadol o gyfoes a hwythau'n croesi'r ffiniau rhwng dylunio, crefft, celfyddyd a diwydiant. Cliciwch ar y mân-luniau isod i weld lluniau mwy o rai o'r modelau gwydr nodedig hyn a gedwir yn y Amgueddfa Cymru. Blaschka Actinia mesembryanthum Synapta mammillosa Rhizostoma cuvierii Amoeba roteus Glaucus longicirrhus Slefren fôr gyffredin neu 'slefren fôr leuad' lawn main Aurelia aurita. Cragen Bedr bapur lawn maint Argonauta argo Model wedi'i chwyddo'n fawr o reiddiolyn un-gell (Actinophrys sol). Diamedr: 200mm (yn cynnwys y pigau). Tiwnigog llawn maint (Doliolum mülleri). Tua 70mm o hyd. Y llun gwreiddiol o'r gragen Bedr bapur fenywaidd (Argonata Argo) a ddefnyddiwyd i wneud y model. Cragen Bedr bapur fenywaidd (Argonata Argo) ar ôl ei thrwsio. Hyd: 225mm. Uchder: 150mm. Cragen Bedr bapur fenywaidd (Argonata Argo) cyn ei thrwsio. Hyd: 225mm. Uchder: 150mm. Môr-lawes lawn maint (Loligo marmorae). Hyd: 145mm. Môr-lawes lawn maint (Loligo alessandrini). Hyd: 85mm. Anemonïau môr yn ffraeo dros diriogaeth. Yma, mae S. troglodytes yn tanio celloedd pigo at A. mesembryanthemum sydd wedi mentro'n rhy agos. Gwelwyd hyn yn digwydd go iawn yn yr acwaria yng nghartref y teulu Blaschka. Gwaelod: 180x110mm. Uchder: 80mm. Cwrel meddal llawn maint (Xenia umbellata). Tua 80mm o uchder. Cwrel meddal llawn maint (Paralcyonium elegans). Tua 130mm ar draws. Model wedi'i chwyddo'n fawr o gyfnod datblygu sbwng (Sycandra raphanus). Diamedr: 100mm Model wedi'i chwyddo'n fawr o ameba un-gell (Amoeba proteus). Diamedr: 120mm. Model maint llawn o falwen fôr (Cerithium vulgatum) â chorff gwydr wedi'i osod mewn cragen iawn. Hyd: 90mm. Llyngyren fôr sy'n byw mewn tiwb, wedi'i chwyddo (Sabellaria alveolata). Hyd: 230mm. 'Slefren gribog' neu 'gwsberen fôr' (Pleurobranchia rhododactyla). Hyd: 205mm. Slefren fôr (Pelagia cyanella). Diamedr y gloch: 60mm. Uchder: 180mm. Dau gwrel cwpanog Dyfnaint (Caryophyllia smithii), y naill ar agor a'r llall ar gau. Uchder: 100mm. Actinoloba dianthus, Anemoni Môr Pluaidd - gwahanol ffurfiau a chyfnodau tyfiant. Gwaelod: 300x575mm. Uchder: 250mm. 'Môr-gacynen' maint llawn (Charybdea periphyllum) Lled: 60mm. Uchder: 50mm. 'Slefren fôr gytrefol' (Apolemia uvaria). Lled: 45mm. Uchder: 180mm. Slefren fôr (Carmarina hastata) Diamedr y 'gloch': 80mm. Uchder: 110mm. Model cywrain o chwysigen fôr (Physalia arethusa) Mae'r 'arnofyn' yn mesur rhyw 55mm o led a 90mm o hyd. Uchder cyfan: 240mm. Ceir rhyw ddau gant o dentaclau wedi'u gwneud o wydr lliw, main. Cânt eu dal a'u cynnal gan wifrau copr main. Related Features Erthygl Creaduriaid hud y dyfnderoedd mewn gwydr 16 Mai 2007 Erthygl Trwsio'r gwaith trwsio - Gofalu am fodelau gwydr unigryw Blaschka 16 Mai 2007 sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Jbailey 28 Mawrth 2019, 17:24 Amazing Colin Fraser 27 Mawrth 2017, 10:58 Beautiful and what skill... Sabine Klingsöhr 26 Gorffennaf 2016, 08:45 The most fascinating glass-art-work I've ever seen. I love it with all my heart!!!