Gosod sylfeini: Sefydliadau Gweithwyr

Sefydliadau Gweithwyr

Institiwt y Gweithwyr, Blaenafon, ar ddechrau'r 20fed ganrif

Rhwng y 1880au a'r 1930au, codwyd nifer o Sefydliadau Gweithwyr yn nhrefi a phentrefi diwydiannol de a gogledd-ddwyrain Cymru. Eu diben oedd cynnig cyfleusterau addysgiadol a hamdden i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Fel arfer byddent yn cynnwys llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, lle byddai modd mwynhau'r papurau dyddiol. Gallent hefyd gynnwys ystafelloedd gemau (roedd snwcer, biliards a dominos yn arbennig o boblogaidd) yn ogystal â theatrau a sinemâu. Cynhelid darlithoedd cyhoeddus, ralïau gwleidyddol, cyngherddau, dawnsfeydd ac eisteddfodau yno. Roeddent hefyd yn fannau cyfleus i grwpiau a chymdeithasau i gyfarfod ac i fandiau lleol i ymarfer a pherfformio. Roedd rhai o'r adeiladau hyn gymaint â phedwar neu bum llawr o ran uchder ac roedd ganddynt byllau nofio, hyd yn oed!

Oakdale

Ystafell Ddarllen Institiwt Oakdale, tua 1946

Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn Oakdale yn gwasanaethu'r gymuned o amgylch Glofa Oakdale yn Sir Fynwy. Suddwyd y siafft gyntaf yn y rhan hon o Gwm Sirhywi — a fu hyd hynny’n gymharol ddilychwyn — ym 1906, a suddwyd ail siafft — y Waterloo — bedair blynedd yn ddiweddarach. Gwelwyd bod y gwythiennau glo yn ardderchog o ran safon y glo yn ogystal â thrwch y gwythiennau. Darparwyd llety i'r gweithwyr a'u teuluoedd mewn 'pentref model' pwrpasol o'r enw Oakdale.

Gosod sylfeini

Canolbwynt y pentref oedd Sefydliad y Gweithwyr. Dechreuwyd adeiladu hwn ym 1917, ac ar 3 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni i osod dwy garreg sylfaen. Cyflwynwyd tryweli engrafiedig i'r ddau ŵr blaenllaw, sef Harry Blount, ar ran y gweithwyr, ac Alfred S. Tallis, Rheolwr-gyfarwyddwr Cwmni Haearn a Glo Tredegar a oedd yn berchen ar bwll Oakdale. Cwblhawyd yr adeilad y flwyddyn ganlynol ac mae'n debyg y byddid wedi cynnal seremoni bryd hynny, hefyd, gan osod carreg gopa i nodi bod y gwaith adeiladu wedi dod i ben.

Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 10 Medi 1917, a chyflwynwyd allwedd arbennig i A. S. Tallis yn arwydd o werthfawrogiad y pwyllgor adeiladu am gael benthyg £10,000 gan y cwmni at gost codi'r adeilad.

Bywyd newydd yn Sain Ffagan

Rhoddwyd Sefydliad Gweithwyr Oakdale i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1987 a chafodd ei ddatgymalu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ailgodwyd ef a'i adfer i'w gyflwr ar ddiwedd y 1930au a'i agor i'r cyhoedd ym 1995. Cyflwynwyd y ddau drywel a ddefnyddiwyd yn y seremoni i osod y garreg sylfaen i'r Amgueddfa yn y misoedd cyn yr agoriad gan berthnasau'r derbynwyr gwreiddiol. Roedd un trywel wedi teithio cyn belled ag Ynys Wyth, a'r llall yn Abertawe. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Neil Kinnock. (Ar y pryd roedd yn Gomisiynydd Trafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd, ond cyn hynny ef oedd arweinydd y Blaid Lafur a'r AS dros etholaeth Bedwellte, yr oedd Oakdale yn rhan ohoni.) Rai dyddiau cyn yr agoriad cyflwynwyd yr allwedd engrafiedig a roddwyd i Gwmni Haearn a Glo Tredegar i'r Amgueddfa hefyd.

The 'Stute

Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan.

Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.