Y Gwyfyn Dillad - Prif bla pryfed yr Amgueddfa
Credir mai'r gwyfyn dillad cyffredin - Tineola bisselliella - yw'r prif bla pryfed a geir mewn Amgueddfeydd ledled y byd. Gall ddinistrio symiau anferth o ddefnydd anifeiliaid. Mae Amgueddfa Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu dulliau newydd i reoli'r pla hwn.
Adnabod eich gelyn
Yn y gorffennol, roedd amgueddfeydd yn mygdarthu casgliadau'n gyson gyda llawer o bryfleiddiadau gwenwynig iawn, i roi stop ar yr ymosodiadau. Mae dulliau modern o reoli'n ceisio canfod unrhyw broblemau'n gynnar cyn bod unrhyw ddifrod yn cael ei greu - hanfod rheoli pla'n effeithiol yw adnabod eich gelyn.
Y gwyfyn dillad cyffredin
Pryfyn bach disglair lliw aur tua 6-8mm o hyd yw'r gwyfyn dillad cyffredin, neu'r webbing clothes moth, a welir yn aml yn rhedeg dros ddefnydd heigiannus, neu'n hedfan o amgylch ystafelloedd yn ddiamcan. Unig bwrpas y gwrywod yw cyplysu gyda'r benywod (nad ydynt yn hedfan), cyn iddynt farw.
Yna mae'r benywod yn dodwy wyau bach a wthir rhwng ffibrau a blew. Y larfaod sy'n deor o'r wyau hyn sy'n achosi'r difrod. Maent yn gallu treulio ceratin, sydd mewn ffwr, gwlân, plu, gwallt, ewinedd bysedd ac ati. Gan mai diet braidd yn gyfyngedig yw hyn, mae'n well gan larfaod fwyd sy'n staenedig neu'n fudr, sy'n golygu mai dillad gwlanog budr a ymosodir arnynt fel arfer, yn ogystal ag ymylon carpedi sydd allan o gyrraedd y peiriant glanhau carpedi.
Gwe sidanaidd amddiffynnol
Mae'r larfaod yn amddiffyn eu hunain trwy wau tiwbiau sidanaidd, lle byddant yn byw ac yn bwyta. Y casys sidanaidd hyn sy'n rhoi'r enw webbing clothes moth iddynt. Pan mae'r larfaod wedi gorffen tyfu, maent yn chwilera y tu mewn i'r casys, cyn dod allan ymhen rhai wythnosau, fel gwyfynod.
Nid yw'r oedolion yn bwyta nag yn achosi difrod eu hunain, ond maent yn cyplysu ac yn ailddechrau'r cylchdro bywyd unwaith eto. Ar wlân budr mewn awyrgylch cynnes a llaith, mae'n bosib gweld dwy neu dair cenhedlaeth mewn un flwyddyn. Gyda hinsawdd laith y DU, a'r ffaith bod storfeydd ac orielau amgueddfeydd yn cael eu gwresogi, mae'n hawdd gweld pam fod y gwyfyn dillad yn gymaint o bla. Yr arfer yn yr Amgueddfa oedd ymateb ar ôl dod o hyd i ddifrod. Bellach, y nod yw atal pryfed rhag dod i mewn i'r Amgueddfa yn y lle cyntaf, a'i wneud mor anneniadol a phosibl. Mae gan storfeydd ffenestri a drysau wedi'u selio'n dda, a systemau tymheru hidledig. Gan fod amgueddfeydd yn adeiladau cyhoeddus, mae'n anochel bod rhai gwyfynod yn cael eu cludo i mewn, yn oedolion, larfaod neu'n wyau.
Cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed
Mae chwilio am bryfed a difrod a achoswyd ganddynt yn rhan o waith cyson staff cadwraethol, sy'n cynnwys archwilio'n ofalus am arwyddion o ddifrod, a defnyddio trapiau. Mae'r Amgueddfa'n chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed, wedi'u cynllunio i ddal rhywogaethau penodol megis y gwyfyn dillad cyffredin.
Mae'r trapiau newydd yma wedi'u seilio ar bŵer rhyw. Mae'r benywod yn cynhyrchu persawr, neu fferomon - a all ddenu gwrywod dros bellter o sawl metr. Mae hyn yn effeithiol iawn ar gyfer gwyfynod mewn gofod cyfyng, megis cypyrddau ac ystafelloedd bach.
Leinir y trapiau â glud a fersiwn synthetig o fferomon y gwyfyn dillad.
Pryfleiddiadau fel dewis olaf
Os llwydda'r gwyfynod i ymosod ar y defnydd, er gwaetha'r rhagofalon hyn, defnyddir pryfleiddiadau fel dewis olaf. Un o brif ddulliau rheoli plâu yn yr Amgueddfa yw gosod y gwrthrych mewn bag plastig a'i osod mewn rhewgell am ddau neu dri diwrnod, sy'n lladd y pryfed, yr wyau a'r larfaod, ond heb ddifrodi'r gwrthrych mewn unrhyw fodd, na gadael gwaddodion gwenwynig.
Trwy gyfuniad o wyliadwriaeth, glanweithdra da ac arbenigedd, mae plâu o bryfed megis y gwyfyn dillad cyffredin yn brin y dyddiau yma, a gellir delio â hwy'n gyflym.