Beddrodau Oes y Cerrig yn ne-ddwyrain Cymru Blaengwrt a siambr Castell Carreg (Bro Morgannwg). Gellir ymweld â siambr y gofeb drawiadol hon a adeiladwyd yn null Cotswold-Severn heddiw. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell. Plan o feddrod Gwernvale (Powys). Mae'r plan hwn o'r beddrod yn nodweddiadol o'r math Cotswold-Severn, ond yn yr achos hwn, nid oes modd cyrraedd y siambrau drwy'r blaengwrt, ond yn hytrach o ochrau'r beddrod. Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod. Mae beddrodau'r Oes Cerrig yn gymharol gyffredin yng Nghymru. Mae'r henebion 6,000 oed hyn yn cynnwys un siambr neu fwy wedi eu hadeiladu o gerrig anferth (megalithau). Byddai'r rhain o dan orchudd o bridd neu gerrig yn wreiddiol, ond anaml iawn mae hyn yn goroesi. Gwnaed llawer o'r beddrodau hyn yn ôl dyluniad cyffredin, ac yn ne-ddwyrain Cymru mae hyn yn aml ar ffurf twmpath trapesoid, gyda'r pen lletaf yn pwyntio tua'r dwyrain ac yn agor i flaengwrt. Mae llwybrau byrion yn arwain at y siambrau mewnol o'r blaengwrt neu ochrau'r twmpath. Mae'r dyluniad hwn i'w weld ledled ardal y Cotswolds (Lloegr), ac ar lanau afon Hafren, a hyn sy'n gyfrifol am yr enw archaeolegol y beddrodau sef Cotswold-Severn. Mae gwaith cloddio ar y beddrodau hyn fel yr un yn Gwernvale (Powys) wedi dangos bod rhai ohonynt wedi cael eu hadeiladu dros ben setliadau cynharach, gan awgrymu y bu'n bwysig claddu'r meirw ar dir a fu ym meddiant y byw yn ystod y cyfnod hwn. Yn Pipton a'r Tŷ-Isaf (y ddau ym Mhowys), mae archaeolegwyr wedi darganfod bod rhai beddrodau wedi cael eu hadeiladu fesul tipyn, gan ymgorffori cofeb lai i un mwy o faint yn aml iawn. Mae rhai o'r cofebion lle digwyddodd hyn yn anferth — er enghraifft, mae Penywyrlod, Talgarth (Powys), yn mesur 60m x 25m x 3m (65 x 27 x 3.2 llathen) i fyny — ac mae'n debygol mai bwriad y tai mawr hyn i'r meirwon oedd hawlio tir, gan bwysleisio i bobl oedd yn pasio bod y tir wedi'i feddiannu. Ar ôl eu hadeiladu, byddai'r beddrodau Cotswold-Severn yn cael eu defnyddio am genedlaethau. Er enghraifft, cafodd cyrff eu claddu ym Mharc le Breos Cwm (Gŵyr) am dros bum can mlynedd. Mae'r safle yn rhoi cip i ni ar ddefodau claddu'r beddrodau hyn, ac mae'n debyg i rai cyrff gael eu cadw y tu allan i'r beddrod nes eu bod wedi pydru rhywfaint — arfer digon erchyll i ni heddiw, ond mae'n debyg iddi fod yn ran cyffredin o'r ddefod gladdu ar y pryd. Adeg eu gadael, roedd y beddrodau Cotswold-Severn yn aml yn dal gweddillion nifer fawr o bobl. Ym Mharc le Breos Cwm, ffeindiodd archaeolegwyr dros 40 o gyrff, ac yn Nhŷ-Isaf a Castell Carreg (Bro Morgannwg) ffeindiwyd dros 30 a 50 yn ôl eu trefn. Mae natur ddarniog y cyrff hyn yn awgrymu nad y gladdedigaeth unigol oedd yn bwysig i adeiladwyr y beddrodau, ond creu pentwr esgyrn teuluol. Prin iawn yw'r nwyddau claddu a geir yn y beddrodau hyn — ychydig o botiau drylliedig a llond dwrn o offer fflint ar y mwyaf. Mae'n debygol y byddai'r seremoni i anrhydeddu'r meirwon yn digwydd y tu allan i'r siambrau eu hunain. Mewn cyfuniad, y nwyddau claddu prin hyn, yr esgyrn a'r beddrodau eu hunain yw un o'r prif ffynonellau gwybodaeth am fywyd a marwolaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod y cyfnod anghysbell hwn. Darllen Cefndir The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. The megalithic chambered tombs of the Cotswold-Severn region by T. C. Darvill. Vorda Publications (1982). Related Features Erthygl Beddau cyntedd Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 Erthygl Beddrodau megalithig Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 sylw - (1) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Austen Pinkerton 2 Mawrth 2021, 17:25 Hi,We recently on a walk came across two very small stone 'burial chambers', two standing stones, and a straight row of 9 stones.They were down Cott Lane, next to a small plantation wood, round the back of the Oakwood theme park, near Canaston Woods, which are between Narberth and Haverfordwest, just off the A40.I cant find any reference to them anywhere on the internet, and they were completely unmarked. Do you know where I could find out about them or who to contact?Look forward to your reply,Austen PinkertonY FfermdySoneyfordNarberthSA67 7NX