Llwch Folcanig yn disgyn ar Gymru
Staff yr Adran Ddaeareg yn dadansoddi llwch o Wlad yr Ia:
Aeth staff o Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru ati i gasglu a dadansoddi llwch folcanig oddi ar doeon ceir yn ardal Caerdydd ar ddydd Gwener 16 Ebrill 2010.
Crëwyd y llwch gan echdoriad y llosgfynydd Eyjafjallajökull, sy’n gorwedd o dan rewlif yn ne Gwlad yr Ia. Ar ôl bod yn fud am bron i 200 mlynedd, mae’r llosgfynydd wedi bod yn fyw ers Mawrth 2010.
Ar ddydd Mercher 14 Ebrill, echdorrodd y llosgfynydd yn ffyrnig, gan chwythu llawer iawn o lwch folcanig i mewn i’r atmosffer. Roedd y ffrwydrad yn arbennig o ffyrnig am i’r echdoriadau ddigwydd wrth i’r magma poeth ddod i gysylltiad â dŵr o’r rhewlif oedd dros ei ben yn toddi. Adeg ysgrifennu’r erthygl hon, roedd y llosgfynydd yn dal i echdorri.
Mae’r llwch, a gludwyd tua Phrydain a gogledd Ewrop ar y gwynt, wedi tarfu’n ddifrifol ar awyrennau masnachol. Mae hyn am fod injans awyrennau yn gallu sugno’r llwch i mewn gan leihau faint o aer sy’n llifo drwyddynt. Mae hyn yn ei dro yn gallu peri iddynt fethu.
Am fod y llwch mor fân, bu rhaid defnyddio camera ar ficrosgop cryf i greu’r delweddau. O fewn y lludw roedd darnau o lafa caled, gronynnau main o wydr folcanig a’r mwynau ffelsbar, olifin a pyrocsen. Mae’r mwynau hyn yn gyfansoddion cyffredin mewn craig folcanig o’r enw basalt, sy’n gyson â’r math o echdoriad folcanig sy’n digwydd yng Ngwlad yr Ia.
Mae Gwlad yr Ia yn rhanbarth fyw iawn yn ddaearegol am ei fod yn eistedd ar Gefnen Canolbarth yr Iwerydd. Gwlad yr Ia yw’r unig fan lle gellir gweld Cefnen Canolbarth yr Iwerydd ar y tir.
Darn o graig basalt sy’n ddigon tenau i adael i’r golau lifo drwyddi sy’n galluogi’r daearegwyr i astudio’r mwynau yn y graig trwy ficrosgop.
Delweddau o’r lludw a grëwyd gan ddefnyddio microsgop cryf (1μm = 1/1000 mm).
Geirfa
Llwch
Deunydd folcanig m
Basalt
Craig folcanig sy’n ffurfio wrth i lafa oeri. Mae
Lafa
Craig dawdd sy’n echdorri ar wyneb y Ddaear.
Magma
Craig dawdd islaw cramen y Ddaear, sy’n gallu echdorri fel lafa.
Cefnen Canolbarth yr Iwerydd