Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Roedd Hotel de Marl yn gynllun a ddyfeisiwyd gan ddynion lleol yn Grangetown, Caerdydd, i osgoi Deddf Cau ar y Sul 1881. Byddai grwpiau o ddynion yn cyfarfod mewn pyllau wedi'u cloddio i rannu alcohol ar y Sul. Byddai nifer y dynion a oedd yn yfed yn amrywio drwy gydol y dydd. Gallai hwn fod wedi bod yn gyfnod tawel fel yr awgryma'r capsiwn, 'Small and Select'. Tynnwyd y ffotograff hwn ddydd Sul 28 Mai, 1893.