Paladr croes ym mynwent eglwys Sant Illtud gyda John Romilly Allen, Llanilltud Fawr
![](/media/ims/442/optimised/thumb_1600/07_TMFrank_H_1995.png)
Mae'r llun hwn yn dangos ochr paladr croes o'r 10fed ganrif. Fe'i gelwir hefyd yn Groes Samson neu garreg Illtud ac ar hyn o bryd mae yng Nghapel Galilea yn Eglwys Sant Illtud. Mae gan Amgueddfa Cymru gast o'r garreg yn ei chasgliad.
Roedd John Romilly Allen (1847-1907) yn archaeolegydd a oedd yn hanu o deulu o dirfeddiannwyr Cymreig a oedd yn nodedig mewn cylchoedd Eglwysig a Chyfreithiol. Erbyn 1877 roedd yn aelod o bwyllgor cyffredinol Cymdeithas Archaeolegol Cambrian. Cyflwynodd gerrig nadd i'r cyhoedd drwy gymharu Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru ac Iwerddon. Cyhoeddodd bapurau pwysig ar gerrig ag arysgrifau arnynt a cherfluniau cynnar Cymru gan ddatblygu eu hastudiaeth yn gyffredinol a rhoi cerfluniau addurnol Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Nash-Williams ECMW (1950) rhif 222 / Redknap a Lewis (2007) G66