Dyn o Oes y Cerrig ar Burry Holms, Penrhyn Gŵyr

Wrth i'r haen iâ olaf encilio o Gymru 12,000 mlynedd yn ôl, dechreuodd planhigion, coed, anifeiliaid a phobl ddychwelyd yn raddol. Erbyn dechrau'r cyfnod Mesolithig, neu ganol Oes y Cerrig, 10,000 mlynedd yn ôl, roedd y coetiroedd yn dechrau ail sefydlu, ac roedd cymunedau hela a chasglu wedi symud i'r ardal

Burry Holmes, Gower.

Archeoleg Burry Holms

Heddiw, ynys llanw ar ochr ogleddol Bae Rhossili, penrhyn Gŵyr yw Burry Holms. Mae llawer o archeoleg ynghlwm â'r safle, yn cynnwys safle Mesolithig, beddrodau o'r Oes Efydd, caer o Oes yr Haearn gyda ffos ddofn a chlawdd i'w amddiffyn, a gweddillion anheddiad a sefydlwyd yn yr 11eg ganrif ac a adawyd yn ystod yr 17eg ganrif.

Penderfynodd Amgueddfa Cymru wneud ymchwil pellach ar Burry Holms gan fod gennym gasgliad o offer cerrig, o gefndir annelwig, a gasglwyd wrth wneud gwaith ar yr ynys yn y 1920au.

Darganfyddiadau Mesolithig

Cyflawnwyd arolwg gwyddonol a chloddfa yn y rhan o'r ynys lle credir i'r gwrthrychau Mesolithig gael eu darganfod. Roedd gweithio ar ynys llanw yn her, gan na ellid gweithio am fwy na phump awr ar y tro ar yr ynys. Fodd bynnag, roedd hyn yn golygu bod amser ar gael i brosesu'r holl ddarganfyddiadau a'r samplau wrth iddynt gael eu casglu.

Darganfuwyd nifer o eitemau cerrig a olchwyd i lawr o rannau uchaf yr ynys, mewn un ardal o dywod a adawyd yno gan wynt yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae'n anodd iawn dyddio darganfyddiadau o'r math yma, ond mae rhai gleiniau gwydr melyn wedi cael eu dyddio i Oes yr Haearn, ac felly'n cyfateb â'r gaer o Oes yr Haearn sydd ar yr ynys.

Offer o Oes y Cerrig

Roedd haenen o bridd claddedig o dan y tywod oedd yn cynnwys tystiolaeth o offer cerrig a gwaywffyn o'r cyfnod Mesolithig. Tynnwyd colofn o waddod o'r gyfres gyfan o dyddodion, i'w brofi am ronynnau paill, a fydd yn rhoi tystiolaeth amgylcheddol o'r dirwedd yn ystod y cyfnod Mesolithig a chyfnodau diweddarach. Hefyd, anfonwyd darnau mawr o  siarcol o'r haen Fesolithig i  gael eu dadansoddi er mwyn canfod rhywogaeth y goeden a dyddio gan ddefnyddio dulliau radio carbon.

Bywyd ar Burry Holms yn Oes y Cerrig

Drwy astudio'r dystiolaeth a ddarganfuwyd gyda chasgliadau'r Amgueddfa, gellir cynnig dehongliad o'r safle Mesolithig ar Burry Holms. Gwyddwn mai microlithau yw'r ddau ddeg dau o waywffyn bach a ddarganfuwyd ar y safle. Pwyntiau bach cerrig yw microlithau, sy'n perthyn i'r cyfnod Mesolithig yn unig; clymwyd hwy at ddolenni, a defnyddiwyd hwy fel gwaywffyn i hela a physgota. Mae gan un o'r microlithau hollt ar ei flaen a achoswyd gan drawiad, sy'n awgrymu iddo gael ei dorri wrth gael ei ddefnyddio. Mae'n bosibl bod ei berchennog Mesolithig wedi mynd ag ef i Burry Holms lle cafodd wared ohono a gwneud un newydd ar gyfer ei waywffon, cyn mynd eto i hela neu bysgota. Mae cyflenwad da o fflint a cherrig yn yr ardal, sy'n ddelfrydol ar gyfer creu offer miniog. Dengys amrywiaeth y gwrthrychau a ddarganfuwyd bod offer cerrig wedi cael eu cynhyrchu ar y safle. Mae'r rhan fwyaf o'r microlithiau a ddarganfuwyd yn dod o'r cyfnod Mesolithig Cynnar, ond mae'n ymddangos bod gan dri ohonynt nodweddion o'r cyfnod Mesolithig Hwyr. 

Yn ystod y cyfnod Mesolithig Cynnar roedd lefel y môr llawer yn is na heddiw, sy'n golygu nad ynys oedd Burry Holms ar y pryd ond bryn mewndirol amlwg. Mewn sawl ffordd, byddai'r safle hwn wedi bod yn lle delfrydol i bobl Mesolithig sefydlu gwersyll neu anheddiad. Byddai'r cysgod rhag y gwyntoedd ar ben y bryn, a'i safle amlwg wedi bod yn ddelfrydol i weld ysglyfaeth i'w hela ar y tir amgylchynol, ac roedd yr afon Llwchwr gerllaw yn ffynhonnell da o bysgod. Yn anffodus, oherwydd natur asidig y pridd, nid oes esgyrn wedi goroesi ar y safle, felly ni fyddai gweddillion eu prydau bwyd, gweddillion y bobl eu hunain, na'u hoffer o asgwrn a phren, wedi goroesi.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Martin
31 Rhagfyr 2020, 15:03
Great to have interesting and educational information to read especially during lockdown when museums cannot be visited-please add more! Thanks.