Adar tir fferm Prydain mewn perygl
Cornicyll (Vanellus vanellus)
Gwelwyd gostyngiad o 40% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Maen nhw'n bridio'n bennaf ar lifddolydd a thir pori garw. Yn y gaeaf maent i'w gweld mewn heidiau mawr ar gaeau âr a morfeydd heli.
Traenio llifddolydd a newid i hau cnydau yn yr hydref sydd wedi cael yr effaith fwyaf arnynt. Mae yna lai o gaeau âr iddynt fwydo arnynt yn y gaeaf, ac mae cnydau'r gwanwyn yn rhy dal iddyn nhw nythu ynddynt.
Mae rheoli ffermydd tir isel er mwyn creu'r cynefinoedd da yn gweithio. Mae ail-greu llifddolydd yn arwain at gynnydd yn nifer yr adar sy'n bridio.
Y Petrisen (Perdix perdix)
Gwelwyd gostyngiad o 86% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Maen nhw'n bridio ar ymylon caeau garw lle mae gwrychoedd gerllaw. Nid ydyn nhw'n symud yn bell yn y gaeaf ac maent i'w gweld yn yr un lleoedd mwy neu lai.
Mae colli gwrychoedd, chwistrellu ymylon caeau â chwynladdwyr a'r newid i hau cnydau yn yr hydref wedi cael effaith ddifrifol arnynt. Mae hyn wedi cael gwared ar eu safleoedd nythu a'u mannau bwydo dros y gaeaf.
Y newyddion da yw eu bod nhw'n ymateb yn gyflym iawn i welliannau i'w cynefinoedd. Gellir dyblu nifer yr adar sy'n bridio mewn dwy flynedd drwy ddarparu'r cynefinoedd cywir ar yr adeg cywir o'r flwyddyn.
Y Turtur (Streptopelia turtur)
Gwelwyd gostyngiad o 71% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Maen nhw'n bridio lle bynnag y mae digon o orchudd gan lwyni, coed a pherthi. Maen nhw'n treulio'r gaeaf ar dir amaeth yn Affrica, i'r de o anialwch y Sahara.
Maen nhw wedi dioddef o golli ymylon caeau yn yr un ffordd â'r Petrisen. Mae llai o hadau gwyllt iddyn nhw fwydo arnynt erbyn heddiw.
Maen nhw'n wynebu rhwystr arall hefyd. Maen nhw'n cael eu hela wrth hedfan ar draws Ewrop. Mae niferoedd mawr yn cael eu saethu yn y gwanwyn wrth hedfan yn ôl i Brydain. Mae rheoliadau Ewropeaidd wedi lleihau nifer yr helwyr, ond mae'r arfer yn parhau gan leihau'r boblogaeth eto fyth.
Yr Ehedydd (Alauda arvensis)
Gwelwyd gostyngiad o 52% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'r Ehedydd yn bwydo ar dir fferm tir isel a dolydd tir uchel ond mae angen gwair byr a garw arnynt. Yn y gaeaf maen nhw'n heidio gyda'i gilydd ar gaeau âr a sofl.
Ar dir fferm tir isel mae ffermio dwys wedi gadael llai o dir glas garw i'r ehedydd nythu arno ac mae'r newid i hau cnydau yn yr hydref wedi golygu bod eu hoff fannau gaeafu wedi diflannu.
Yn ffodus, maen nhw'n ymateb yn gyflym iawn os yw'r tir yn cael ei reoli ar eu cyfer. Mae nifer yr ehedyddion ar un o ffermydd yr RSPB wedi mwy na dyblu mewn cwta dau dymor.
Y Fronfraith (Turdus philomelos)
Gwelwyd gostyngiad o 56% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'r Fronfraith yn bridio mewn perthlysoedd a gwrychoedd. Yn y gaeaf mae rhai o'n hadar ni'n hedfan tua'r de-orllewin i Iwerddon a Ffrainc a daw nifer fawr o adar atom ni o Sgandinafia.
