Planhigion Prin Cymru
![](/media/7095/thumbnail.jpg)
Mae Cymru'n gyforiog o blanhigion, i wlad mor fach. Mae'r holl greigiau a thopograffeg gwahanol, o galchfeini Penrhyn Gŵyr i gerrig llaid a chreigiau folcanig Eryri, yn gynefin i amrywiaeth o blanhigion arbennig.
Mae Cymru yn gartref i sawl planhigyn prin. Mae rhywogaethau prin fel y Gerddinen Darren Fach neu Heboglys y Mynydd Du yn unigryw i Gymru, ac nid ydynt ar gael unrhyw le arall yn y byd. Mae planhigion prin eraill fel Lili'r Wyddfa neu Lysiau Melyn y Bystwn ar gael mewn gwledydd amrywiol, ond dim ond yng Nghymru y maent i'w cael yng ngwledydd Prydain. Mae eraill fel y Canri Dryflwyddol neu'r Merllys Gorweddol yn brin dros y byd.
Nod Project Planhigion Prin Cymru yw helpu i warchod rhai o'n planhigion prin sydd dan fygythiad trwy gynnig sail wyddonol gadarn ar gyfer eu cadwraeth. Darperir cyngor trwy gasglu gwybodaeth am faint a lleoliad y poblogaethau planhigion prin, asesu'r peryglon i'w gallu i oroesi, casglu gwybodaeth ecolegol, dadansoddi amrywiadau geneteg a gwneud argymhellion ar gyfer rheoli cynefinoedd.
Cychwynnodd y project ym 1998, gan ganolbwyntio ar blanhigion brodorol prin Cymru i ddechrau, ac mae wedi tyfu o egin bach i fod yn gangen braff. Mae'n broject ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol, ac wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Cliciwch ar ddelwedd i ddarganfod mwy...
![](/media/7094/Hieracium-radyrense.jpg)
Hieracium radyrense, Heboglys Radur
Hieracium radyrense, Heboglys Radur: planhigyn prin iawn sy'n unigryw i Gymru, wedi'i gofnodi mewn dau safle ym Morgannwg. Ym 1998, cafodd naw planhigyn eu darganfod mewn gardd yn Radur, lle mae'n tyfu ar lawntiau a chloddiau glas, mewn cysgod yn aml. Ni chafwyd hyd iddo yn Chwarel Radur, lle cafodd ei weld ddiwethaf ym 1985.
Nid yw'r rhywogaethau na'r safleoedd wedi'u gwarchod yn gyfreithiol, a gallai fod dan fygythiad sylweddol yn y tymor hir oherwydd arferion garddio anffafriol. Anfonwyd hedyn i Fanc Hadau'r Mileniwm, ac mae planhigion yn cael eu tyfu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol. Cynhaliwyd y gwaith hwn ar y cyd â Chyngor Sir Caerdydd.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/25_4_HutchinsonHieracium.pdf
![](/media/7093/Hieracium-pseudoleyi.jpg)
Hieracium pseudoleyi, Heboglys porffor
Cyfunwyd adolygiadau o ddata hanesyddol ac arolygon maes i asesu statws H. pseudoleyi, planhigyn prin sy'n unigryw i ogledd Cymru. Cafwyd cofnod hanesyddol mewn tri safle, a chofnodion amheus neu anghywir o bedwar safle. Yn 2006, gwelwyd 798 o blanhigion ar Benygogarth a 53 o blanhigion ar Drwyn y Fuwch. Ni chafodd ei ailddarganfod ar unrhyw safle arall. Mae'n tyfu ar greigiau calchfaen ac mewn holltau ar lystyfiant agored. Mae ganddo statws 'bregus' yn ôl meini prawf IUCN (2001) o rywogaethau sydd dan fygythiad.
