Ffotograffiaeth Hanesyddol
Y Pasiant Cenedlaethol, Castell Harlech, Sir Feirionydd, 21-26 Awst, 1922.
Mrs J. M. Gresham yn y wisg a wisgodd pan chwaraeodd ran yr Iarlles Mary Dymoke ym Mhasiant Harlech, 1922. Digwyddiadau theatrig oedd pasiantau a oedd yn ail-greu digwyddiadau hanesyddol a chwedlau o hanes Cymru. Roedd pasiantau'n cynnwys cyfranogwyr lleol a ffigurau nodedig mewn cymdeithas, megis y Prif Weinidog Lloyd George, ei wraig y Fonesig Margaret a'u teulu yn chwarae rhai o'r prif rannau.