Ewch am dro i'r goedwig heddiw...
Mae'r coed hynafol ym mharcdiroedd Prydain yn cynnwys nifer o rywogaethau prin o chwilod sy'n byw ar bren marw a ffwng. Mae arolygon Amgueddfa Cymru o barcdiroedd y wlad wedi datgelu nifer o rywogaethau na wyddys amdanynt ym Mhrydain cyn hynny.
Parcdiroedd a Ffermio Ceirw
Y Normaniaid oedd y ffermwyr ceirw cyntaf ym Mhrydain. Dechreuodd nifer o'r parcdiroedd fel porfeydd coedwig — tiroedd porfa agored â choed derw ar wasgar. Tociwyd y coed (torri'r canghennau yn ôl at y boncyff) er mwyn cynhyrchu tyfiant newydd. Byddai hyn yn ymestyn oes y coed, gan ddarparu egin y gallai anifeiliaid eu bwyta, yn ogystal â darparu cyflenwad digonol o goed.
Y coed hynafol gorau yn Ewrop
Trwy reoli'r parcdiroedd Prydeinig yn y modd hwn, cynhyrchwyd rhai o'r esiamplau gorau o goed hynafol yng ngorllewin Ewrop. Mae modd i goed mawr, gwag a goraeddfed oroesi am gannoedd o flynyddoedd. Mae'r coed hynafol hyn, a nifer o ffurfiau o ffwng a chennau, yn cynnal nifer fawr o anifeiliaid di-asgwrn-cefn prin fel chwilod a chlêr.
Y Goedwig Hynafol
Mae'r bron i 700 o rywogaethau o chwilod Prydeinig, a nifer fawr o anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill, yn dibynnu ar bren a ffwng am eu bodolaeth. Yr enw ar yr anifeiliaid yma yw anifeiliaid saproscylig ac roeddent yn gyffredin cyn i ddyn glirio'r goedwig wreiddiol a fu'n gorchuddio Prydain.
Mae bron i 20 rhywogaeth o chwilod saproscylig o Brydain wedi diflannu yn ystod y 200 mlynedd diwethaf ac mae rhai o'r rhywogaethau ymhlith yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd mewn perygl ofnadwy ac yn brin iawn ym Mhrydain. Dim ond mewn parcdiroedd a phorfeydd coedwig sefydledig lle cadwyd y coed hynafol y mae'r rhywogaethau prin yma'n llwyddo i oroesi.
Arolwg o Barcdiroedd Cymru — y cyntaf o'i fath
Nid oedd parcdiroedd Cymru wedi cael eu harchwilio'n fanwl i geisio canfod pa mor bwysig ydyn nhw ar gyfer goroesiad y pryfed saproscylig nes i Amgueddfa Cymru gynnal arolwg ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru ym 1996.
Rhywogaethau newydd ym Mhrydain
Darganfuwyd dros 350 rhywogaeth o chwilod a chlêr saposcylig, yn cynnwys rhai rhywogaethau na gofnodwyd yng Nghymru na Phrydain. Cyfoethogwyd casgliad pryfed yr amgueddfa genedlaethol yn fawr drwy ychwanegu'r rhywogaethau newydd hyn. Mae tri o'r safleoedd parcdir Cymreig a astudiwyd ymysg yr 20 safle gorau yn y Deyrnas Unedig yng nghyd-destun yr amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn saproscylig y maent yn eu cefnogi.