Ffotograffiaeth Hanesyddol

Carreg anghyflawn ag arysgrif Rufeinig arni, Tŷ Dolaucothi, ger Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin

Carreg anghyflawn ag arysgrif Rufeinig arni, Tŷ Dolaucothi, ger Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin
Cofnodwyd yr arysgrif hon o'r 5ed ganrif gan William Camden, yr Hynafiaethydd enwog, ar ddiwedd y 17eg ganrif. Ym 1767 roedd yn cael ei defnyddio fel postyn giât, ond yna fe'i torrwyd yn ddarnau. Cafodd y tri darn hyn a oroesodd eu symud i Dŷ Dolaucothi ar ôl 1855, a dyna lle y tynnwyd y llun hwn. Maent bellach yn Amgueddfa Caerfyrddin. Mae gan Amgueddfa Cymru gastiau o'r cerrig hyn yn ei chasgliad. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 139 / Edwards (2007) CM5

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin
Other Numbers: 37119/35
Keywords: carreg