Dirgelwch ffosil a ganfuwyd yn Oes Fictoria
Wrth wneud gwaith gwarchod arferol ar gasgliadau ffosilau Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru, penderfynwyd bod angen ychydig bach o waith adfer ar un o'r sbesimenau. Ond trodd y dasg fach yn brosiect cadwraeth mawr a gafodd sylw gan y cyfryngau ym Mhrydain a thramor.
Yr ichthyosor
Ichthyosor yw'r sbesimen dan sylw. Ymlusgiad morol a drigai yn y Cyfnod Mesosöig, 65-200,000,000 o flynyddoedd yn ôl — yr un pryd â'r deinosoriaid — oedd hwn. Mae ichthyosoriaid yn debyg i ddolffiniaid — mae ganddynt lygaid mawr, genau hir, dannedd miniog ac esgyll.
Rhoddwyd y sbesimen hwn i hen Amgueddfa Caerdydd yn y 1880au ac yna daeth yn rhan o gasgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol. I ddechrau, gosodwyd ef mewn plastr y tu mewn i ffrâm bren ac yna paentiwyd y plastr a'r sbesimen.
Cafodd y sbesimen ei adfer sawl gwaith yn yr 20fed ganrif, yn cynnwys rhoi plastr newydd ac ailbaentio. Roedd label yn nodi enw'r rhywogaeth sef Ichthyosaurus intermedius, a gasglwyd o Wlad yr Haf, ac roedd yn cynnwys y disgrifiad hwn o'r sgerbwd: 'the greater part of a small individual preserved with but little disturbance of the bones'. Gwelwyd yn ddiweddarach nad oedd hyn yn hollol gywir.
Archwiliwyd y sbesimen yn fanwl a gwelwyd ei fod wedi'i ddifrodi'n ddrwg, â chraciau trwyddo. Roedd y plastr a'r ffrâm bren mewn cyflwr gwael ac felly penderfynwyd tynnu'r plastr a'r paent er mwyn mynd yn ôl at y sgerbwd a'r graig wreiddiol. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd roeddem yn gwybod y byddai'r sbesimen yn edrych yn hollol wahanol wedyn.
Datgelu'r sbesimen
Ar ôl tynnu'r paent, gwelwyd bod pennau coll yr asennau wedi'u mowldio mewn plastr ac yna'u paentio fel gweddill y sbesimen, gan roi'r argraff gamarweiniol bod yno esgyrn.
Wrth astudio lluniau pelydr-X o'r sbesimen, gwelwyd anghysondeb mewn un rhan o feingefn y ffosil; roedd cysgod tywyll o gwmpas yr esgyrn. Pan dynnwyd y paent o'r rhan hon, daeth yn amlwg bod sianel wedi'i cherfio yn y graig a bod esgyrn rhydd unigol wedi'u gosod ynddi â phlastr.
O dan y paent, gwelwyd bod esgyrn yr un asgell flaen a oedd wedi'i chadw wedi'u gosod mewn plastr hefyd. Mae'r tyllau a welir yn y graig o'i gwmpas yn awgrymu o ble y cymerwyd yr esgyrn cyn eu symud, ond mae'n bosib bod rhai esgyrn wedi'u cymryd o sbesimenau eraill.
Cafwyd y syndod mwyaf pan dynnwyd y paent o'r rhan o gwmpas yr ên; roedd o liw a math hollol wahanol i weddill y sgerbwd. Yn ogystal â bod y sbesimen yn cynnwys o leiaf ddau greadur, dangosodd gwaith astudio pellach bod y pen a'r corff yn dod o ddwy rywogaeth hollol wahanol o ichthyosor! Roedd cadwraethwyr Oes Fictoria wedi gwneud cryn dipyn o waith newid ar y sbesimen hwn.
Ail arddangos y ffosil ar ôl gwneud gwaith cadwraeth arno
Er bod y sbesimen yn cynnwys dwy rywogaeth wahanol, penderfynwyd cadw'r pen a'r corff gyda'i gilydd yn unol â'r bwriad gwreiddiol. Gadawyd y plastr o gwmpas yr asgell a rhan o'r asennau a wnaed o blastr fel yr oeddent hefyd. Adeiladwyd system gynnal newydd ysgafn. Yn hytrach na'i arddangos fel dim ond sbesimen mewn amgueddfa, bydd yr ichthyosor hwn yn cael ei ddefnyddio i dynnu sylw at y technegau a ddefnyddiwyd gan rai pobl yn Oes Fictoria i 'adfer', arddangos a chyflwyno sbesimenau o ffosilau a sut y bu i waith gwarchod manwl heddiw ddatgelu'r gwir y tu ôl i'r sbesimen.
Dechreuodd y cyfryngau ymddiddori yn y mater pan gyhoeddodd yr Amgueddfa sgwrs gyhoeddus ar waith gwarchod y sbesimen. O ganlyniad i hyn, cafodd y stori sylw yn y wasg ym Mhrydain a thramor ac ar y teledu, y radio a'r rhyngrwyd, yn cynnwys cyfweliad byw ar ABC Radio yn Awstralia!