Agos at Natur Edrychwch yn agos ar strwythurau a phatrymau rhyfedd natur. Mae’r delweddau rhyfeddol hyn i gyd wedi’u creu gan wyddonwyr Amgueddfa Cymru gan ddefnyddio ffotograffiaeth wedi’i chwyddo’n fawr. Datgelir anifeiliaid a phlancton bychan iawn mewn goleuni newydd yn y lluniau syfrdanol hyn, sydd i’w hedmygu am eu harddwch trawiadol yn ogystal â’u gwerth gwyddonol. Ar y lefel hon o’u chwyddo, mae’r gwirionedd yn syfrdanol, cliciwch ar y delweddau isod i ddarganfod mwy... Agos at Natur Radwla, neu ddarn ceg, o falwoden tir cigysol o Ddwyrain Affrica. Mae radwla yn dafod garw neu fand o ddannedd corniog a ddefnyddir gan falwod i rygnu ar ei fwyd, boed yn blanhigyn neu anifail, neu i dyllu i gregyn. Mae Radwla yn gwahaniaethu rhwng gwahanol rywogaethau malwod. Mae Amgueddfa Cymru yn archwilio'r delweddau hyn yn ofalus er mwyn adnabod un rhywogaeth wrth y llall. Cymbelloid diatom, genera heb ei adnabod. Mae diatomau yn fath o algae microsgopig sy'n cynnwys un gell neu grŵp o gelloedd; Mae diatomau yn cynhyrchu cragen silica galed sydd yn aml yn cael ei gadw wedi i'r anifail farw a suddo i wely'r môr. Gall gwyddonwyr echdynnu cregyn diatom a'u defnyddio i ymchwilio i hinsawdd y gorffennol. Foraminifera: Halkyardia minima. Roedd y cregyn a welir yma yn perthyn i anifeiliaid o faint pen pin a elwid yn 'foraminifera', neu fformas. Roedd y rhain yn byw tua 35 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond mae mathau tebyg yn byw ym moroedd heddiw. Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn Antarctica'n rhewi Delwedd: Ian McMillan, Prifysgol Caerdydd. Foraminifera: Cribrohantkenina inflata.Gall cemeg y cregyn foram hyn ddweud wrthym sut y newidiodd tymheredd y môr dros amser drwy fesur y swm o fagnesiwm yn y cregyn - mae Fforamau yn cymryd elfennau o'r môr i'w cregyn, gan ddefnyddio mwy o fagnesiwm mewn tymheredd cynhesach.Delwedd: Paul Pearson, Prifysgol Caerdydd. Foraminifera: Nodogenerina. Mae fforamau yn disgyn i wely'r môr ac yn adeiladu haenau o fwd dros filiynau o flynyddoedd. Mae'r cregyn fforam fel capsiwl amser, gyda'u gwybodaeth gemegol wedi'u cloi ynddynt. Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn Antarctica'n rhewi Delwedd: Ian McMillan, Prifysgol Caerdydd. Foraminifera: Hantkenina alabemensis.Os gallwn fesur cynnwys magnesiwm fforamau, mae'n rhoi cofnod i ni o'r newid yn nhymheredd y môr dros amser: po fwyaf o fagnesiwm sy'n bresennol yn y cregyn, y cynhesaf oedd y môr pan fu farw'r fforam.Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn Antarctica'n rhewi Delwedd: Paul Pearson, Prifysgol Caerdydd. Foraminifera: Subbotina.Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn Antarctica'n rhewi Delwedd: Paul Pearson, Prifysgol Caerdydd. Foraminifera: Tubulogenerina narghilella.Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn Antarctica'n rhewi Delwedd: Ian McMillan, Prifysgol Caerdydd. Dannedd colfach a socedi Yoldiella lata, cragen Ddeuglawr Protobranch.Mae'r rhain yn cysylltu gyda dannedd a socedi cyfochrog yn y gragen gyferbyn, ac yn cynorthwyo i'w cadw gyda'i gilydd pan maent yn fyw. Y dannedd yw un o'r nifer o nodweddion sy'n cynorthwyo gwyddonwyr i adnabod amrywiol rywogaethau dwygragennog. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Darlun manwl o gragen allanol Spinaxinus sentosus a ganfuwyd yng nghargo organig y llong suddedig Francois Vieljeux. Ar ôl i wyddonwyr yr Amgueddfa chwyddo'r llun a sylwi ar y pigau, galwyd y genws newydd yn 'Spinaxinus'. Gweld: Cregyn bylchog sy'n bwyta nwy am fwy o wybodaeth. Dannedd llafnaidd yr Ysbrydwlithen gigysol, pob un tua hanner milimedr o hyd. Mae'r rhain yn llawer hirach ac yn fwy miniog na dannedd rhywogaethau llysysol. Helpwch ni i ddysgu mwy am ddirgelwch yr "Fideo Ysbrydwlithen" estron ChwilenDelwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd chwyddedig yn dangos manylion cragen chwilen. