Dagr Bae Abertawe
Yn 1971, ychydig a wyddai myfyriwr Pensaernïaeth o’r enw Paul Tambling y gallai fod ar fin gwneud darganfyddiad archaeolegol mwyaf ei fywyd ac y byddai i Ddagr Bae Abertawe (fel y’i gelwir erbyn hyn) arwyddocâd arbennig yn ei fywyd.
Wrth gerdded ar draeth Abertawe, sylwodd Paul a’i bartner Angela ar yr hyn oedd yn ymddangos fel darn o fflint yn ymwthio allan o’r tywod. Mewn gwirionedd, roeddent wedi darganfod, trwy hap a damwain, ‘ddagr fflint 4200 o flynyddoedd oed’.
Dywedodd Paul wrthym: “Pan godais y dagr, roeddwn i’n methu deall sut roedd wedi cyrraedd yno, yn enwedig gan nad yw fflint yn brigo’n naturiol yn unman yng Nghymru. Roedd y fflint mewn cyflwr ardderchog ac nid oedd yn ymddangos bod symudiadau’r môr wedi amharu arno. Yn ogystal â bod yn waith celf cain, mae’n grefftwaith gwych ac mae’n fy ysbrydoli wrth i mi gynllunio adeiladau, a minnau’n gwneud fy ngorau i gyrraedd yr un safon uchel yn fy nghrefft bob amser.
Bron 46 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r dagr gan y pâr o hyd. Mae'n agos at eu calonnau a chredant ei fod yn symbol unigryw o'u perthynas hirhoedlog.
Dywedodd Paul: “Byth er pan oeddwn yn fyfyriwr, mae’r fflint wedi symud gyda mi fwy na chwech o weithiau mewn hen amlen er bod cyfnodau yn fy mywyd pan oeddwn yn meddwl fy mod wedi'i golli. Serch hynny, ers i mi ddarganfod yn ddiweddar bod iddo bwysigrwydd hanesyddol enfawr, prin y mae allan o’m golwg.”
Erbyn hyn, gwyddom mai ‘Dagr y Bicerwyr’ yw’r fflint a’i fod yn dyddio o’r Oes Efydd gynnar, tua 2250 i 2000 o flynyddoedd Cyn Crist, sy’n golygu ei fod tua 4200 o flynyddoedd oed. Yn ei ddydd, roedd iddo arwyddocâd symbolaidd mawr gan y byddai wedi’i gladdu gyda rhywun uchel ei statws er mwyn bod gydag ef yn y byd a ddaw. Darganfuwyd ychydig o ddagerau eraill yng Nghymru ond does dim un cystal â dagr Bae Abertawe. Yn ne-ddwyrain Lloegr y canfuwyd y nifer fwyaf o ddagerau o’r cyfnod hwn.
Mae i Ddagr y Bicerwyr werth archaeolegol a symbolaidd enfawr ond beth y mae’n ei olygu i Paul ac Angela fel teulu?
“Mae’r dagr yn symbol o hyd ein bywyd priodasol. Mi ddes i o hyd iddo dair blynedd cyn i ni briodi ac mae’n ein hatgoffa o’r penwythnosau hyfryd hynny roedden ni’n eu treulio yn Abertawe slawer dydd, ac yn ein clymu’n nes at ein gilydd. Roedd yn amser hudolus a does dim modd ei ailadrodd.”
Mae Paul ac Angela Tambling yn rhedeg ymgynghoriaeth bensaernïol yn Aberhonddu. Nid oeddent yn sylweddoli pa mor bwysig oedd y dagr i ddechrau ond ers i’w arwyddocâd archaeolegol ddod yn amlwg, mae arbenigwyr yn dweud wrthynt yn aml pa mor lwcus oeddent i ddod o hyd i beth mor bwysig mewn lle mor annisgwyl. “Rwy’n berson lwcus,” meddai Paul. “Roeddwn i’n lwcus i briodi Angela ac yn lwcus i ddod o hyd i’r dagr pan oeddwn yng nghwmni Angela.”
Dywedodd Paul wrthym ei fod yn gwybod yn reddfol bod y dagr yn beth rhyfeddol cyn gynted ag y cododd ef, ond nid oedd yn siŵr ai dagr ynteu blaen gwaywffon ydoedd. Ar hyd y blynyddoedd, mae Angela wedi bod yn dweud wrtho, “Pam nad ei di i holi?” Ar ôl cael ei blagio’n ddi-baid, penderfynodd Paul yn y diwedd fynd i Amgueddfa Brycheiniog ond pan gyrhaeddodd, gwelodd ei bod wedi cau ar gyfer gwaith adnewyddu mawr.
Tua dechrau 2016, aeth y pâr i arddangosfa naddu fflint yn Amgueddfa Cyfarthfa, Merthyr Tudful, gan Phil Harding o’r Time Team. Yno, ar ôl siarad â Phil y daeth yn amlwg pa mor bwysig oedd y dagr a chyngor Phil oedd y dylai’r eitem hon o bwysigrwydd archaeolegol gael ei chofnodi gan Amgueddfa Cymru. Yn fuan wedyn, cysylltodd Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, yn Amgueddfa Cymru, â’r cwpwl ac yn dilyn hynny cawsant gyfarfod.
Pan esboniodd Mark arwyddocâd y dagr, dywedodd Paul: “Roedd blew fy ngwegil yn sefyll i fyny pan ges i wybod am wahanol haenau arwyddocâd y dagr, wrth feddwl bod gen i rywbeth yr oedd rhywun wedi'i wneud 4200 o flynyddoedd yn ôl”.
Aeth Paul ymlaen, “Roeddwn i’n dal y peth ’ma yn fy llaw, gan feddwl cyn lleied o barch roedd wedi'i gael ers 1971 a minnau'n ei gadw mewn hen amlen yng nghefn rhyw ddrôr.”
Ers y cyfarfod gyda Phil Harding a Mark Lodwick, mae’r dagr wedi cael llawer mwy o sylw ac mae hyn wedi annog Paul ac Angela i gymryd mwy o ddiddordeb mewn archaeoleg a’r Bicerwyr.
Ar hyn o bryd, does dim bwriad i amgueddfa gaffael dagr Bae Abertawe oherwydd mae’n eiddo i Paul ac Angela ond maen nhw wedi gwneud eu gorau, gyda help Mark Lodwick, i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am bwysigrwydd y dagr.
sylw - (4)
Thank you very much for contacting us. I understand your disappointment that this artefact isn't in a museum, but it's a highly prized and deeply loved possession of its current owners.
Best wishes,
Marc
Digital Team
Paul, if you cannot see your way to passing it onto the Swansea Museum how about leaving it in your will to the Musuem.