Crefft yn blodeuo: darlunio botanegol gan artistiaid o ferched

Maria Sibylla Merian
'Raupenbucher' (Book of Caterpillars)

- 1679
Cerasus Major

Elizabeth Blackwell

'The Curious Herbal' 1737-39
Prunus Amygdalus

Boneddiges Arabella Roupell
Protea
Berthe Hoola van Nooten
Carica Papaya
Miss Sarah Anne Drake
Crateagus Macrantha
Jane Webb Loudon
Romulea

Mae casgliad yr Amgueddfa o ddarluniau botanegol yn cynnwys dros 9,000 o brintiadau a lluniau. Mae straeon difyr a dewr y tu ôl i lawer o'r lluniau yn y casgliad, yn enwedig straeon yr arlunwyr benywaidd a oedd yn chwarae rhan yn y darganfyddiadau gwyddonol.

Bu tuedd i anwybyddu arlunwyr botanegol benywaidd a'u gwthio i gyrion byd gwyddonol ac academaidd llysieueg. Roedd hyn yn tanseilio'u camp a'u cyfraniad i wyddor a chelfyddyd darlunio botanegol.

Rhan merched yn darlunio planhigion

Barn rhai oedd mai ffordd barchus i foneddigesau basio'r amser, gan wneud tipyn bach o baentio cyn te, oedd darlunio botanegol! Roedd hyn yn wir yn achos rhai merched ond nid pawb ohonynt. Enillodd nifer o ferched penderfynol ac annibynnol eu plwyf fel darlunwyr botanegol crefftus a dawnus.

Yr 17eg ganrif

Maria Sibylla Merian (1647-1717) oedd un o arlunwyr botanegol gorau ei chyfnod.

Bu gan Maria ddiddordeb mewn trychfilod a lindysod a'r planhigion oedd yn fwyd iddynt er pan oedd yn ifanc. Credir bod gan ei hewythr ffatri sidan a bod hyn wedi arwain at ei diddordeb hi yng nghylch bywyd y pryf sidan.

Ym 1679, cyhoeddwyd y gyntaf o'i thair cyfrol ar bryfetach Ewrop, wedi'u darlunio â'i hysgythriadau hi ei hunan. Roedd ei lluniau gofalus a manwl o bryfetach a'r planhigion yr oeddent yn byw arnynt yn gynsail ar gyfer llenyddiaeth wyddonol wedi hynny.

Ar ôl bod yn briod am 17 flynedd, gadawodd Maria ei gŵr ac ymuno â sect ddethol o'r enw'r Labadistiaid mewn castell yn yr Iseldiroedd. Ym 1698, gwerthodd Maria ei chasgliad i dalu am daith i astudio a disgrifio pryfetach yn eu cynefin.

Am ddwy flynedd, treuliodd ei holl amser yn chwilio am blanhigion a phryfetach newydd ac yn eu darlunio. Yn y pen draw, dychwelodd i Ewrop oherwydd afiechyd ac roedd yn gweithio ar nifer o luniau pan fu farw o strôc yn 70 oed.

Y 18fed ganrif

Anfonwyd gŵr Elizabeth Blackwell (1700-1758) i garchar dyledwyr am ddwy flynedd ar ôl iddo agor siop brintiau yn Llundain heb y brentisiaeth angenrheidiol.

Roedd yn rhaid i Elizabeth feddwl am ffordd o'u harbed rhag eu trafferethion ariannol a, gan ei bod yn arlunydd dawnus, cafodd ei hannog gan Syr Hans Sloane, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, i lunio llysieulyfr awdurdodol o blanhigion meddyginiaethol.

Cychwynnodd Elizabeth ar y dasg fawr hon gan ysgythru ei lluniau ei hunan ar blatiau copr a lliwio'r printiau â llaw.

Roedd hon yn dasg enfawr a theitl y gwaith gorffenedig oedd A Curious Herbal. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf, a oedd yn cynnwys 500 o blatiau, ym 1738.

Er nad yw safon ei darluniau yn eithriadol, roedd hwn yn gofnod ardderchog yn ei gyfnod ac roedd yn gymaint o lwyddiant am iddo lenwi bwlch ym maes adnabod planhigion.

Y 19eg ganrif

Roedd Oes Fictoria yn gyfnod o ddatblygiadau mawr. Wrth i'r Ymerodraeth Brydeinig ehangu, roedd llawer o blanhigion newydd ac egsotig yn cael eu hanfon i Brydain.

Yn aml, roedd gwragedd bonheddig yn cyhoeddi llyfrau'n ddi-enw gan ei fod yn cael ei ystyried yn beth coman i gysylltu enw menyw â menter fasnachol.