![](/media/7092/Hieracium-neocoracinum.jpg)
Hieracium neocoracinum, Heboglys Craig Cerrig-gleisiad
Dyma blanhigyn prin iawn sy'n unigryw i Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad ym Mannau Brycheiniog (V.c. 42). Cafodd ei ddarganfod ym 1895 ac mae wedi tyfu mewn o leiaf dau le gwahanol yn ardal Craig Cerrig-gleisiad. Ym 1975, amcangyfrifwyd bod 60 o blanhigion mewn un boblogaeth. Roedd arolygon maes 2003 yn dangos bod 147 o blanhigion yn yr un lle, a dim un ohonynt yn yr ail safle — ond gwelwyd un planhigyn yno yn 2007. Mae'n debyg mai gwladychiad tir moel yn sgil tirlithriad, a llai o bori, sy'n gyfrifol am y cynnydd mewn poblogaeth. Casglwyd hadau ar gyfer Banc Hadau'r Mileniwm, ac mae planhigion yn cael eu tyfu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/25_3_RichHieracium.pdf
![](/media/7091/hieracium-holosercieum.jpg)
Hieracium holosericeum, Heboglys hardd
Hieracium holosericeum, Heboglys hardd - planhigyn mynyddig sy'n unigryw i Brydain, sydd fwyaf cyffredin yn lleol yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae enghreifftiau mwy prin ohonynt yn ne'r Alban, Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, ac Eryri.
Mae cofnodion hanesyddol yn dangos bod y planhigyn hwn yn tyfu mewn rhyw 5 neu 7 safle yn Eryri ar un adeg, a bod llawer iawn ohonynt wedi'u crynhoi mewn ardal fechan yn rhai o'r safleoedd hynny. Roedd arolygon maes 2000 a 2002 yn dangos mai dim ond tri safle oedd ar ôl, ond mae llawer o safleoedd newydd wedi dod i'r fei ers hynny. Gorbori yw'r prif reswm am eu dirywiad. Efallai fod y planhigyn yn gyndyn o flodeuo oherwydd amodau hinsawdd llai ffafriol, ac efallai y bydd cynhesu byd-eang yn effeithio ar ei allu i oroesi yn y tymor hir. Nid yw'n tyfu'n dda iawn mewn planhigfeydd.
![](/media/7090/Hieracium-asterdiophyllum.jpg)
Hieracium asteridiophyllum, Heboglys Llangatwg
Hieracium asteridiophyllum, Heboglys Llangatwg — rhywogaeth brin sy'n unigryw i'r creigiau o amgylch Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig y Cilau, Bannau Brycheiniog. Ym mis Mehefin 2000, cynhaliwyd arolygon o'r holl boblogaethau er mwyn asesu gofynion cadwraeth. Daethpwyd o hyd i 512 o blanhigion. Cafodd llai o blanhigion H. asteridiophyllum eu darganfod o gymharu â 1975, er mai problemau cofnodi sy'n gyfrifol am hynny mae'n debyg. Mae mewn 'perygl difrifol' yn ôl meini prawf IUCN, ond mae'n debyg nad yw mewn perygl arwyddocaol. Mae hadau wedi'u hanfon i Fanc Hadau'r Mileniwm, ac mae planhigion yn cael eu tyfu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/2409Rich.pdf
![](/media/7089/Sorbus-minima.jpg)
Sorbus minima, Cerddinen Wen Fach
Coeden brin iawn Cymreig, sy'n unigryw i darren Llangatwg ym Mannau Brycheiniog. Cafodd nifer helaeth ohonynt eu darganfod am y tro cyntaf gan Augustin Ley ym 1893, a chafodd 744 o goed eu cyfrif yn 2002. Roeddynt yn arfer tyfu ym Mlaen Onneu hefyd cyn cael eu dinistrio gan waith chwarel mae'n debyg. Ceir cofnod o un goeden yng Nghraig y Castell a 27 o goed yng Nghwm Cleisfer. Mae'n debyg fod Chwareli Llangatwg wedi lleihau poblogaeth Craig y Cilau yn sylweddol; mae poblogaethau ar y rhannau a chwarelwyd tua 40% o'r creigiau sydd heb eu cyffwrdd. Er hynny, mae'r coed hyn yn adfywio ac yn dechrau taro'n ôl, ac efallai y byddant yn dychwelyd i'w hen ogoniant maes o law. Credir mai croesiad rhwng y Gerddinen (S. aucuparia) a Cherddinen y Graig (S. rupicola) ydyw o bosibl. Nid yw'n ffrwythlon iawn.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/25_4_WelshSorbus.pdf
