Llywiwr y Swigen Fôr Portwgeaidd
Llywiwr y Swigen Fôr Portwgeaidd
Nid un anifail yw'r chwysigen fôr, ond 'seiffonoffor', sef anifail sy'n cynnwys clwstwr o organebau sy'n cydweithio â'i gilydd.
Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y creadur rhyfeddol hwn.
Yr arnofyn
Mae 'arnofyn' lled dryloyw, â gwawr las neu binc arno, llawn nwy yn cadw'r chwysigen fôr ar wyneb y d?r. Ar ben y chwysigen ceir crib (ychydig fodfeddi o uchder) sy'n gweithio fel hwyl gan symud y creadur ar draws y moroedd. Yr hwyl hon sy'n rhoi ei henw Saesneg i'r chwysigen fôr - Portuguese man-of-war - gan ei bod yn debyg i hwyliau hen longau rhyfel Portiwgal.
Môr-gudynnau sy'n angori'r tentaclau
Mae clystyrau o fôr-gudynnau'n angori'r tentaclau o dan yr arnofyn. Ceir tri math o fôr-gudynnau: dactylosöid (sy'n canfod ac yn dal prae gan ddefnyddio celloedd pigo gwenwynig o'r enw nematosystau), gonosöid (sy'n atgynhyrchu), a gastrosöid (sy'n treulio bwyd, fel stumog).
Tentaclau
Gall y tentaclau sydd ar ffurf torch ac a ddefnyddir i bigo fesur hyd at 50m (165 troedfedd).
Related Features
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.