Modrwyau Addurnol
Mae’r grŵp olaf o fodrwyau yn yr adroddiad hwn yn llawer mwy cyndyn o ddatgelu eu cyfrinachau. Maent yn addurnol, heb arwyddeiriau na symbolau, ac er ei bod yn eithaf posib bod iddynt arwyddocâd personol i’w perchnogion, nid oes modd i ni ganfod beth oedd hynny, gwaetha’r modd.
Daeth Mr Kevin Higgs o hyd i enghraifft ardderchog o fodrwy aur a saffir ym Mhenfro ym mis Chwefror 2014. Mae’r saffir wedi'i gaboli (cabosión oedd yr enw am hyn) yn hytrach na’i thorri, fel oedd yn boblogaidd yn y Canol Oesoedd, a’i roi ar osodiad chweochrog. Gwaetha’r modd, mae’r saffir wedi torri’n ddau ac wedi dod allan o’r gosodiad, ond mae ei harddwch yn dal yn amlwg. Câi saffirau eu mewnforio o Sri Lanka ac roedd pobl yn credu eu bod yn gallu gwella cur pen ac afiechydon eraill a gwarchod rhag dewiniaeth, ac felly mae’n bosib bod i’r fodrwy hon ddiben arall heblaw bod yn addurn.
Mae’n rhaid bod eitem mor gostus, wedi’i mewnforio o ben draw’r byd, yn eiddo i rywun cyfoethog iawn ac mae’n demtasiwn dyfalu y gallai’r perchennog fod yn byw yng Nghastell Penfro neu’r priordy gerllaw. Nid oes gemau yn y rhan fwyaf o'r modrwyau eraill yn y dosbarth hwn. Dim ond patrymau sydd yn eu haddurno, yn amrywio o’r croeslinellu amrwd, afreolaidd ar fodrwy o arian wedi’i oreuro o’r 15fed ganrif a ganfuwyd yn Silstwn, Bro Morgannwg gan Mr Mark Watson yn 2011, i’r band llyfn, cynnil o belenni a borderi uchel ar fodrwy aur o’r cyfnod Tuduraidd cynnar a ganfuwyd yn Holt yn 2013 gan Mr A. E. Jenkins.