![](/media/7088/Sorbus-leyana.jpg)
Sorbus leyana, Cerddinen Darren Fach
Dim ond yn nhiroedd gwyllt y De y gwelir y rhywogaeth hon, sef dau glogwyn calchfaen serth ym Mannau Brycheiniog. Cafodd ei darganfod am y tro cyntaf ym 1896. Mae'n debyg nad oes mwy na 16 o goed llawn dwf yno. Ym mis Awst 1998, cafodd ei disgrifio fel 'coeden fwyaf prin Prydain' a'i gosod mewn categori dan fygythiad uchaf: rhywogaeth 'mewn perygl difrifol'. Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn tyfu casgliad ohonynt o blith nifer o goed gwyllt o Fannau Brycheiniog, naill ai fel eginblanhigion neu gasgliadau wedi'u trawsblannu. Mae rhagor o waith ymchwil yn cael ei gynnal ar ei hamrywiadau genetig ar y cyd â'r Royal Botanic Gardens, Kew.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/25_4_WelshSorbus.pdf
![](/media/7087/Sorbus-leptophylla.jpg)
Sorbus leptophylla, Cerddinen Cymreig
Cafwyd y disgrifiad cyntaf ohono gan E. F. Warburg ym 1952. Dim ond dau safle ym Mannau Brycheiniog y gwyddom amdanynt, sef Craig Rhiwarth (29 o goed) a Chraig y Cilau (45 o goed). Planhigyn prin iawn sy'n unigryw i Gymru, felly.
Maent yn tyfu ar greigiau calchfaen carbonifferaidd a chreigiau folcanig, ac wedi'u gwreiddio'n uniongyrchol i'r holltau, neu'n tyfu ar ysgafelloedd bychain weithiau. Fel pob cerddinen arall, mae'r cynnyrch ffrwythau'n amrywio, gyda 1999 yn flwyddyn wael a 2000 a 2002 yn ffrwythlon iawn. Mae'r rhan fwyaf o ffrwythau yn cynnwys 2 neu 3 o hadau mawr sy'n ffrwythlon dros ben.
Cyfeiriwyd at goed tebyg yng Nghraig Breiddan, Sir Drefaldwyn, yn y gorffennol, ond byddant yn cael eu disgrifio fel rhywogaethau newydd o hyn allan.
Lawrlwytho cyhoeddiad:: http://archive.bsbi.org.uk/25_4_WelshSorbus.pdf
![](/media/7086/Hieracium-tavense.jpg)
Hieracium tavense, Heboglys y mynydd du
Rhywogaeth brin iawn sy'n unigryw i gymru. Mae wedi'i chyfyngu i un safle yng nghwm tawe uchaf. Mae'n tyfu ar ysgafelloedd sy'n gyfoethog mewn bas, a chyfrifwyd 13 o blanhigion yno wrth ddringo ym 1998. Yr unig fygythiad iddynt yw creigiau sy'n cwympo. Mae hadau wedi'u hanfon i fanc hadau'r mileniwm, ac maent yn cael eu tyfu mewn planhigfa yn yr ardd fotaneg genedlaethol.<>/p>
Gofyn am gyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/Wats23p311.pdf
![](/media/7084/Hieracium-snowdoniense.jpg)
Hieracium snowdoniense, Heboglys eryri
Planhigion prin, unigryw gymreig sydd ond yn tyfu yn eryri. Cafwyd cofnod hanesyddol ohono mewn saith safle, er mai 1967 oedd y tro diwethaf y'i gwelwyd. Er chwilio'n ddyfal amdano, ofnwyd ei fod wedi diflannu o'r tir — cyn i un blanhigyn gael ei weld eto ar glogwyn serth yn wynebu'r gogledd yn 2002. Casglwyd hadau ohono, ac mae 26 o blanhigion ifanc bellach yn cael eu trin yn yr ardd fotaneg genedlaethol.
