Piler Silindraidd gyda John Romilly Allen, Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr

Y piler silindraidd hwn o'r 10fed - 11eg ganrif yw'r gorau o ddau biler o'r fath sydd yng Nghapel Galilea, Eglwys Sant Illtud. Roedd John Romilly Allen (1847-1907) yn archaeolegydd a oedd yn hanu o deulu o dirfeddiannwyr Cymreig a oedd yn nodedig mewn cylchoedd Eglwysig a Chyfreithiol. Erbyn 1877 roedd yn aelod o bwyllgor cyffredinol Cymdeithas Archaeolegol Cambrian. Cyflwynodd gerrig nadd i'r cyhoedd drwy gymharu Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru ac Iwerddon. Cyhoeddodd bapurau pwysig ar gerrig ag arysgrifau arnynt a cherfluniau cynnar Cymru, gan ddatblygu eu hastudiaeth yn sylweddol a rhoi cerfluniau addurnol Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 224 / Redknap a Lewis (2007) G67

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Llanilltud Fawr
Accession Number: 25.486