Darganfyddiadau o dan eglwys ganoloesol
Ar ôl datgymalu eglwys Sant Teilo ym Mhontarddulais, gorllewin Morgannwg, a'i symud i Sain Ffagan, fe ddadorchuddiodd cloddiadau yn seiliau'r eglwys gliwiau pellach ynglŷn â hanes yr eglwys ganoloesol hon.
Drwy ddatgymalu ac ail-godi'r eglwys yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru roedd modd archwilio seiliau'r eglwys mewn ffordd a fyddai wedi bod yn amhosib heblaw am hynny. Mae dealltwriaeth fanwl o'r adeilad yn hanfodol ar gyfer unrhyw ymchwiliad o ddatblygiad eglwys. Pan fydd eglwys yn dal i gael ei defnyddio, dim ond ambell gyfle sy'n codi i archwilio deunydd cuddiedig yr adeilad. Wrth ddatgymalu Eglwys Sant Teilo, roedd modd cynhyrchu cynllun manwl, fesul carreg.
Cyn dechrau cloddio, cwblhawyd arolwg geoffisegol o'r ardal gan ddefnyddio radar treiddio daear, a ddatgelodd dystiolaeth o gladdedigaethau niferus, a chofnodwyd nifer o rannau oddi fewn i'r eglwys a allai fod yn gysylltiedig â gweithgarwch strwythurol.
Ar ôl cwblhau'r cloddio a'r arolygu, datgelwyd manylion am yr adeiladwaith o'r 12fed neu'r 13eg ganrif ymlaen. Mae'n debyg bod yr eglwys bresennol yn dyddio o'r 15fed ganrif. Cyn cloddio, y farn oedd mai'r capel bach ar ochr ogleddol y gangell oedd yr ychwanegiad olaf.
Y rhan gynharaf o'r adeilad y gellid ei hadnabod yw'r corff bach petryalog a'r gangell. Ychwanegwyd ale groes y gogledd ac ale groes y de at hyn, yn ystod y 14eg neu ar ddechrau'r 15fed ganrif mae'n debyg (ond nid o reidrwydd ar yr un pryd).
Yn aml, byddai gan eglwysi pwysig Cymru'r Oesoedd Canol gynllun croesffurf. Ychwanegwyd ystlys ddeheuol yn y 15fed ganrif, i wneud lle i gynulleidfa fwy, mae'n debyg. Yn olaf, ychwanegwyd y porth at ochr ddeheuol yr ystlys. Ar fan cyfarfod y gangell ac ale groes y gogledd darganfuwyd carreg bedd gladdedig Mary Bevans o Gilâ, a fu farw ym 1717 yn 64 oed. Mae'n bosibl mai'r ardal o rwbel ar ochr ddeheuol yr eglwys, a oedd yn segur erbyn cyfnod adeiladu'r porth yn ôl pob tebyg, oedd y sail ar gyfer croes y fynwent.
Mae'r cloddiad wedi newid ein dealltwriaeth o ddatblygiad yr eglwys yn sylweddol.
Bu cynnydd aruthrol mewn adeiladu eglwysi yn y 12fed ganrif, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n weddill o flynyddoedd cynnar eglwys Sant Teilo yn dyddio o'r cyfnod hwn.
Er bod modd cysylltu'r eglwys gyda 'Lan Teliav Talypont', un o bedwar lle ym Morgannwg a enwyd ar ôl Sant Teilo yn y Liber Landavensis (Llyfr Llandaf) o'r 12fed ganrif, nid ydym wedi dod o hyd i gerrig cerfiedig na thystiolaeth o adeilad pren cynharach.