Lawrlwytho cyhoeddiad http://archive.bsbi.org.uk/2438Rich.pdf
![](/media/7083/Hieracium-riddelsdellii.jpg)
Hieracium riddelsdellii, Heboglys riddelsdell
Planhigyn prin iawn sy'n unigryw i gymru, ac wedi'i gyfyngu i ran orllewinol bannau brycheiniog. Ym 1899 y cafodd ei weld am y tro cyntaf. Gwelwyd tua 870 o blanhigion mewn tri safle yn ystod gwaith maes yn 2003-4, ac maent naill ai wedi'u colli'n naturiol neu eu difa mewn tri safle arall. Mae hadau wedi'u cadw ym manc hadau'r mileniwm, ac mae planhigion yn cael eu tyfu yn yr ardd fotaneg genedlaethol.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/Wats26p139.pdf
![](/media/7082/Hieracium-pachyphylloides.jpg)
Hieracium pachyphylloides, Heboglys carbonifferaidd
Cynhaliwyd adolygiadau o ddata hanesyddol ac arolygon maes i asesu statws
H. pachyphylloides, sy'n unigryw i ddyffryn gwy. Mae wedi dirywio o chwe safle i un, ac 'mewn perygl difrifol' yn ôl meini prawf iucn o rywogaethau sydd dan fygythiad. Y prif fygythiadau yw dringwyr, cau canopi coetiroedd, a phlanhigion estron yn lledu.
![](/media/7080/Hieracium-linguans.jpg)
Hieracium linguans, Heboglys y tafod
Rhywogaeth brin sy'n unigryw i gymru. Cafodd ei darganfod am y tro cyntaf ym 1898 gan Augustin Ley yn ardal bannau brycheiniog. Er bod y cofnodion herbariwm a llenyddiaeth hanesyddol braidd yn ddryslyd, maent yn cyfeirio at dri safle yng nghwm Tawe. Ym 1999 a 2000, dim ond un boblogaeth o 80 o blanhigion a welwyd, a doedd dim golwg ohonynt yn y ddau safle arall. Mae'n blanhigyn lluosflwydd sy'n blodeuo ym misoedd Gorffennaf-Awst, ac yn aildyfu'n rhwydd o hadau wedi'u gwasgaru gan y gwynt. Mae hadau wedi'u cadw ym Manc Hadau'r Mileniwm, ac mae planhigion yn cael eu tyfu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Gofyn am gyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/Wats23p517.pdf
![](/media/7077/Hieracium-cyathis-fruit.jpg)
Hieracium cyathis, Heboglys y Caregl
Planhigyn prin sy'n unigryw i Brydain, wedi'i gofnodi mewn wyth safle yn ardal Bannau Brycheiniog a Gwlad yr Haf. Cynhaliwyd arolwg o'r safleoedd hynny rhwng 2000 a 2002 er mwyn nodi statws presennol y planhigyn a'r angen i'w warchod. Gwelwyd 1304 o blanhigion mewn 8 safle. Mae'n bosibl ei fod wedi diflannu'n llwyr yn Sir Gaerfyrddin, wedi dirywio'n sylweddol yn Cheddar Gorge, ac wedi dirywio yng Nghraig y Cilau o bosibl. Mae ymchwiliadau maes, trin a genetig yn awgrymu nad oes fawr o sail i'r awgrym fod y planhigion sy'n tyfu yn ardal Mendips yn wahanol i rai Bannau Brycheiniog.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://www3.interscience.wiley.com/journal/119394264/abstract
![](/media/7073/Hieracium-cillense.jpg)
Hieracium cillense, Heboglys Craig y Cilau
