Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Mae dydd Gwener 8 Mai 2020 yn nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Mae Diwrnod VE yn coffáu y Cynghreiriaid yn derbyn ildiad yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd ym 1945.
Mae 8-9 Mai hefyd yn cael ei nodi gan y Cenhedloedd Unedig fel Cyfnod o Gofio a Chymodi i’r Rhai a Gollodd eu Bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi’r rhyfel sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig gyda’r nod o gynnal a diogelu heddwch byd-eang ac i amddiffyn iawnderau dynol.
Yma gallwch ddysgu mwy am Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd drwy wrthrychau o’r casgliad. Darllenwch am y straeon tu ôl i fedalau unigolion yn y gwasanaethau milwrol a’r rheiny a wasanaethodd adref ac am yr aberth ar y Ffrynt Gartref o ganlyniad i ddogni a barhaodd flynyddoedd wedi Diwrnod VE.
Diwrnod VE 75: Medalau Dewrder, Gwasanaeth ac Aberth
Mae casgliad Amgueddfa Cymru o fedalau’r Ail Ryfel Byd yn dyst i ddewrder ac aberth rhyfeddol milwyr a phobl gyffredin Cymru rhwng 1939 a 1945.
Dogni dillad a 'Make do and Mend' yn ysod yr Ail Ryfel Byd
Yn dilyn cyflwyno dogni ar fwyd ym 1940, daeth dogni dillad i rym ym Mehefin 1941. Y prif nod oedd lleihau’r galw am ddeunyddiau crai ac ailgyfeirio llafur at waith rhyfel.
Dogni Dodrefn yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility.
Cartref parhaol ar gyfer tŷ dros dro: y pre-fab yn Sain Ffagan
Dinistriwyd miloedd o gartrefi Prydeinig gan fomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd modd eu hailgodi oherwydd prinder adeiladwyr a deunyddiau.
Dogni Bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Mae rhai wedi cymharu’r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd gyda cyfnod yr Ail Ryfel Byd – ciwio i fynd i fewn i siopa, y silffoedd gweigion a’r dogni yn ein harchfarchnadoedd.