Beddau cyntedd Oes y Cerrig yng Nghymru

Oes y Cerrig

O ran ei gyflwr, Bryn Celli Ddu (Ynys Môn) yw un o'r beddau cyntedd gorau yng Nghymru. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

5,500 o flynyddoedd yn ôl lledaenodd diwylliant cyffredin ar hyd a lled arfordir gorllewin Ewrop gan gydgysylltu Llydaw, Cernyw, Cymru, de'r Alban ac Iwerddon.

Heddiw, mae'r dystiolaeth am y diwylliant hwn wedi goroesi ar ffurf beddau cyntedd - tomenni claddu crwn ac ynddynt dramwyfeydd wedi'u leinio â cherrig sy'n arwain i siambrau canolog.

Adeiladwyd y beddau hyn gan gymunedau amaethyddol cynnar i gadw gweddillion amlosgedig y meirw, ac fe'u defnyddid am genedlaethau. Mae'n rhaid eu bod yn dirnodau pwysig a gysylltai'r byw â'u cyndadau.

Yng Nghymru, Ynys Môn yw'r lle gorau i weld beddau cyntedd ac mae Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, dwy enghraifft bwysig, mewn cyflwr mor dda fel bod modd caniatáu mynediad i'r cyhoedd.

Barclodiad y Gawres

Cynllun Bryn Celli Ddu yn dangos y dramwyfa sy'n arwain i ganol y twmpath crwn.

Pan adeiladwyd Barclodiad y Gawres crëwyd un brif siambr ac, o boptu iddi, dair siambr ystlys y câi'r meirw eu gosod ynddynt. Yng nghanol y brif siambr roedd aelwyd a byddai'r tân a gyneuid yma yn goleuo'r bedd yn ystod defodau.

Er mawr syndod i'r archaeolegwyr a fu'n cloddio'r bedd, cafwyd hyd i 'gymysgedd anghynnes' o esgyrn ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid ar safle'r aelwyd hon. Er na chawn ni fyth wybod y rheswm am y fath gymysgedd, ceir cipolwg pwysig ar un agwedd ar ddiwylliant adeiladwyr Barclodiad y Gawres drwy astudio'r celfwaith anghyffredin sydd wedi'i naddu ar y meini sy'n leinio'r dramwyfa a'r siambr. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys troellau a phatrymau igam-ogam dolennog anghyffredin.

O ystyried y safle hwn yn unig, gellid diystyru'r patrymau a'u priodoli i ffansi'r adeladwyr, ond ceir cerfiadau o'r math yma mewn beddau cyntedd mor bell i ffwrdd ag Iwerddon a Llydaw.

Mae rhai wedi awgrymu bod y cerfiadau, o bosibl, yn cynrychioli'r patrymau chwyrlïol a gysylltir â pherlewygon.

Bryn Celli Ddu

Maen cerfiedig y tu mewn i siambr Barclodiad y Gawres (Ynys Môn). Mae'r dull o gerfio a welir yn y bedd cyntedd hwn i'w ganfod mewn nifer o feddau yn Iwerddon.

Cafwyd hyd i faen patrymog tebyg ym Mryn Celli Ddu (Ynys Môn). Fodd bynnag, yn yr achos hwn cafwyd hyd i'r maen yn gorwedd ar ei wyneb mewn twll o dan siambr y bedd, lle mae'n rhaid y cafodd ei gladdu cyn y dechreuwyd codi'r bedd. A gafodd ei gladdu er mwyn sancteiddio'r safle, neu a gladdwyd y maen er mwyn ei guddio? - dyma ddirgelwch arall sydd heb ei ddatrys.

Nid beddau cyntedd Môn yw'r unig rai yng Nghymru. Ceir enghreifftiau eraill yng Ngwynedd a Sir Benfro, er nad yw'r rhain mewn cyflwr mor dda.

Am y beddau cyntedd mwyaf a mwyaf cymhleth, y mae'n rhaid teithio i Iwerddon. Yma, dengys safleoedd megis Newgrange a Knowth pa mor uchelgeisiol y gallai cynlluniau adeiladwyr y beddau fod.

Iwerddon

Maen addurnedig y cafwyd hyd iddo o dan Fryn Celli Ddu (Ynys Môn). 1.5m (4.9 troedfedd) o uchder. Mae'r patrymau chwyrlïol ar y garreg hon yn nodweddiadol o gelfwaith beddau cyntedd.

Yn Knowth, gerllaw'r bedd canolog, ceir mynwent ac ynddi o leiaf 18 o enghreifftiau llai, ac yn Newgrange aliniwyd y dramwyfa yn union ar linell codiad yr haul ganol gaeaf (Alban Arthur) gan y peirianwyr medrus a'i cododd.

Yn y mannau hynny lle ceir beddau cyntedd, maent i gyd ychydig yn wahanol o ran eu cynllun. Eto i gyd, maent i gyd yn ddigon tebyg i'w gilydd i ddangos bod Môr Iwerddon yn dramwyfa brysur ar ddiwedd Oes y Cerrig, gyda chymunedau o Lydaw hyd yr Alban yn rhannu syniadau a dulliau o barchu'r meirw.

Darllen Cefndir

Newgrange, Co. Meath (Iwerddon), a chylch pydew yn y blaendir. Mae bedd cyntedd adluniedig Newgrange yn un o blith nifer o feddau enfawr yn Nyffryn Boyne.[Llun © Steve Burrow].

The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006.

Barclodiad y Gawres: the excavation of a megalithic chamber tomb in Anglesey, 1952-1953 gan T. G. E. Powell a G. E. Daniel. Gwasg Prifysgol Lerpwl (1956).

Irish Passage Graves: Neolithic tomb builders in Ireland and Britain 2500 BC gan M. Herity. Gwasg Prifysgol Dulyn (1974).

'The chambered cairn of Bryn Celli Ddu' gan W. J. Hemp. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 86, tt216-58 (1931).

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
25 Chwefror 2016, 13:14
This is good