Rhywogaeth brin sy'n unigryw i'r creigiau o amgylch Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig y Cilau, Bannau Brycheiniog. Cafodd ei darganfod am y tro cyntaf yn y 1890au a'i henwi fel math arbennig o blanhigyn cyn cael statws rhywogaeth. Ym 1975, cafodd 253 o blanhigion eu cofnodi yn y Warchodfa Natur. Ym mis Mehefin 2000, cofnodwyd 204 o blanhigion. Efallai mai ffyrdd gwahanol o gofnodi sy'n gyfrifol am y dirywiad, neu ei fod yn ddirywiad gwirioneddol oherwydd defaid yn pori. Er hynny, cafodd 263 o blanhigion ychwanegol eu darganfod i'r dwyrain o'r Warchodfa Natur. Mae hadau wedi'u hanfon i Fanc Hadau'r Mileniwm, ac mae planhigion yn cael eu tyfu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/2409Rich.pdf
![](/media/7072/hieracium-cambricogothicum.jpg)
Hieracium cambricogothicum, Heboglys Llanfairfechan
Wedi'i gofnodi mewn pedair ardal wasgarog yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ar ôl i Sawtschuk a Rich (2006) adolygu ei statws, awgrymwyd mai dim ond yn ardal Llanfairfechan (V.c. 49) y mae'n bodoli'n bendant, a chodwyd amheuon ynglŷn â Chaint (ac o bosibl Forres yn absenoldeb unrhyw sbesimen). Ni chafodd planhigion eu hailddarganfod yn 2004 na 2006, ac yn anffodus, mae'n cael ei ystyried fel planhigyn sydd wedi diflannu o'r gwyllt ar hyn o bryd.
![](/media/7071/hieracium-cacuminum.jpg)
Hieracium cacuminum, Heboglys Y Copa
Heboglys prin sy'n unigryw i Gymru ac sy'n cael ei ddrysu â'r H. siluriense. Roedd arolwg o gofnodion a gwaith maes newydd yn dangos bod 240 o blanhigion mewn tri safle; ni chafodd ei ailddarganfod mewn tri safle arall. Mae'n tyfu ar glogwyni a chreigiau Hen Dywodfaen Coch yn ardal Bannau Brycheiniog. Mae wedi'i nodi fel rhywogaeth 'mewn perygl' dan feini prawf IUCN.
![](/media/7070/Hieracium-cambricum.jpg)
Hieracium cambricum, Heboglys Cymreig
Rhywogaeth brin sy'n unigryw i Gymru. Cynhaliwyd arolwg o dri safle y gwyddom amdanynt ym 1998. Mae'n debyg ei bod wedi diflannu o Dreorci yn sgil cwymp creigiau. Cafodd 38 o blanhigion eu hailddarganfod yn Llangollen (y tro cyntaf iddynt gael eu cofnodi yno ers 1907) ac amcangyfrifir bod tua 300 o blanhigion ar Benygogarth. Mae hadau wedi'u cadw ym Manc Hadau'r Mileniwm, ac mae'n cael ei dyfu mewn planhigfa yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/Wats23p305.pdf
![](/media/7069/Centaurium-scilloides.jpg)
![](/media/7068/Asparagus-prostratus.jpg)
Asparagus prostratus, Merllys gorweddol
Planhigyn morwrol sy'n unigryw i Orllewin Ewrop. Mae'n un o rywogaethau 'Red Data Book' Prydain ac wedi'i rhestru'n Rhywogaeth â Blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu'r DU ar Fioamrywiaeth. Cynhaliwyd gwaith ymchwil ar gofnodion hanesyddol a chyfunwyd hynny ag arolygon maes diweddar ar gyfer Prydain. Bu cofnod ohono mewn 34 safle o leiaf, ond yn ddiweddar, ni chafodd ei weld mewn chwe safle (gostyngiad o 18%). Mae wedi diflannu yng Ngorllewin Sussex ac Ynys Môn, ac ar fin diflannu yn Dorset. O'r 28 poblogaeth sydd ar gael, mae naw yn cynnwys llai na deg planhigyn, a dim ond tri safle sy'n cynnwys dros gant o blanhigion.
Lawrlwytho cyhoeddiad: http://archive.bsbi.org.uk/2414Rich.pdf
sylw - (6)
Dear John Bennett,
Many thanks for getting in touch with us. I have passed on your comment to my colleague who will hopefully be able to offer some advice on this.
Many thanks,
Nia
(Digital team)