Castell Caerdydd ar ddechrau'r 20fed ganrif
![](/media/ims/188/optimised/thumb_1600/04_CDFC_0389.png)
Dyluniwyd y wal anifeiliaid y tu allan i fynedfa Castell Caerdydd gan y pensaer, William Burges, ym 1866 ac fe'i hadeiladwyd ym 1890. Symudwyd y wal i ymyl Parc Bute yn y 1920au lle mae'n dal i sefyll heddiw. O 1866 ymlaen cafodd Burges ei gyflogi gan 3ydd Ardalydd Bute i ailddylunio ac adnewyddu Castell Caerdydd yn arddull Adfywiad Gothig Oes Fictoria.