Bri rhyngwladol i 'Ffosil Cenedlaethol Cymru'
Ym 1862, canfuwyd un o'r trilobitau mwyaf erioed mewn craig yn Sir Benfro. Daeth yn un o ffosilau enwocaf Prydain ac mae'n ein helpu i ddeall sut yr oedd Cymru'n arfer bod yn sownd wrth Ogledd America, cyn ffurfio Eryri na Chefnfor Iwerydd.
Casglu ffosilau yn ardal Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro
Ym 1862, roedd y paleontolegwr adnabyddus, J.W. Salter yn casglu ffosilau yn ne-orllewin Cymru fel rhan o'i waith gydag Arolwg Daearegol Prydain (BGS). Wrth archwilio clogwyni ardal greigiog Penrhyn Tyddewi un diwrnod, glaniodd Salter ym mhorth bychan Porth-y-rhaw, gan gredu ei fod yn Harbwr Solfach, sydd ychydig i'r dwyrain.
Fel y digwyddodd, roedd hwn yn gamgymeriad ffodus oherwydd, yng nghreigiau Porth-y-rhaw, daeth ar draws olion un o'r trilobitau mwyaf a ganfuwyd erioed (dros 50cm o hyd) ac, o ganlyniad i'r darganfyddiad hwn, daeth yr ardal yn lle adnabyddus i hela ffosilau.
Bywyd yn y môr gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl
Cafodd y cerrig llaid tywyll sydd yn y golwg yno eu dyddodi mewn môr rhyw 510,000,000 o flynyddoedd yn ôl mewn cyfnod a elwir erbyn hyn yn Gyfnod Cambriaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i'r cyfnod gan mai yng Nghymru y cafodd creigiau o'r cyfnod eu hadnabod a'u henwi gyntaf gan ddaearegwyr o'r 19eg ganrif.
Mae Porth-y-rhaw ymhlith nifer fach o safleoedd yng Nghymru lle mae ffosilau o'r Cyfnod Cambriaidd wedi'u cadw'n eithaf da ac yn gymharol hawdd eu canfod. Yn ogystal â thrilobit enfawr Salter, ceir yno ffosilau llawer o fathau eraill o arthropodau morol sydd wedi hen ddarfod amdanynt. Fel rheol, mae'r rhain yn faint mwy cyffredin, sef rhyw 2-3cm o hyd.
Ffosil cenedlaethol Cymru
Yr enw gwyddonol ffurfiol a roddodd Salter ar y trilobit enfawr yw Paradoxides davidis, ar ôl ei ffrind David Homfray, casglwr ffosilau amatur o Borthmadog. Erbyn hyn, mae'r trilobit hwn ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus a gasglwyd ym Mhrydain a gwelir ei lun mewn llawer o gyhoeddiadau; mae llawer o'n prif amgueddfeydd, yn cynnwys Amgueddfa Cymru, yn ymfalchïo os oes ganddynt sbesimenau da ohonynt. Yn wir, pe bai gan Gymru 'ffosil cenedlaethol', byddai Paradoxides davidis yn gystadleuydd brwd am y teitl.
Byd-enwog
Ceir llawer o sbesimenau o Paradoxides davidis ar Benrhyn Afalon yn ne-ddwyrain Newfoundland, mewn creigiau sy'n union yr un oed â'r rhai sydd yn y golwg ym Mhorth-y-rhaw.
Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig deall bod dosbarthiad y cyfandiroedd a'r moroedd yn wahanol iawn yn y Cyfnod Cambriaidd i'r hyn ydyw heddiw. Bryd hynny, roedd Cymru, Lloegr a de-ddwyrain Newfoundland ar ochr ddeheuol hen fôr, o'r enw Iapetws, wedi'u gwahanu oddi wrth yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland, fel y dangosir ar y map.
Ceir yr un math o drilobitau yng Nghymru a de-ddwyrain Newfoundland a rhai hollol wahanol yn yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland ac mae hyn yn dangos eu bod yn arfer bod ar wahanol gyfandiroedd.
Geni Eryri
Tua 480,000,000 o flynyddoedd yn ôl, achosodd symudiadau y tu mewn i'r Ddaear i hen Fôr Iapetws gulhau'n raddol a diflannu wrth i'r ddau gyfandir daro yn erbyn ei gilydd. Arweiniodd hyn at ffurfio cadwyn o fynyddoedd uchel sydd heddiw i'w gweld yng Nghymru, yr Alban, Sgandinafia ac ym mynyddoedd yr Appalachiaid.
Cefnfor newydd Iwerydd
Yn nes ymlaen o lawer yn hanes y Ddaear, rhwng 200,000,000 a 65,000,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd y ddau gyfandir wahanu eto gan ffurfio cefnfor newydd a ddaeth, maes o law, yn Gefnfor Iwerydd fel y mae heddiw. Fodd bynnag, nid oedd y rhwyg ar hyd yr un llinell yn union a'r llinell lle caewyd môr Iapetws, a gadawyd de-ddwyrain Newfoundland a'i drilobitau 'Cymreig' yn sownd wrth weddill Newfoundland a Gogledd America, a'r Alban a'i drilobitau o 'Ogledd America' yn sownd wrth weddill Ynysoedd Prydain.
Mae'r ffaith bod yr un trilobitau'n cael eu darganfod mewn ardaloedd sy'n bell wrth ei gilydd yn pwysleisio bod angen i ddaearegwyr astudio ffosilau a ddaw o ardaloedd pell wrth ei gilydd er mwyn cynnig dehongliad llawn o hen hanes eu darn nhw eu hunain o gramen y Ddaear.