English

Arthur yr Arthropleura

Lucy McCobb & Caroline Buttler

Pwy yw Arthur yr Arthropleura?

Model yw Arthur o’r infertebrat mwyaf i fyw ar y tir erioed, creadur tebyg i filtroed o’r enw Arthropleura.

O ble y daeth Arthur yr Arthropleura?

Arddangoswyd y model yn wreiddiol yn Nhŷ Esblygiad Gerddi Kew ond pan gafodd y gofod ei glirio i baratoi ar gyfer adfer y Tŷ Tymherus, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, nid oedd ei angen mwyach ac, yn garedig iawn, cafodd ei roi gan Kew i Amgueddfa Cymru.

Roedd angen gwaith cadwraeth sylweddol ar y model Arthropleura pan gyrhaeddodd Amgueddfa Cymru. Yn dilyn blynyddoedd lawer mewn arddangosfa agored mewn tŷ gwydr, ochr yn ochr â phlanhigion byw, roedd wedi dioddef difrod a rhwd. Roedd lleithder y gofod arddangos wedi peri i’r paent arwynebol blicio, ac roedd sawl corryn a malwen wedi ymgartrefu ar ochr isaf y model!

Arthur yr Arthropleura cyn cwblhau'r gwaith cadwraeth
Arthur yr Arthropleura cyn cwblhau'r gwaith cadwraeth

Y dasg gyntaf oedd golchi’r model yn dda gyda dŵr poeth a sebon i gael gwared ar y baw a’r gwe corryn! Yna cafodd yr holl baent rhydd ei sgwrio, defnyddiwyd pwti epocsi i ailffurfio’r rhannau a oedd wedi’u difrodi ar y coesau a’r pen, ac atgynhyrchwyd y gweadau arwynebol. Roedd y nytiau a’r bolltau a oedd yn cysylltu’r teimlyddion wedi rhydu, felly gosodwyd ffyn dur di-staen newydd yn lle’r hen rannau metel.

Arthur yr Arthropleura yn cael bath
Arthur yr Arthropleura yn cael bath

Wedi cwblhau’r gwaith atgyweirio, cafodd y model ei baentio’n ofalus gyda phaent acrylig ac yna’i orchuddio mewn farnais gwydn, nes ei fod yn addas i’w arddangos yn gyhoeddus unwaith eto.

Arthur yr Arthropleura ar ôl y gwaith atgyweirio
Arthur yr Arthropleura ar ôl y gwaith atgyweirio

Pwy roddodd yr enw Arthur i’r Arthropleura?

Roedd rhai o staff yn adran y Gwyddorau Naturiol wedi closio at y model trawiadol 1.5m o hyd wrth i’r gwaith cadwraeth fynd rhagddo yn y labordy, ac wedi’i enwi’n Arthur yr Arthropleura! Rydyn ni hefyd wedi cael hwyl gydag Arthur; mae wedi “dianc” ac wedi bod yn byw yn rhydd o amgylch orielau’r amgueddfa! Dangoswyd lluniau o’i anturiaethau ar @CardiffCurator, cyfrif Twitter adran y Gwyddorau Naturiol ac roedd yr ymateb gan ddilynwyr y cyfrif yn wych. Mae Arthur yr Arthropleura bellach yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n ychwanegiad gwych iawn i’n casgliadau!

Arthur yr Arthropleura yn ymweld a galeri Celf argraffidaol
Arthur yr Arthropleura yn ymweld a galeri Celf Argraffidaol

Sut olwg oedd ar Arthropleura?

Roedd Arthropleura yn edrych yn debyg iawn i filtroediaid heddiw. Roedd ganddo gorff hir, cul yn cynnwys llawer o gylchrannau, gyda phlatiau caled yn gorchuddio’i gefn. O dan y corff, roedd llawer o barau o goesau cymalog, tua 8 pâr ar gyfer pob chwe chylchran, sy’n debyg i nifer y coesau sydd gan filtroediaid modern. Yn ddiweddar, mae palaeontolegwyr wedi sylweddoli mai cylchran flaen y corff, mewn gwirionedd, yw’r hyn roedden nhw’n meddwl oedd pen yr Arthropleura. Roedd y pen go iawn yn celu o dan y gylchran hon, fel sy’n digwydd gyda miltroediaid cyfoes hefyd. Felly mae ein model ni o Arthur wedi dyddio ychydig, ac ni ddylai fod yn edrych yn syth ymlaen cymaint ag y mae.

Pa mor fawr oedd Arthropleura?