Mae ffermio dwys wedi cael effaith ddifrifol ar y Fronfraith. Mae colli gwrychoedd wedi difa eu safleoedd bridio ac mae plaladdwyr wedi lladd yr anifeiliaid y maent yn bwydo arnynt.
Gallai defnyddio llai o beli lladd malwod helpu'r Fronfraith hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad yw eu dirywiad mor ddifrifol. Mae angen i ffermydd symud o gyfeiriad ffermio dwys, gan ailblannu gwrychoedd neu droi caeau diffaith yn ôl yn berthlys.
Y Llinos (Carduelis cannabina)
Gwelwyd gostyngiad o 52% yn y boblogaeth ym Mhrydfain rhwng 1970 a 1999. Mae Llinosod yn hoffi bridio mewn gwrychoedd a phrysg. Yn y gaeaf maen nhw'n heidio gyda'i gilydd ac yn bwydo ar gaeau llawn chwyn.
Cael gwared ar brysgwydd a cholli ardaoedd prysg wrth i faint caeau gynyddu sydd wedi cael yr effaith fwyaf un ar y Llinos.
Mae'r defnydd cynyddol ar wrychladdwyr a llai o ddefnydd ar chwynladdwyr ar ymylon caeau wedi gweld niferoedd y Llinosod yn cynyddu mewn rhai mannau.
Golfan y Coed (Passer montanus)
Gwelwyd gostyngiad o 95% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Dyma'r gostyngiad mwyaf o blith holl rywogaethau Prydain. Mae Golfan y Coed yn nythu mewn tyllau mewn coed ac adeiladau, ac maen nhw'n hoffi byw ar dir fferm agored gyda choed a gwrychau gwasgaredig.
Colli bwyd yw un o achosion tebygol y dirywiad mawr hwn. Mae cnydau grawn yn cael eu tynnu yn syth o'r caeau heddiw ac mae llai o gaeau sofl yn y gaeaf. Mae yn hyn yn golygu bod llai o rawn a hadau ar gael i'r adar fwydo arnynt.
Gellir helpu Gofan y Coed drwy ddefnyddio llai o chwynladdwyr a phlaladdwyr ar ymylon caeau a gwella amrywiaeth y planhigion i ddarparu bwyd ar eu cyfer.
Bras y Gors (Emberiza schoeniclus)
Gwelwyd gostyngiad o 53% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'n nythu mewn llystyfiant trwchus o gwmpas llynnoedd a gwlyptiroedd. Yn y gaeaf maen nhw'n gallu heidio gyda llinosiaid a breision eraill i fwydo mewn caeau llawn chwyn.
Colli caeau addas i fwydo yn y gaeaf sydd wedi cael yr effaith waethaf ar Freision y Gors. Nid yw traenio gwlyptiroedd a thacluso dyfrffyrdd yn gyffredinol wedi helpu chwaith.
Gellir eu helpu yn yr un ffordd â llawer o adar eraill sy'n bwyta hadau. Mae lleihau defnydd ar chwynladdwyr a gwrychladdwyr yn galluogi amrywiaeth o blanhigion i dyfu ar ymylon caeau, gan gynyddu'r cyflenwadau bwyd. Bydd cynnal llystyfiant o gwmpas llynnoedd a ffosydd yn darparu lleoedd nythu.
Melin yr Eithin (Emberiza citrinella)
Gwelwyd gostyngiad o 53% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'n nythu ar dir fferm agored gyda gwrychoedd a pherthi; fe'i ceir hefyd ar rhostiroedd a thir comin. Yn y gaeaf maen nhw'n heidio gyda'i gilydd gydag adar eraill sy'n bwyta hadau fel Breision y Gors a Llinosod.
Mae adar fel Melin yr Eithin, sy'n bwyta hadau, yn bwydo eu cywion ar bryfed ac infertebratau eraill. Yn yr un modd â llawer o'r rhywogaethau eraill sydd yma, mae defnydd ar bladdwyr yn cael effaith ddifrifol arnynt yn y gwanwyn a'r haf cynnar.