Engraifft dda o hyn yw llyfr o'r enw Specimens of the Flora of South Africa by a Lady (1849). Roedd y 'Foneddiges' hon yn ymweld â De Affrica gyda'i gŵr ac, er mwyn pasio'r amser, bu'n paentio lluniau o blanhigion egsotig yr ardal. Cyhoeddodd y gyfrol yn ddi-enw ond, maes o law, daeth yn hysbys mai Lady Arabella Roupell oedd yr awdur.

Bu farw gŵr Berthe Hoola van Nooten (yn ei bri tua diwedd y 1800au) pan oeddent yn teithio yn Java, a gadawyd hi i fagu dwy ferch ar ei phen ei hunan. A hithau mewn angen mawr, cyhoeddodd The fruits and flowers of Java (1863), sy'n cynnwys darluniau lliwgar a chryf.

Yn unol â thraddodiadau cymdeithasol yr oes, ysgrifennodd Berthe ryw fath o ymddiheuriad yn y cyflwyniad i'r llyfr yn esbonio ei bod wedi'i gorfodi i ddefnyddio'i doniau fel arlunydd botanegol i'w chadw rhag tlodi ac fel encilfa yn ei galar.

Mae hyn yn rhoi syniad da i ni o ddisgwyliadau a statws merched yn y 19eg ganrif.

Daeth Miss Sarah Anne Drake (1803-1857) yn arlunydd botanegol o fri a chynhyrchodd lawer iawn o waith. Arbenigau mewn tegeirianau a chyfrannodd blatiau eithriadol at yr Orchidaceae of Mexico and Guatemala gan Bateman — un o'r llyfrau enwocaf a gyhoeddwyd erioed am degeirianau.
Efallai mai ei chynnyrch gorau oedd y 1,100 o blatiau ardderchog a luniodd ar gyfer y Botanical Register gan Sydenham Edwards. Enwyd y tegeirian 'Drakea' o Awstralia ar ei hôl.

Gadawyd Jane Webb Loudon (1807—1858) yn amddifad yn 17 oed. Ysgrifennodd nofel wedi'i gosod yn yr 21ain ganrif o'r enw The Mummy i'w chynnal ei hunan.

Daeth y nofel i sylw John Loudon, tirluniwr uchel ei barch, ac fe gyfarfu'r ddau a phriodi maes o law. Credai Jane fod llawer o lyfrau garddio ei gŵr yn rhy dechnegol ac felly ysgrifennodd Instructions in Gardening for Ladies (1840) mewn iaith glir a syml. Roedd y llyfr yn eithriadol o boblogaidd a gwerthwyd dros 20,000 o gopïau ohono.
Aeth Jane ymlaen i ysgrifennu The Ladies Flower-Garden ym 1840 a Botany for Ladies ym 1842.

Gwaith pwysicaf Anna Maria Hussey (1805—1877) oedd Illustrations of British Mycology, a gyhoeddwyd ym 1847-9 mewn dwy gyfrol. Mae'r llyfr yn cynnwys cyfres o blatiau lliw, gwybodaeth fiolegol a sylwadau cyffredinol sy'n cyfuno gwyddoniaeth, anectodau a chyfeiriadau llenyddol.
Cafodd y goden fwg Husseia ei henwi ar ei hôl.

sylw (4)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nia Martin-Evans Staff Amgueddfa Cymru
10 Mawrth 2020, 12:33
Hi Kath,

Thank you for getting in touch with us. I have passed on your comment to my colleagues who will be able to take a further look at this.

Many thanks,

Nia
(Digital team)
Kath
10 Mawrth 2020, 10:19
What about Marianne North?
https://www.botanicalartandartists.com/about-marianne-north.html
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
20 Rhagfyr 2016, 10:14

Hi there Meg

Thanks for your interesting enquiry - I think it's fascinating too, glad to hear you are working on a show on the topic!

I will pass on your enquiry to a couple of my colleagues by email, as the expertise might lie in both our Art and our Botany departments, as well as our Library.

Best of luck with your research,

Sara
Digital Team

Meg Driscoll
19 Rhagfyr 2016, 23:33
Hi,

My name is Meg Driscoll. I'm a reporter for a radio show in the US. I'm with a company called Gimlet Media. I am doing research on Mary Elizabeth Barber for the history show that I work on. I'm particularly interested in this idea that Arabella Roupell published her works by "A Lady." And that other upper class women also published their works anonymously. I also have an account that Mary Elizabeth Barber at first did not disclose that she was a woman when she was contributing to volumes about botany and rare plants. Do you happen to have a historian on staff that works on this particular area or know someone who might? Thank you so much! I find this whole topic really fascinating.

Meg
gimletmedia.com/twiceremoved