Trwsio'r gwaith trwsio - Gofalu am fodelau gwydr unigryw Blaschka

Leopold Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA.

Rudolf Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA.

Llun ffynhonnell o'r model o Gragen Bedr Bapur (Argonata argo).

Model o'r Gragen Bedr Bapur wedi torri.

Y model o Gragen Bedr Bapur ar ôl y gwaith cadwraeth.

Mae gan Amgueddfa Cymru tua 200 o fodelau gwydr manwl hyfryd o greaduriaid môr o waith Leopold a Rudolf Blaschka. Gwnaed yr eitemau manwl a bregus hyn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maent wedi cael eu harddangos yn agored am flynyddoedd a'u storio dan amodau gwael, gan achosi difrod iddynt a'u gadael yn frwnt.

Campweithiau unigryw

Datblygwyd y portreadau gwydr prydferth hyn o anifeiliaid y môr yn wreiddiol fel modelau addysgol. I ni heddiw, maen nhw'n gampweithiau celf unigryw a phwysig.

Mae gofalu am fodelau Blaschka'n frith o anawsterau. Oherwydd eu hoedran a'u cymhlethrwydd, mae angen gofal mawr wrth lanhau neu drwsio'r modelau. Rhaid clirio gwerth degawdau o faw, a chywiro difrod o waith trwsio cynharach heb niweidio na newid y model gwreiddiol.

Y cam cyntaf mewn unrhyw broject cadwraeth yw deall beth mae'r darn yn ei gynrychioli, wedyn rhaid deall sut cafodd ei wneud. Cymysgedd cymhleth o wydr, paent a chaenau gweog sydd ym modelau Blaschka, a chawsant eu creu'n arbennig i ddangos gweadedd a lliwiau'r anifeiliaid byw.

Clirio gwerth degawdau o faw

Y peth cyntaf i'w wneud yw dod o hyd i ffordd briodol o lanhau'r modelau, wedyn rhaid datblygu ffyrdd o gywiro gwaith trwsio blaenorol. Yn olaf, rhaid trwsio'r modelau lle bo angen.

Roedd y modelau'n anodd iawn i'w glanhau. Roedd paent wedi ei ychwanegu at lawer o'r sbesimenau i ychwanegu gwead a lliw. Roedd llwch wedi cronni ar y rhain dros y blynyddoedd, ac roedd hi'n anodd ei glirio.

Cafodd nifer o doddyddion a hylifau glanhau eu profi'n ofalus. Er bod dŵr (â glanedydd anionig) yn effeithiol wrth gael gwared ar y baw, roedd y paent ar y wyneb yn doddadwy ac mewn perygl o gael ei olchi i ffwrdd. Yn y pen-draw, canfuwyd bod gwirod gwyn yn cael gwared ar y baw heb niweidio'r paent gwreiddiol.

Cywiro hen waith trwsio

Roedd llawer o'r sbesimenau, yn enwedig y seffalopodau, wedi cael eu torri a'u trwsio dro ar ôl tro dros amser. Mae llawer o'r gwaith trwsio wedi afliwio neu'n dechrau dadfeilio. Roedd rhai darnau, tentaclau er enghraifft, wedi cael eu glynu nôl yn y lle anghywir.

Roedd y gwaith trwsio hynaf yn tueddu i ddefnyddio glud anifeiliaid oedd yn meddalu'n rhwydd mewn dŵr, ond roedd angen gofal mawr lle roedd paent ar wyneb y darn am ei fod yn toddi mewn dŵr. Roedd aseton yn toddi mathau eraill o lud. Ar ôl cael gwared ar yr hen lud, roedd angen rhoi'r modelau nôl at ei gilydd.

Ail-drwsio'n gywir

Roedd y gwydr a wnaed i wneud y rhan fwyaf o'r modelau'n denau ac yn fregus dros ben. Roedd rhai o'r darnau wedi eu chwalu'n ddarnau di-ri, a'r darnau wedi eu glynu nôl yn y llefydd anghywir ar ryw adeg yn y gorffennol.

Yn gyntaf, roedd angen sicrhau bod modd dadwneud y gwaith trwsio newydd yn y dyfodol. Cafodd glud resin epocsi eu diystyru yn gyflym am eu bod mor gryf, am nad oedd modd dadwneud y gwaith ac oherwydd problemau sefydlogrwydd tymor hir. Dewiswyd y cyfnerthydd, Paraloid B-72TM, am ei fod yn ddeunydd sefydlog, ac am fod modd dadwneud y gwaith a chael gwared arno os oes angen. Mae'n ddeunydd trwsio gwan hefyd a fydd yn torri cyn y gwydr, gan leihau'r posibilrwydd o achosi difrod pellach i'r modelau. Mae modd gweld y deunydd mewn rhai math o olau hefyd, sy'n golygu y bydd modd i guraduron y casgliad yn y dyfodol weld y gwaith cadwraeth a wnaed.

Datblygwyd y gwaith cadwraeth i wella ymddangosiad a chyflawnder y modelau, heb newid rhagor ar y strwythur gwreiddiol. Mae modelau gwydr Blaschka'n gasgliad pwysig sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Bydd y gwaith a wnaed ar y casgliad yn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei gadw i'w fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
17 Ionawr 2018, 10:30
Hi Angela,

Thank you for your interest in the Blaschka models in our collection. The conservator responsible for them will contact you about viewing the models in our stores. We also have a small selection of models – from the approximately 200 models in our collection – on display in the Man and the Environment gallery at National Museum Cardiff.

Best wishes,

Marc
Digital Team
Angela Gladwell
16 Ionawr 2018, 12:51
Dear Museum,
I first saw the Blaschka models at the Dublin Museum and then later at the Natural History museum in Vienna, and have always thought them incredible. Now I see from this article that there are many of them nearer home. I am a artist and would very much like to paint them. Would it be possible to get access to them so that I could take photographs? I have wotk in the London Natural History Museum and you can see some of my work on my website www.angelagladwell.co.uk At the moment there is not any work there that shows my natural history paintings but I would be glad to show them to you.
Best wishes
Angela