Deinosor hwyadbig o'r enw Ruth

Ychydig o ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac, yn wir, ychydig o aelodau'r staff y tu allan i'r Adran Ddaeareg sy'n gwybod mai 'Ruth' yw enw ei ffrindiau ar y deinosor hwyadbig enfawr Edmontosaurus. Mae'r enw'n awgrymu ein bod yn gwybod mai benyw yw'r sbesimen 8 metr o hyd ond mewn gwirionedd does dim tystiolaeth i ddweud ai benyw ynteu gwryw ydyw. Felly pam 'Ruth'? Mae'r ateb yn syml, heb unrhyw fath o ddirgelwch gwyddonol - mewn chwarel yn y Black Hills, South Dakota, UDA, a oedd yn eiddo i Mrs Ruth Mason, y daethpwyd o hyd i'r deinosor.

Logo'r Black Hills Institute of Geological Research yn dangos Ruth y deinosor hwyadbig o Amgueddfa Cymru.

Defnyddiwyd yr enw 'Ruth' i ddechrau gan staff y Black Hills Institute of Geological Research pan oeddent yn codi'r deinosor ym 1986-7, i gydnabod caredigrwydd Mrs Mason tuag atynt. Ar ïl i ni brynu'r sbesimen, daeth criw bach o'r cwmni draw i ail-osod y sgerbwd i ni. Gan eu bod nhw'n ei alw'n 'Ruth', fe ddechreuon ninnau wneud hynny hefyd wrth sïn yn anffurfiol am y sbesimen.

Mae'r Black Hills Institute, yn Hill City, South Dakota yn un o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd sy'n ymwneud â chasglu, paratoi a chyflenwi sbesimenau o fwynau a ffosilau o safon uchel i'w harddangos mewn amgueddfeydd.

Mae'r Edmontosaurus sydd i'w weld yng Nghaerdydd yn un o'r enghreifftiau gorau o ddeinosor 'hwyadbig' a godwyd erioed. Gosododd y Black Hills Institute ef mewn ystum realistig iawn wedi'i seilio ar ein gofynion dylunio ni. Mae'r sbesimen mor hardd ac yn edrych mor fyw fel bod y Black Hills Institute wedi cynnwys llun o'r sgerbwd yn ei logo: mae'n llun trawiadol ac yn arwydd da o fedr y gweithwyr.

O'i dechreuadau di-nod dros 65 miliwn o flynyddoedd yn ïl, mae Ruth erbyn hyn yn cael ei chydnabod yn fyd-eang wrth iddi hysbysebu sbesimenau daearegol i'w harddangos. Mae hefyd yn cynnig profiad unigryw i bawb sy'n dod i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sue Cowing
21 Chwefror 2022, 19:59
Hello!
I am writing a book of poems and prose notes about children who have made significant fossil finds. Since Ruth Mason discovered,at age 7. a major bone bed that has yielded thousands of dinosaur specimens, including T-rex "Sue," and since she has a duckbilled dinosaur named for her,
I would like to include her. Though I find a lot of information about the quarry and your organization, I would like to learn a bit more about her. Can you help?
Thank you for your attention
e. bruce threlfall
8 Mehefin 2020, 23:23
...would be extremely pleased to hear of mammalian exhibits/displays as well...any future plans in that direction?