Mae dau fath o dystiolaeth sy’n awgrymu pa mor fawr oedd Arthropleura. Canfuwyd ffosiliau o gorff y creadur, neu rannau ohono, yn yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, y Weriniaeth Tsiec, a’r DU, ond maen nhw’n gymharol brin. Yn fwy cyffredin, mae ffosiliau o’r olion troed hir a adawyd gan Arthropleura wrth iddo sgrialu dros dir llaith. Mae ffosiliau o’i olion traed wedi’u canfod yn yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, Ffrainc a’r Alban. Mae mesur yr olion yn awgrymu lled y creaduriaid a’u gwnaeth, ac mae modd i ni ddefnyddio hynny i amcangyfrif pa mor hir oedden nhw’n debygol o fod. Mae olion niferus o faint gwahanol mewn rhai lleoedd, sy’n dangos bod Arthropleura o faint gwahanol (ac o oed gwahanol, yn ôl pob tebyg) yn symud o gwmpas yn yr ardal honno. Mae’r olion lletaf sydd wedi dod i’r fei yn 50cm o led, felly amcangyfrifir bod yr Arthropleura mwyaf wedi bod dros 2 fetr o hyd.

Ble roedd Arthropleura yn hoffi byw?

Mae ffosiliau ac olion troed Arthropleura wedi’u canfod mewn gwahanol leoliadau a fyddai wedi bod yn weddol agos at y cyhydedd 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gan gynnwys Gogledd America a’r DU heddiw. Canfuwyd llawer o’r ffosiliau cyntaf mewn siâl to sy’n gorwedd ar wythiennau glo, felly tybiwyd am hir bod y creaduriaid enfawr yn byw mewn corsydd glo llaith. Ers hynny, canfuwyd tystiolaeth o Arthropleura mewn nifer o amgylcheddau gwahanol, gan gynnwys olion traed ar hyd glannau afonydd sych. Mae’n ymddangos eu bod nhw’n teimlo’n gartrefol mewn amrywiaeth o dirweddau gyda rhywfaint o orchudd llystyfiant.

Arthur yr Arthropleura drws nesaf i Lwynog
Arthur yr Arthropleura wrth ymyl Llwynog er mwyn cymharu maint

A fyddai Arthopleura wedi fy mwyta?

Dydyn ni ddim yn gallu bod yn siŵr beth oedd Arthropleura yn hoffi ei fwyta, oherwydd does dim olion o’r geg wedi’u canfod mewn unrhyw ffosiliau. Fodd bynnag, pe bai ganddo enau caled a chryf ar gyfer brathu ysglyfaeth, mae’n debyg y byddai’r olion wedi goroesi ac wedi cael eu ffosileiddio. Efallai mai rhesymu cylchol yw hynny, ond mae rhesymau eraill pam ein bod ni’n tybio ei fod yn bwyta planhigion yn hytrach na chig. Canfuwyd ffosil Arthropleura yn yr Alban ym 1967, a oedd ag olion planhigion o’r enw cnwp-fwsoglau mawr yn agos i’r fan lle byddai ei berfedd wedi bod. Mae’n bosib bod y ffosiliau yng nghyffiniau ei gilydd drwy ddamwain, felly dydyn ni ddim yn gallu bod yn hollol siŵr mai’r planhigion oedd pryd olaf yr Arthropleura. Fodd bynnag, os oedd ei ddeiet yn debyg i ddeiet miltroediaid cyfoes, mae’n debygol y byddai wedi byw ar olion planhigion, hadau a sborau.

Gyda pha greaduriaid eraill oedd Arthropleura yn rhannu ei gartref?

Pe baech chi’n edrych ar y creaduriaid a oedd yn rhannu byd Arthropleura, byddech wedi gweld bywyd gwyllt pur wahanol i fywyd gwyllt heddiw. Doedd dim adar na mamaliaid, oherwydd nad oedden nhw wedi esblygu eto. Chwiliwch o gwmpas am y berthynas agosaf i ni, a byddech yn y pen draw yn sylwi ar amffibiad mawr, byrdew o’r enw Eryops yn cuddio yn y dŵr. Doedd anifeiliaid ag asgwrn cefn ddim wedi dechrau tra-arglwyddiaethu ar dir sych eto. Yn hytrach, pryfetach fyddai’r rhelyw o’r bywyd gwyllt o gwmpas y lle. Roedd chwilod du mawr (hyd at 9cm o hyd) yn crwydro ar hyd y lle, a chreaduriaid tebyg i gorynod a fyddai’n llenwi cledr eich llaw. Doedd y rhain ddim yn union fel corynod cyfoes – rhannwyd eu cyrff tew yn gylchrannau yn hytrach nag un darn crwn, a doedden nhw ddim eto wedi esblygu’r gallu i nyddu gwe – ond roedden nhw ar eu ffordd i fod yr arachnidau sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Byddai’r awyrgylch yn drwm o hymian eglur rhai o’r creaduriaid mwyaf anhygoel o gwmpas – pryfed enfawr tebyg i was y neidr o’r enw pryfed griffon, gyda lled esgyll o fwy na 70cm. Roedd pryfed griffon ymhlith ysglyfaethwyr pennaf yr oes, ac ymhlith y creaduriaid cyntaf erioed ar y Ddaear erioed i hedfan, tua 150 miliwn o flynyddoedd cyn i’r adar cyntaf wneud hynny. Bu’n rhaid i’n perthynas pell, yr amffibiad Eryops, rannu ei gartref gydag arthropodau hyd yn oed; marchgrancod a oedd hefyd yn hoffi rhannu eu hamser rhwng tir sych a dŵr.

ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus)
ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus)

Pam nad oes infertebratau mor enfawr i’w gweld ar y tir heddiw?

Heb unrhyw amheuaeth, y Cyfnod Carbonifferaidd, tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, oedd oes aur yr infertebratau enfawr. Bryd hynny, roedd chwilod du mawr, arachnidau a phryfed tebyg i was y neidr yn rhannu’r byd gyda’r Arthopleura enfawr, y pryfyn mwyaf i fyw ar y tir erioed. Sut oedd hynny’n bosibl, a pham nad ydyn ni’n gweld infertebratau mor fawr ag Arthur heddiw?

Mae’r atmosffer heddiw’n cynnwys tua 21% o ocsigen. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod lefelau ocsigen tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn agos at 35%. Byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o ynni y gallai pryfed ac arthropodau eraill ei gynhyrchu. Yn wahanol i ni, does gan bryfed a miltroediaid ddim ysgyfaint i anadlu aer. Yn hytrach, mae tiwbiau bychan o’r enw sbiraglau yn gwau drwy eu sgerbydau allanol. Mae ocsigen yn ymledu drwy’r tiwbiau o’r tu allan i geudod llawn gwaed, ac o’r fan honno’n cael ei ddosbarthu o amgylch corff y creadur, gan roi’r egni iddo wneud popeth y mae’n ei wneud. Byddai mwy o ocsigen ar gael yn golygu ffynhonnell fwy o egni, gan alluogi pryfetach i dyfu’n fwy – a hynny yn ei dro yn hynod o bwysig o ran cynhyrchu digon o ynni i bryfed hedegog mawr allu codi i’r awyr. Fyddai’r fath gewri byth yn gallu hedfan o dan amodau atmosfferig heddiw.

Arthur yr Arthropleura yn un o'i gynefinoedd naturiol
Arthur yn un o’i gynefinoedd naturiol, y gors lo yn ein horiel Esblygiad Cymru

Tu hwnt i lefelau ocsigen, mae cyfyngiadau mecanyddol ynghlwm wrth sgerbwd allanol hefyd, sy’n ei gwneud yn annhebygol y gallai infertebratau mor fawr fodoli heddiw. Er mwyn tyfu, mae angen i bob arthropod waredu’r hen sgerbwd allanol a thyfu un newydd mwy o faint. Ar ôl gwaredu’r hen sgerbwd allanol, mae’r un newydd yn feddal am gyfnod, ac mae’n rhaid i’r arthropod aros iddo galedu cyn parhau â’i fywyd arferol. Mae hwn yn gyfnod peryglus o ran bygythiad gan ysglyfaethwyr, ond mae hefyd yn gosod terfyn ar faint y creadur – os yw’r sgerbwd allanol yn mynd yn rhy fawr a thrwm, mae’n creu perygl y bydd yn cwympo o dan ei bwysau ei hun. Dyna un rheswm pam mae’r arthropodau mwyaf heddiw yn byw yn y cefnfor, lle mae’r dŵr yn helpu i gynnal eu pwysau. Mae terfyn hefyd ar ba mor fawr y gall pryfetach dyfu. Po fwyaf y byddan nhw’n tyfu, y mwyaf trwchus fydd y bilen o’u hamgylch. Pan mae’r bilen yn cyrraedd rhyw drwch penodol, does dim lle’r tu mewn iddi i’r cyhyrau sydd eu hangen i’r coesau allu gweithio.

Ffactor arall a fyddai wedi caniatáu i Arthur a’i debyg dyfu mor enfawr oedd diffyg fertebratiaid ysglyfaethus mawr. Am resymau amrywiol felly, dydy hi ddim yn bosib i bryfetach mor fawr fodoli heddiw.

Lucy McCobb, Caroline Buttler ac Annette Townsend

Geirfa:

Arthropod – anifail di-asgwrn-cefn gyda sgerbwd allanol a choesau cymalog.

Infertebrat – anifail di-asgwrn-cefn.

Sgerbwd allanol – croen allanol caled, sy’n rhoi cymorth ac amddiffyniad i greaduriaid heb sgerbwd mewnol.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.