Darganfod y cyfrinachau o dan yr wyneb - Chwyddwydr ar Dechnegau Arlunydd o'r 18fed Ganrif

Richard Wilson (1714-1782)

Richard Wilson (1714-1782). Anton Mengs beintiodd y portread hwn yn Rhufain yn gyfnewid am un o dirluniau Wilson - gweithred o gyfeillgarwch ac edmygedd y naill ddyn at y llall.

Pelydr-x  Castell Dolbadarn

Pelydr-x Caernarvon Castle (NMW A 73)

Castell Caernarvon Castle gan Richard Wilson
Caernarvon Castle

gan Richard Wilson

Pelydr-x  castell Dolbadarn Castle

Pelydr-x Dolbadarn Castle (NMW A 73)

Castell Dolbadarn Castle mewn Golau Isgoch
Dolbadarn Castle

mewn Golau Isgoch (NMW A 5203)

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Amgueddfa wedi bod yn archwilio nifer o baentiadau o'r casgliadau gan Richard Wilson. Gall offer gwyddonol modern ddatgelu manylion cuddiedig ynglŷn â'r strwythur a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y paentiadau hyn. Mae'r canlyniadau'n ffurfio darlun diddorol o arddull gweithio'r arlunydd, ac wedi arwain at ddarganfod tarddiad rhai o'r paentiadau sy'n peri'r mwyaf o ansicrwydd o blith gwaith Wilson.

Golau Isgoch

Defnyddiwyd golau isgoch i weld a wnaeth yr arlunydd addasu neu beintio dros rai o'r paentiadau. Mae golau isgoch yn gallu treiddio unrhyw liw heblaw'r pigmentau glas dyfnaf, i ddatgelu unrhyw arlliwiau tywyll a osodwyd ar y grwnd o liw golau. Darganfuwyd bod yna luniau o dan y braslun olew Castell Dolbadarn (NMW A 5203) a'r paentiad mawr gorffenedig o'r un testun (NMW A 72). Yn y braslun olew, mae pont yn croesi afon yng nghefndir y tan-lun, a ffens ar ochr dde'r blaendir. Ni ddefnyddiwyd y nodweddion hyn yn y braslun terfynol. Hefyd, mae Mynydd yr Wyddfa'n cael ei gynnwys yng nghefndir y fersiwn beintiedig, ac mae'r adeiladau pell ar lan yr afon wedi'u symud yn bellach i'r chwith. Mae ei allu i ailwampio ei gynlluniau'n dod ag amrywiaeth i'r fersiynau niferus a baentiodd o'r un testunau, ac mae'n help i esbonio sut y rhoddodd ymddangosiad mawreddog a chlasurol i'w olygfeydd Cymreig a Seisnig.

Strwythur Paent a Deunyddiau

Drwy ddefnyddio pelydr-x ar waith Wilson roedd modd archwilio strwythur ei baentiadau. Mae pelydrau-x yn treiddio'n rhwydd i rai deunyddiau, ond mae'n cael ei adlewyrchu gan eraill. Daw rhai pigmentau, a ddefnyddir yn draddodiadol mewn paentiadau olew, o fetelau trwm megis mercwri, cadmiwm a phlwm. Gwyn plwm oedd un o'r rhai mwyaf cyffredin i gael ei ddefnyddio. Mae pelydr-x yn dangos strwythur y paentiad, ac unrhyw newidiadau posibl a wnaed gan ddefnyddio gwyn plwm. Fel arfer byddai Wilson yn paentio awyr gyda chymysgedd o wyn plwm a phigment glas, ond dim ond at y gorwel, gan ddilyn ymylon unrhyw goed a dail a amlinellwyd yn erbyn yr awyr. Paentiwyd y blaendir a'r coed gyda lliwiau daearol yn bennaf, sy'n cael eu treiddio'n hawdd gan belydrau-x. Dylai pelydr-x nodweddiadol o baentiad gan Wilson ddangos cyferbyniad cryf rhwng awyr a darnau o flaendir. Yr enghraifft mwyaf clir o hyn yw Castell Caernarfon (NMW A 73). Gellir tybio felly nad Wilson sy'n gyfrifol am unrhyw dirluniau lle mae'r nodweddion hyn ar goll.

Mae rhai o'r paentiadau a archwiliwyd hyd yn hyn yn dangos bod Wilson weithiau'n ailweithio eu cyfansoddiad yn gyfan gwbl. Cychwynnwyd Dinas Bran (NMW A 3277) yn wreiddiol fel Golygfa o Tivoli (gweler NMW A 495). Gwelir y dref sydd ar lethrau'r bryn yn glir o dan belydr-x, yn ogystal â'r gysegrfa ar ymyl y ffordd, sy'n ymddangos mewn lluniau eraill ar yr un testun. Byddai hefyd yn ailddefnyddio cynfas yn achlysurol. Paentiwyd Castell Dolbadarn (NMW A 72) dros bortread o fenyw, ac fe baentiwyd Tirlun gyda Banditti o amgylch Pabell (NMW A 69) dros noethen yn lledorwedd yn y dull Fenisaidd.

Microsgopau pwerus

Cymerwyd samplau bach o baent ac edrychwyd arnynt o dan ficrosgopau eithriadol o bwerus.

Mae'r pigmentau a ddarganfuwyd yn y paent yn cydweddu'n union, bron, gyda'r palet a ddefnyddiodd Wilson. Glas Prwsiaidd ag indigo wedi'u cymysgu gyda phlwm yw'r prif bigmentau a welir yn ei awyr, a cheir ocr, melyn Naples, llynoedd coch a melyn, glas Prwsiaidd ac indigo yn y dail a'r blaendiroedd. Fodd bynnag nid ydym eto wedi dod o hyd i ddulas, a ddefnyddiodd Wilson i gwblhau ei awyr yn ôl ei gyfoedion.

Profi Ffugweithiau

Er y byddai'r mwyafrif o ddilynwyr agos Wilson wedi defnyddio paletau tebyg iawn i un eu meistr, mae'r math yma o ddadansoddi modern wedi profi bod dynwarediadau diweddarach yn ffug, gan eu bod yn cynnwys pigmentau na ddefnyddiwyd yng nghyfnod Wilson. Mae'r rhain yn cynnwys NMW A 5195 Golygfa Arfordirol ger Naples, sy'n cynnwys glas cobalt, a ddefnyddiwyd yn gyntaf ym 1817, a NMW A 5206 Castell Cilgerran sydd â grwnd sy'n cynnwys grisial trwm, a ddefnyddiwyd gyntaf ddiwedd y 18fed ganrif.

Mae'r ymchwil wedi cynhyrchu gwybodaeth hanfodol er mwyn cynyddu'r ddealltwriaeth hanesyddol am ddarnau unigol Wilson, a rhai casgliadau pendant ynglŷn â statws paentiadau o darddiad amheus.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.