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Seren Frau Gyffredin, Ophiothrix fragilis. Yn perthyn yn agos i sêr môr, mae sêr brau yn cropian ar hyd gwely'r môr gan ddefnyddio eu breichiau hyblyg fel "coesau" i symud. Mae tua 1,500 o rywogaethau o sêr brau yn fyw heddiw, ac yn cael eu darganfod yn bennaf mewn dyfroedd dyfnion, dros 500 metr (1,650 troedfedd) i lawr. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Toriad chwyddedig o'r seren frau gyffredin yn dangos strwythur meingefn.Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Cranc Ewin Bawd, Thia scutella. Mae'r cranc ewin bawd yn cael ei enw o'i gragen sy'n ymdebygu i ewin bawd. Mae i'w weld ym Môr y Gogledd, gogledd ddwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd chwyddedig o rannau ceg y cranc ewin bawd.Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Cwrel Cornwymon, Flustra foliacea, Gŵyr, De Cymru. Mae'r Cornwymon yn anifeiliaid bach dyfrol a elwir yn bryozonas sy'n atgenhedlu drwy ymflaguro a ffurfio cytrefi canghennog ynghlwm â cherrig neu wymon. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Manylyn o gwrel Cornwymon o Dde Cymru Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd o fwydyn gwrychog morol, Lagis koreni, a elwir hefyd yn 'Fwydyn Côn Hufen Iâ', gyda'r cast. Mae'r mwydyn hwn yn adeiladu ei gartref bregus allan o haenen denau o dywod wedi'u hasio gyda secretiad o gorff y mwydyn. Un darn o dywod yn unig yw trwch y tiwb, gyda'r darnau tywod unigol wedi'u gosod yn dynn yn erbyn ei gilydd, gan ffurfio mosaic hardd. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Darlun agos o ben y mwydyn Côn Hufen Iâ, gyda manylion o'r cast. Mae mwydod Côn Hufen Iâ yn byw ben i waered ar wely'r môr. Mae gan ben y mwydyn strwythurau tebyg i grib sy'n cribinio drwy'r tywod wrth i deimlyddion bwydo eraill estyn bwyd. Gall y tiwb fod hyd at 3 modfedd o hyd gan amddiffyn rhannau meddal yr anifail. Cyfeirir hefyd ato fel mwydyn ysgithrog. Nodwch y patrwm tebyg i fosaig sydd gan y gronynnau tywod. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Darlun agos iawn o ffilamentau bwydo'r Mwydyn Côn Hufen Iâ. Mae pen y mwydyn hwn yn cario dau grŵp o flew mawr, euraid, ychydig yn grwm. Defnyddir y blew i ryddhau a throi'r tywod, ac mae'r tentaclau yn casglu gronynnau ar gyfer bwyd ac adeiladu tiwb. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Gwyfyn Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd chwyddedig o ddarn o adain gwyfyn yn dangos y cen a'r strwythurDelwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Gwyfyn Teigr Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd chwyddedig o adran o adain y Gwyfyn TeigrDelwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Y Glöyn Byw Birdwing Troides minos. Mae'r sbesimen hwn, o India, yng nghasgliad Rippon Amgueddfa Cymru. Rippon oedd y cyntaf i greu monograff o'r grŵp hwn o Loynod Byw. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Golygfa flaen o Chlorophorus varius Gall hyd yn oed cleren fach fod â nodweddion dychrynllyd wrth edrych yn agos arno o'r blaen! Ychydig gentimetrau yn unig yw hyd corff y sbesimen hwn. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd chwyddedig darn o adain y Glöyn Byw Birdwing, Troides minos.Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Gwyfyn brith Biston betularia. Llun: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd haniaethol o ben chwilen, Chlorophorus varius. Cliciwch ar y ddelwedd nesaf i ddatgelu ei wyneb... Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Delwedd agos o'r gleren Stygeromyia maculosa.Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Stygeromyia maculosa. Casglwyd y sbesimen hwn yn Fujairah, Emiraethau Arabaidd Unedig. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Megaselia scalaris Casglwyd y sbesimen hwn yn Izmir, Twrci. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Manylyn o goes ôl Megaselia scalaris.Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwyddiant o ben a llygaid Atherigona bimaculata.Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Atherigona bimaculata. Casglwyd y sbesimen hwn ym Maraba, Aseer, Sawdi Arabia Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Lamprolonchaea metatarsata . Casglwyd y sbesimen hwn yn Al-Ajban, Emiraethau Arabaidd Unedig Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Lamprolonchaea metatarsata. Mae'r ddelwedd hon yn darlunio manylion cywrain gwythiennau'r adain. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwimsaethwr Sboncyn y Dail: Zyzzogeton quadrimaculata. Mae chwimsaethwyr yn eu llawn dwf yn dodwy wyau i mewn i'r planhigyn ac mae'r rhain yn deor i fod yn nymffod. Yn y mwyafrif o rywogaethau mae'n cymryd tua mis i'r nymff ddod yn oedolyn. Gall yr oedolyn fyw am fis neu ddau arall cyn marw. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwimsaethwr Sboncyn y Dail: Zyzzogeton quadrimaculata. Mae gan bob rhywogaeth rannau ceg hir a thenau, fel nodwyddau meddygol, sy'n cael eu defnyddio i drywanu planhigion a sugno'r sudd. Mae rhai pryfed, fel pycs, yn bwydo oddi ar anifeiliaid. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwimsaethwr Sboncyn y Dail: Zyzzogeton quadrimaculata. Mae gwyddonwyr Amgueddfa Cymru wedi bod yn tynnu lluniau cymaint o rywogaethau o chwimsaethwyr sboncyn y dail ag sy'n bosib, er mwyn llunio canllawiau adnabod fel y gall ffermwyr adnabod y pryfed drostynt eu hunain. I wneud hyn, rydym wedi defnyddio technegau ffotograffaidd newydd i gynhyrchu'r delweddau manwl y gwelwch yma. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwimsaethwr Sboncyn y Dail Chwimsaethwr sboncyn y dail yw'r mwyaf, a'r mwyaf lliwgar o bob sboncyn y dail. Daw eu henw o'r ffaith fod rhai yn poeri sudd ar ôl bwydo. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwimsaethwr Sboncyn y Dail. Mae Chwimsaethwyr sboncyn y dail yn perthyn i'r grŵp o bryfed sy'n cynnwys pryfed gleision, pryfed cennog, sboncyn llyffant, sicadâu, sboncwyr y coed a llau. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwimsaethwr Sboncyn y Dail: Cicadella viridis. Mae tua 200 rhywogaeth chwimsaethwyr sboncyn y dail ym Mhrydain. Disgrifiwyd tua 19,000 rhywogaeth yn y byd, ond mae nifer yn fwy yn parhau i fod heb eu darganfod. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Nymff ac oedolyn o rywogaeth Paraquichira costaricensis. Mae nymff sboncyn y dail yn diosg ei groen nifer o weithiau wrth dyfu. Mae ei adenydd yn datblygu wrth dyfu, gan fod ychydig yn fwy wrth ddiosg bob croen. Mae'r adenydd yn ehangu wrth i'r nymff ddod yn oedolyn. Mae hyn yn wahanol iawn i bryfed megis Gloÿnnod Byw lle mae'r lindysyn yn newid yn syth i fod yn oedolyn mewn proses a elwir yn fetamorffosis. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Chwimsaethwr Sboncyn y Dail: Homalodisca liturata. Mae dros 2,300 rhywogaeth o Chwimsaethwyr y gwyddom amdanynt, rhai yn cario afiechydon i goed ffrwythau. Tarwyd coed citrws Brasil a gwinwydd California yn galed gan chwimsaethwyr Homalodisca, felly mae'n bwysig iawn i ni adnabod pa rai sy'n cario afiechydon a'r pha rai nad ydynt. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.