Mwynau a ddarganfuwyd gyntaf yng Nghymru
![](/media/8817/alglesite.jpg)
Crisialau anglesit hyd at 10mm o hyd o'i deipleoliad ym Mynydd Parys, Môn. Ffoto MP Cooper.
![](/media/8818/brookite.jpg)
Crisial brookit 20mm o led o'i deipleoliad ym Mhrenteg, Gwynedd. Ffoto MP Cooper.
![](/media/8819/cymrite.jpg)
Micrograff electronig archwiliol o grisialau prismatig cymrit o'i deipleoliad yng nghloddfa Benallt, Rhiw, Pen Llŷn.
![](/media/8820/dickite.jpg)
Dicit powdrog sy'n ffurfio caen ar ddolomit o'i deipleoliad yn Nhrwyn Bychan, Môn. Ffoto MP Cooper
![](/media/8821/namuwite.jpg)
Teipsbesimen namuwit o gloddfa Aberllyn, Betws-y-coed.
Mae dros 430 math gwahanol ar fwynau'n digwydd yng Nghymru sef tua deg y cant o'r rhai hysbys. Cafodd unarddeg mwyn eu darganfod gyntaf yng Nghymru a'u henwi ar ôl daearegwyr, mwynolegwyr a llefydd yma a hyd yn oed ar ôl yr Amgueddfa ei hun sef
- anglesit
- banalsit
- bramalit
- brinrobertsit
- brookit
- cymrit
- dicit
- lanthantit-(Ce)
- namuwit
- pennantit a
- steverustit
Darganfuwyd Brookit (ocsid o ditaniwm) gyntaf tua 1809 yn y gogledd. Fe'i enwyd yn 1825 ar ôl y crisialegwr a mwynolegwr o Brydain, Henry James Brooke (1771-1857) gan y mwynolegwr o Ffrainc, Armand Lévy.
Ym 1783 disgrifiodd y Parchedig William Withering rywogaeth nwydd, plumbum (plwm) wedi'i fineraleiddio gan asid fitriolig a haearn, oedd i'w ganfod yn helaeth ar Ynys Môn. Wedyn ym 1832 cynigiodd y mwynolegydd o Ffrainc Francois Sulpice Beudant yr enw anglesit am sylffad plwm gan gofio ei leoliad gwreiddiol, ac mae'r enw hwn wedi aros.
Ym 1930 enwyd mwyn clai newydd dicit ar ôl y cemegydd metelegol o'r Alban, Allan Brugh Dick (1833-1926) a gyhoeddodd ddisgrifiad manwl o'i briodoleddau ar sail deunydd o Drwyn Bychan, Môn.
Enwyd mwyn clai arall bramalit ar ôl Alfred Brammall (1879-1954) gynt o'r Adran Ddaeareg, Coleg yr Ymerodraeth, Llundain. Ym 1943 disgrifiodd enghraifft o Landybïe, Sir Gâr.
Yn ystod y 1940au cafwyd ymchwil drylwyr yn y cloddfeydd manganîs yn Rhiw, Pen Llŷn lle danganfuwyd sawl math newydd yng nghloddfa Benallt. Enwyd y cyntaf, banalsit, oherwydd ei gyfansoddiad o'r mwynau canlynol: bariwm (Ba); sodiwm (Na); alwminiwm (Al) a silicad (Si).
Ym 1946 cafodd y naturiaethwr enwog o Gymru, Thomas Pennant (1726-1798) ei gydnabod drwy enwi mwyn manganîs clorit penantit ar ei ôl. Ym 1949 enwyd ffelsbar bariwm hydradol cymrit ar ôl Cymru.
Ym 1982 darganfuwyd hydrocsid sinc a sylffad copor hydradol newydd ar hen sbesimen yn yr Amgueddfa o gloddfa Aberllyn ger Betws-y-coed. Fe'i enwyd yn namuwit ar ôl rhan Saesneg enw'r Amgueddfa yn llawn sef Amgueddfa Cymru - National Museum Wales. Erbyn hyn ystyrir enwi mwyn ar ôl sefydliad yn amhriodol ond mae'r enw'n aros gan wneud y mwyn hwn yn anarferol iawn.
Ym 1985 disgrifiwyd lanthanit gyda llawer o seriwm ynddo o gloddfa Britannia ar yr Wyddfa a'i enwi'n lanthanit-(Ce) .
Canfuwyd mwyn clai newydd a ger Bangor yn 2002. Enwyd hwn yn brinrobertsit ar ôl Brinley Roberts, Prifysgol Llundain sydd wedi cyhoeddi'n eang am ddaeareg y gogledd.
Y mwyn diweddaraf i gael ei ddarganfod yng Nghymru yw'r thiosylffad plwm prin sy'n ffurfio mewn tomeni mwyngloddiau mewn sawl lleoliad yng Nghanolbarth Cymru. Rhoddwyd yr enw steverustit iddo yn 2009, ar ôl y gŵr a'i darganfu, Steve Rust. Mae yntau'n gasglwr micromineralau sydd wedi bod wrthi am y rhan fwyaf o'i oes yn canfod ac adnabod mwynau ôl-fwyngloddio anarferol ym Maes Mwynau Canolbarth Cymru.
Am fwy o wybodaeth am y mwynau hyn ac eraill o Gymru ewch i wefan
Mwynoleg Cymru'r Amgueddfa .
sylw - (1)